Carol Byrne Jones: Cofio menyw oedd yn 'ffrind i gymaint o bobl'
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Carol Byrne Jones - athrawes, darlithydd, bardd a chynhyrchydd y ffilm 'Tân ar y Comin' ymysg rhaglenni eraill.
Bu farw yn 80 oed yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin wedi gwaeledd byr.
Un o Ddyffryn Teifi oedd Carol Byrne Jones ac ar hyd ei hoes fe ymddiddorodd yn fawr ym myd ffilm, drama a theledu.
Wedi ei chyfnod yn Ysgol Ramadeg Llandysul a Choleg Prifysgol Caerdydd aeth yn drefnydd drama i Sir Frycheiniog.
Yna bu'n darlithio yn Nulyn ac wedi cyfnod yn dysgu Drama a Saesneg yn Aberteifi aeth i weithio i HTV yng Nghaerdydd a'r Wyddgrug, "gan ddod y fenyw gyntaf i gyfarwyddo rhaglenni i'r cwmni".
"Roedd hi wrth ei bodd yn y gwaith hwnnw a maes o law roedd hi'n falch iawn o ffurfio cwmni ei hun, Y Wennol Cyf, a mor falch o gael cynhyrchu y ffilm Tân ar y Comin o waith T Llew Jones," medd ei brawd Ken Jones wrth siarad â Cymru Fyw.
"Fe gyfieithodd hi'r nofel i'r Saesneg - Gipsy Fires ac yna aeth i ddarlithio ar ffilm a drama i Brifysgol Llambed gan wneud gradd doethuriaeth yn y maes.
"Doedd dim stop arni - roedd hi mor frwdfrydig am bob dim. Roedd hi a fi yn mwynhau trafod cerddi ac ambell feirniadaeth ar ein gwaith bob bore Gwener - fe fyddai'n ei cholli'n fawr."
Bu hefyd yn Ddarlithydd Cynhyrchu yn yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Wrth roi teyrnged iddi dywedodd Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi S4C: "Mae'n siŵr y bydd cenedlaethau o wylwyr S4C yn cofio ffilm Tân ar y Comin, clasur gafodd ei seilio ar nofel T. Llew Jones.
"Mae'r ffilm yn enghraifft wych o waith Carol Byrne Jones, ffilm sy'n dal i gael ei gwerthfawrogi hyd heddiw."
"Roedd hi'n ffrind i gymaint o bobl," meddai bardd a'r ymgyrchydd Philippa Gibson.
"Fe fyddai hi mor frwdfrydig am bob dim - yn enwedig gyda phapur bro Y Gambo. Roedd hi'n golygu y papur yn aml a wastad yn fodlon camu mewn os nad oedd neb arall ar gael.
"Byddai hi wrth ei bodd yn nosbarth cynganeddu Ceri Wyn Jones a dosbarth trafod cerdd Idris Reynolds, roedd hi'n aelod ffyddlon o Gymdeithas Ceredigion ac yn aelod selog o dîm Talwrn y Beirdd Glannau Teifi.
"Pan 'nes i weld hi gyntaf roedd carafán y ffilm Tân ar y Comin yn ei gardd hi. Roedd hi wastad mor groesawgar, cyfeillgar, cynnes ac yn agos atoch chi ac yn help mawr hefyd i bobl sy'n dysgu Cymraeg."
'Cyfoeth o wybodaeth'
"Roedd hi'n fenyw eang ei diwylliant," meddai'r Prifardd Idris Reynolds.
"Roedd ganddi gyfoeth o wybodaeth - yn enwedig ym maes llenyddiaeth. Roeddwn i'n falch iawn o'i chael yn y dosbarth trafod llenyddaieth.
"Roedd yr hyn oedd ganddi i'w ddweud yn werth gwrando arno bob amser. Yn sicr bydd colled fawr ar ei hôl."
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: "Mae'r Brifysgol wedi ei thristáu o glywed am farwolaeth gynamserol Carol Byrne Jones.
"Bu'n darlithio ym maes Ffilm a Theledu ar gampws y Brifysgol yn Llambed yn ystod degawd cyntaf y ganrif lle bu'n arloesi ym maes darlledu cymunedol gyda mudiadau megis Clybiau Ffermwyr Ifainc Cymru, Merched y Wawr ac ysgolion lleol.
"Credai'n gryf y gallai technoleg gyfryngol hyrwyddo gweithgareddau a diwylliant lleol."
Mae'n gadael dau fab Huw a Conor a brawd, Ken Jones.