Cynllun i greu pedwerydd parc cenedlaethol yng Nghymru

Disgrifiad,

Ymateb cymysg sydd wedi bod i'r cynlluniau yn lleol

  • Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau ar waith i gyflwyno parc cenedlaethol newydd yng Nghymru, a hynny yn y gogledd-ddwyrain.

Ond gyda thri o barciau cenedlaethol yng Nghymru eisoes, mae rhai yn cwestiynu gwerth sefydlu un arall.

Os caiff ei gadarnhau gan Lywodraeth Cymru, y bwriad yw creu'r parc erbyn diwedd tymor y Senedd yn 2026.

Bydd y cyfnod ymgysylltu presennol yn dod i ben ddydd Llun, 27 Tachwedd.

Dyma fyddai'r parc cenedlaethol cyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru ers Bannau Brycheiniog yn 1957.

Ond beth fyddai creu parc cenedlaethol yn yr ardal yn ei olygu i drigolion y gogledd-ddwyrain?

Mae’r effaith ar dwristiaeth, yr amgylchedd, caniatâd cynllunio a’r economi yn rhai o'r ffactorau sydd wedi cael eu hystyried.

Mae’r ardal sy'n cael ei hystyried ar hyn o bryd yn ymestyn o’r glannau yng ngogledd Sir Ddinbych, i lawr am Fryniau Clwyd ac yna i Ddyffryn Ardudwy.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, nid dyma ffiniau terfynol y parc, ac mae’n debygol y bydd yn cael ei addasu yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Yn ystod y mis diwethaf mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn cynnal digwyddiadau i roi cyfle i bobl ddysgu mwy a chynnig adborth ar gynlluniau cychwynnol i greu pedwerydd parc yn y gogledd-ddwyrain.

A hithau’n ddyddiau cynnar yn y broses, mae’r farn ar hyn o bryd yn gymysg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sara a Gwion Evans yn gweld manteision ac anfanteision i'r syniad o greu parc newydd

Mae Sara Evans, un o berchnogion Maes Carafanau Llanbenwch ger Rhuthun, yn gefnogol o'r cynlluniau.

"Fel busnes yn yr adran dwristiaeth mae o'n grêt i ni. 'Neith o ddod â mwy o fusnes gobeithio," meddai.

"Bydd mwy o garafanau ac yna byddan nhw’n defnyddio’r caffi a’r siop hefyd."

Ychwanegodd ei gŵr Gwion Evans, sydd hefyd yn berchennog ar y busnes: “Dwi’n meddwl y bydd busnesau bach yn y dref yn manteisio.

"Mae hi wedi bod yn anodd iawn hefo Covid, ma' prisiau pethau 'di mynd fyny a ma' ‘na lawer yn stryglo.

"Ma' 'na lawer o siopau yn Rhuthun yn wag, felly wrach fydd bosib cychwyn busnesau eraill yno.”

'Poeni' am reolau cynllunio

Ond mae'r cwpl yn cydnabod nad ydy’r cynlluniau i bawb, ac er y buddion, mae ganddyn nhw eu pryderon hefyd.

"'Da ni yn poeni ‘chydig am unrhyw reolau neith ddod i mewn fysa’n gallu rhwystro ni rhag symud ymlaen yn y dyfodol, o ran cynllunio a datblygu’r busnes,” ychwanegodd Mr Evans.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhian Pierce am weld mwy o fanylion am sut y byddai'r cynllun yn effeithio ar fywyd gwyllt

Mae eraill yn dadlau bod gormod o bwyslais ar harddwch a’r cyfleoedd hamdden a ddaw gyda sefydlu parc cenedlaethol, a’i fod yn aneglur sut y bydd yn gwarchod bioamrywiaeth a bywyd gwyllt yn yr ardal.

Mae Rhian Pierce yn ffermio ger Llangynhafal ac mae ganddi ddiddordeb mewn byd natur.

“'Da ni mewn biodiversity crisis a fyswn i’n hoffi gweld mwy yn y cynlluniau yn ymwneud â bywyd gwyllt," meddai.

Oes angen dysgu gwersi o dramor?

Mae Ms Pierce - sydd wedi gweithio yn y maes cadwraeth yn y gorffennol ac yn deall sut mae parciau cenedlaethol mewn gwledydd tramor yn gweithredu - yn dadlau y dylai parciau yng Nghymru fabwysiadu'r un strwythurau.

