Gorfod torri 1,300 o goed heintiedig ar Stad yr Hafod

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y cyngor i'r cyhoedd yw i gadw draw o’r ardaloedd lle mae’r gwaith yn digwydd ar Stad Hafod

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dweud bod ardal o goedwig sy'n boblogaidd gyda cherddwyr a beicwyr yng ngogledd Ceredigion yn parhau ar agor wrth i waith torri coed barhau.

Mae tua 1,300 o goed ar Stad Hafod ger Aberystwyth yn cael eu dymchwel ar hyn o bryd wedi iddi ddod i'r amlwg bod nifer o'r coed wedi eu heintio, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Er bod gwaith torri coed yn digwydd ar draws ardal 16.1 erw (6.5 hectar) ar y safle er mwyn cael gwared ar y coed sydd ag afiechydon gan gynnwys canser y pinwydd, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dweud bod dal modd i ymwelwyr fynd i ymweld.

Mae'r coed bellach mewn cyflwr gwael, ac yn dangos olion eu bod nhw'n gwywo.

Er bod rhai llwybrau yn parhau ar agor, mae rhai wedi cau er mwyn sicrhau diogelwch yn ôl Gwenno Griffith o'r ymddiriedolaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Gwenno Griffith o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol bod y gwaith yn digwydd ar adeg pan mae llai o ymwelwyr

Dywedodd Gwenno Griffith: "Ydy, mae'r ymweliad yn wahanol, ond wrth i bobl ddod i'r maes parcio ma' posib gweld pa lwybrau sydd ar agor, mae 'na fap i'w weld ar y we i chi allu gweld cyn cyrraedd hefyd.

"Mae'r rhan fwya o lwybrau ar agor, jyst darn bach sydd ar gau oherwydd y gwaith cwympo coed.

"Mae diogelwch yn ffactor, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio gyda ni i neud yn siŵr bod y gwaith yn digwydd ar gyfnod lle nad oes gormod o effaith ar ymwelwyr".

Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 1,300 o goed yn cael eu dymchwel ar Stad yr Hafod gan bod nifer o'r coed wedi eu heintio

Er taw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n gofalu am Stad yr Hafod, Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gofalu am y goedwig yno.

Gyda pheiriannau trwm yn cael eu defnyddio i glirio'r coed, mae'r cyhoedd yn cael eu cynghori i gadw draw o'r ardaloedd lle mae'r gwaith yn digwydd, ond mae rhan helaeth o'r safle ar agor.

Wedi i'r coed gael eu dymchwel fe fydd y gwaith plannu yn dechrau.

Roedd hynny yn rhan o'r cynllun hir dymor beth bynnag yn ôl Jaqcueline Roberts o CNC.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth cyflwr y coed ddirywio'n gloi, medd Jacqueline Roberts

"Roedd lot o'r diseases yma wedi cael eu gweld yn y coed ddechrau'r flwyddyn," meddai Jacqueline Roberts.

"Roedden nhw'n cael eu monitro, ac roedd condition y coed wedi dirywio yn gloi iawn, felly roedd yn rhaid i ni ddod mewn yn lot mwy cloi.

"Y prif disease ni'n sôn am fan hyn yw'r canker fir, ond mae 'na lot o glefydau gwahanol ar y coed yma.

"Ni'n gallu gweld ar y coed bod nhw'n brittle iawn a bod y bark yn cwympo oddi arnyn nhw a d'yn nhw ddim yn saff iddyn nhw fod yn aros yn sefyll.

"Bydd y coed yn cael eu defnyddio mewn pallet packaging, falle fyddan nhw'n mynd i construction os yw'r coed yn iawn i neud 'na, a bydd peth yn mynd i chip hefyd.

"Bydd y coed sy'n dod nôl fan hyn fwy naturiol - broadleaf trees. Roedd hwn yn arfer bod yn ardal o ancient woodland.

"Y cynllun tymor hir oedd i dorri'r coed 'ma lawr ac wedyn dod a rhywogaethau naturiol mewn. So ma'r broses wedi cael ei speedo lan."

Mae dal croeso i ymwelwyr yn ystod y cyfnod yma ond mae nifer cyfyngedig o lwybrau wedi cau.