Byddai cau canolfan Cyfoeth Naturiol Cymru yn 'drychineb'
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchydd wedi addo mynd â'r frwydr i achub canolfan ymwelwyr yng nghanolbarth Cymru i'r Senedd, gan ddweud y byddai colli'r adnodd yn "drychineb i fywyd gwyllt".
Daw sylw June Lincoln yn sgil ansicrwydd am ddyfodol canolfannau ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wrth i'r corff edrych ar ba wasanaethau y gallan nhw barhau i ariannu.
Mae dros 2,700 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am beidio cau canolfan ymwelwyr Ynyslas yng Ngheredigion.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, maen nhw'n cynnal adolygiad o'r hyn y maen nhw'n gallu parhau i'w wneud a bod canolfannau ymwelwyr yn rhan o'r adolygiad hwnnw.
Yn ogystal â'r ganolfan yn Ynyslas, sy'n warchodfa natur ar aber Afon Dyfi, mae gan CNC ganolfannau ym Mwlch Nant yr Arian ger Ponterwyd yng Ngheredigion, ac yng Nghoed y Brenin ger Dolgellau yng Ngwynedd.
Mae'r ddau leoliad yn boblogaidd iawn ymhlith beicwyr mynydd.
Pan glywodd June Lincoln, o Ynyslas, bod ei chanolfan ymwelwyr lleol yn cau fe luniodd hi ddeiseb ar-lein a lwyddodd i ddenu miloedd o lofnodion mewn mater o ddyddiau.
Ond mae Ms Lincoln, sy'n dysgu gofal anifeiliaid yng Ngholeg Ceredigion ac yn aml yn mynd â myfyrwyr ar deithiau i Ynyslas, bellach yn dweud ei bod am ddechrau deiseb arall i'r Senedd.
"Fe fyddai cau'r ganolfan ymwelwyr yn Ynyslas yn cael goblygiadau pellgyrhaeddol... fe fyddai'n drychineb i fywyd gwyllt," meddai.
"Mae'r wardeniaid yma yn gofalu am y lle, ma' nhw'n pigo'r sbwriel, yn pigo baw cwn, gwneud yn siŵr nad oes pethau sydd ddim fod i ddigwydd yn digwydd.
"Ma' nhw'n cadw golwg ar y cwtiaid - dyna be dwi'n poeni amdano fwyaf, maen nhw ond wedi dod 'nôl am y ddwy flynedd ddiwetha', ac os yw pobl yn gallu mynd yno, fyddwn ni'n eu colli."
Ychwanegodd Ms Lincoln: "Fy neges i yw bod gennym ni dri mis, ac mae'n rhaid sicrhau bod pawb yn gwybod. Fe fyddwn ni'n deisebu'r Senedd."
Yn ôl Ffion Jones, sy'n byw tua saith milltir i ffwrdd, byddai cau'r ganolfan yn golled: "Ni'n mynd 'na yn aml yn yr haf, ac weithiau yn y gaeaf hefyd.
"'Da ni'n cerdded a ni'n defnyddio'r tŷ bach a weithia'n mynd i'r caffi bach sydd yno.
"Bydde fe'n wael iawn i'w gau e achos dwi'n credu bod pobl yn dod i weld y traeth a falle cael gwell syniad o'r lleoliad."
Canolfan arall sydd â dyfodol ansicr yw Bwlch Nant yr Arian, sy'n lleoliad beicio mynydd poblogaidd.
Yn ôl ffigyrau Croeso Cymru'r llynedd, fe wnaeth dros 111,000 o bobl ymweld â'r safle yn 2021.
Mae Griff Lewis o Bow Street yn ymweld â'r ganolfan yno pan yn defnyddio'r llwybrau beicio mynydd.
"Bydd e'n siom fawr i bobl leol sy'n dod lan bob penwythnos i fynd â'r cŵn am dro, neu joio diwrnod mas gyda'r teulu," meddai.
"Pryd fi'n dod lan ar y beics gyda'r bois ni'n mynd am loop bach, cael rhywbeth bach i gnoi ac wedyn nôl mas ar y beics eto. Mae'n really dda 'ma."
'Cyllid cyhoeddus yn dynn iawn'
Mewn datganiad fe ddywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod nhw'n deall bod eu canolfannau yn cael eu gwerthfawrogi gan bobl leol ac ymwelwyr.
Ond gan fod cyllid cyhoeddus yn dynn iawn ar draws y Deyrnas Unedig, meddai'r datganiad, mae'n rhaid cynnal adolygiad i benderfynu pa wasanaethau y bydd modd eu darparu yn y dyfodol.
"Mae ein canolfannau ymwelwyr yn rhan o'r adolygiad yma," medd y datganiad, "ond does dim penderfyniad eto ar sut y byddan nhw'n gweithredu yn y dyfodol.
"Dros y misoedd nesa fyddwn ni'n edrych ar opsiynau ac argymhellion ar gyfer y dyfodol, ac fe fydd penderfyniad terfynol ar gyfer 2024/25 yn cael ei wneud gan ein Bwrdd cyn diwedd Mawrth.
"Fe fyddwn ni parhau i weithredu safle Ynyslas yn ystod y flwyddyn ariannol yma. Yn ymarferol mae hynny'n meddwl bydd y ganolfan ar agor fel arfer rhwng Ionawr a diwedd Mawrth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd1 Mai 2023