“Hoffwn i weld parc lle ma' 'na lefydd lle dydi pobl ddim yn mynd," meddai.

"Lle ma' 'na no access zone, limited access zone ac yna ardal lle ma' 'na fwy o lwybrau cyhoeddus ac ati.”

Dydi Ms Pierce ddim yn gweld y cynllun yn cael llawer o effaith arni hi, gan ei bod eisoes yn byw mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol.

“Yn yr ardal yma 'da ni wedi bod yn yr AONB ers blynyddoedd rŵan a dwi ddim yn meddwl bydd parc cenedlaethol yn gwneud llawer o wahaniaeth i ni yn bersonol.

"'Da ni wedi arfer hefo rheolau planning yn yr ardal ers tipyn."

Disgrifiad o’r llun,

Byddai parc newydd yn gwthio prisiau tai i fyny, yn ôl y cynghorydd Elwyn Vaughan

Ychydig i’r de, yng ngogledd Powys, mae yna gwestiynau yn codi a ddylai’r ardal honno gael ei hystyried o gwbl.

Mae yna amheuon hefyd am allu’r sir i ariannu’r parc gan fod Powys eisoes yn rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Roedd y cynghorydd sir lleol, Elwyn Vaughan, yn bresennol yn un o’r digwyddiadau ymgysylltu yn nhref Llanfyllin.

“Dwi’n cael trafferth gweld be fydd y budd i’r ardal yma," meddai.

"Doeddwn i ddim yn ystyried Sir Drefaldwyn fel rhan o’r gogledd-ddwyrain. Dwi’n credu bod pobl leol yma wedi cael sioc."

Ychwanegodd: “Mae parciau cenedlaethol yn creu pwysau ychwanegol.

"Mae statws parc cenedlaethol yn creu delwedd ramantus iawn i nifer o bobl yn y dinasoedd ac yna mae pobl yn heidio yma.

"Mae hyn hefyd yn rhoi pwysau ychwanegol ar dai, gan wthio prisiau i fyny yn yr ardal, a ma' hynny eisoes yn broblem fel 'da ni'n gwybod.”

'Lladd y gymuned a'r iaith'

Mae Tom Evans, sy'n ffermio yn ardal Llanrhaeadr-ym-mochnant, yn gwrthwynebu’r cynlluniau yn gryf.

“Dwi ddim yn gweld yr un fantais o gael parc newydd, dim ond anfanteision," meddai.

"Mae’r ardal yn denu digon o dwristiaeth fel mae hi.

"Fydd y ffyrdd methu ymdopi a does dim digon o feysydd parcio i'r holl ymwelwyr.”

Disgrifiad o’r llun,

Gallai'r cynlluniau gael effaith negyddol ar yr iaith a'r gymuned, yn ôl Tom Evans

Yn dad i bedwar o blant, mae Tom yn poeni am eu dyfodol yn byw o fewn ffiniau parc cenedlaethol.

“Mae hi’n mynd yn anoddach cadw pob cenhedlaeth yng nghefn gwlad Cymru," meddai.

"Mae mwy a mwy yn symud i ffwrdd, methu ffeindio gwaith a methu cael tai.

"Ma' gen i ofn bydd y parc 'ma yn lladd y gymuned ac yn lladd yr iaith Gymraeg.

"Mae’n poeni fi na fyddan nhw'n cael yr un cyfle i fyw a magu plant yn eu milltir sgwâr."

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried yr holl adborth cyn mynd ati i lunio map ar gyfer y cyfnod ymgysylltu nesaf yn 2024.

Yna, bydd cyfnod ymgynghori yn digwydd cyn y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflwyno'r argymhelliad i Lywodraeth Cymru ar sail y dystiolaeth fydd yn cael ei gasglu.

Gall Gorchymyn Dynodi gael ei gyflwyno os ydy’r meini prawf perthnasol yn cael eu bodloni.

Yn 2026, bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu cadarnhau, gwrthod neu amrywio’r gorchymyn.

Os caiff ei gadarnhau, bydd Parc Cenedlaethol newydd yn cael ei greu yn y gogledd-ddwyrain.