URC 'yn dal yn edifeiriol' dros honiadau o rywiaeth

  • Cyhoeddwyd
URCFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae pennaeth dros dro Undeb Rygbi Cymru (URC) yn mynnu fod y corff yn parhau i deimlo edifeirwch am sut y gwnaeth drin honiadau o rywiaeth a chasineb.

Daw sylwadau Nigel Walker wedi i aelod o fwrdd URC farnu rhai honiadau a wnaed mewn ymchwiliad gan y BBC.

Dywedodd Henry Engelhardt nad oedd rhai rhannau o'r rhaglen "yn gywir".

"Mae Henry Engelhardt a phawb arall sy'n ymwneud ag URC dal yn edifeiriol am yr hyn a aeth ymlaen," meddai Mr Walker.

"Mae'n ddrwg gan bobl, mae'n ddrwg gan yr undeb, mae'n ddrwg gen i fod pobl wedi cael eu rhoi trwy'r hyn a welsom ar raglen BBC Investigates, gan gynnwys Henry."

Mae Mr Engelhardt yn gyfarwyddwr anweithredol annibynnol o URC ac yn gyn brif weithredwr cwmni yswiriant Admiral.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Nigel Walker bod 'record Henry Engelhardt yn siarad drosto'i hun'

Dywedodd Mr Walker fod Mr Engelhardt wedi bod yn un o'r cefnogwyr pennaf dros newid llywodraethol o fewn URC.

Ychwanegodd Mr Walker fod y sefydliad wedi bod yn gweithio'n "ddiflino" ers "mwy na thebyg 12 neu 18 mis" i wneud newidiadau i'r drefn llywodraethol.

Pan ofynnwyd iddo a oedd ganddo hyder yn Mr Engelhardt - a oedd wedi defnyddio'r gair "cyffrogarwch" [sensationalism] mewn sgwrs ar bodlediad Walescast i ddisgrifio rhaglen BBC Wales Investigates ar y mater - dywedodd fod ganddo "ffydd ddiamod".

"Mae gen i hyder diamod yn Henry Engelhardt, mae ei record yn siarad drosto'i hun," meddai Mr Walker.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Henry Engelhardt yn aelod o fwrdd Undeb Rygbi Cymru

"Mater iddo ef yw dweud a ddywedodd y peth anghywir neu a allai fod wedi bod hyd yn oed yn fwy cadarnhaol am yr angen am newidiadau," ychwanegodd, gan nodi ei fod wedi trafod yr angen hwnnw ar y podlediad hefyd.

"Ond fe ddywedodd hynny cyn iddo fynd ymlaen i ddweud y pethau. Roedd yno mewn rôl breifat - nid fi sy'n osgoi y mater yma - roedd yno mewn swyddogaeth breifat yn lansio ei lyfr, ond mae gen i ffydd lwyr.

"Nid wyf wedi gweld unrhyw beth yn y ddwy flynedd rwyf wedi bod yn Undeb Rygbi Cymru, o amgylch y bwrdd hwnnw gyda Henry Engelhardt a fyddai'n gwneud i mi gwestiynu ei gymeriad neu neu ei awydd i Undeb Rygbi Cymru fod y sefydliad y mae angen iddo fod yn sgil yr hyn a welsom bedwar mis yn ôl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r AS Tonia Antoniazzi yn galw am fwy o gyd-destun gan Henry Engelhardt ynghylch ei sylwadau ar bodlediad Walescast

Dywedodd AS Gŵyr - y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol, Tonia Antoniazzi - bod Nigel Walker wedi ymateb "yn bwyllog iawn" i sylwadau "annerbyniol" Henry Engelhardt, a'i bod yn "siomedig" nad yw Mr Engelhardt wedi cynnig "mwy o gyd-destun".

Wrth siarad ar raglen BBC Radio Wales Breakfast, dywedodd bod Mr Walker "wedi gweithio'n galed eithriadol... i wneud yn iawn am yr hyn aeth o'i le" o fewn y gêm yng Nghymru, ac felly nad oedd ei sylwadau yn syndod.

"Fyswn i ddim yn disgwyl i Nigel Walker daflu Henry Engelhardt dan y bws... felly dydw i ddim yn synnu. Ond rwy'n siomedig bod Henry heb ddod yn ôl a chynnig mwy o gyd-destun i'r hyn a ddywedodd, oherwydd roedd yr hyn a ddywedodd yn hollol annerbyniol.

"Mae ei enw fel cyn-brif weithredwr Admiral heb ei ail, felly pan fo rhywun fel 'na... yn gwneud y fath sylwadau, ry'ch chi'n tybio beth sy'n mynd o'i le."

Roedd Mr Engelhardt, meddai, wedi "dilorni" rhaglen BBC Wales Investigates a honiadau'r unigolion oedd yn sail iddi - honiadau a gafodd "eu hategu fis gan brofiad Amanda Blanc [cyn-gadeirydd Bwrdd Rygbi Proffesiynol URC]".

Ychwanegodd Ms Antoniazzi ei bod yn 'nabod "sawl un arall" oedd wedi cael profiad o rywiaeth "a oedd methu mynd ar y rhaglen oherwydd y pwysau arnyn nhw o ganlyniad".

Pynciau cysylltiedig