Pum mlynedd y Prif Weinidog mewn lluniau
- Cyhoeddwyd
Wrth i Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford gyhoeddi ei fod yn gadael ei swydd mae'r lluniau yma yn dangos bod cryn dipyn wedi digwydd yn ystod ei bum mlynedd wrth y llyw.

Un o ddyletswyddau mwy pleserus arweinydd gwlad - llongyfarch tîm rygbi Cymru wedi iddyn nhw ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad fis Mawrth 2019

Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford yn cyfarfod Prif Weinidog Prydain Boris Johnson yng Nghaerdydd ar 30 Gorffennaf 2019, cyn i densiynau godi yn sgil Covid

Ymgyrchu yn Y Barri gydag arweinydd Llafur ar y pryd Jeremy Corbyn fis Rhagfyr 2019, ar ôl i Boris Johnson alw am etholiad cyffredinol brys. Fe wnaeth Johnson ennill yn gyfforddus a dychwelyd i Rif 10 Downing Street

Fe gododd proffil Mark Drakeford yn sylweddol yng Nghymru a thu hwnt yn ystod y pandemig, diolch i gynadleddau'r wasg rheolaidd, fel yr un yma fis Rhagfyr 2021. Roedd Llywodraeth Cymru weithiau'n dilyn llwybr gwahanol i Lywodraeth San Steffan, a arweiniodd at densiwn gyda Llundain tra'n codi ymwybyddiaeth o ddatganoli

Ymweld â siop sglodion Page yng Nghwmbrân ar 3 Awst 2020 wrth i gaffis, tai bwyta a thafarndai ddechrau gweini tu fewn wedi i rai o ganllawiau'r cyfnod clo gael eu llacio

Fe wnaeth y brechlyn alluogi mwy o lacio ar y cyfyngiadau ond roedd ei weithredu yn sialens enfawr. Dyma'r Prif Weinidog gyda'r brechlyn Covid Pfizer-BioNTech mewn canolfan yng Nghaerdydd fis Chwefror 2021. Roedd 440,000 o bobl wedi derbyn y brechlyn pan dynnwyd y llun yma, wedi i'r cyntaf gael ei roi ar 8 Rhagfyr 2020

Ymweld â Sgiwen fis Ionawr 2021 yn dilyn llifogydd difrifol wedi Storm Christoph

Mark Drakeford yn siarad efo un o gefnogwyr Llafur wrth ganfasio yn Porth rai dyddiau cyn etholiad Senedd Cymru yn 2021

Mark Drakeford a'i ddiweddar wraig Clare yn gadael Neuadd Eglwys St Catherine yn ei etholaeth yng Ngorllewin Caerdydd, ar ôl pleidleisio yn etholiadau'r Senedd ar 6 Mai, 2021. Dyma'r tro cyntaf i bobl ifanc 16 ac 17 oed gael pleidleisio. Bu farw Clare Drakeford fis Ionawr 2023

Fe wnaeth etholaeth Cymru roi sêl bendith i ymateb Mark Drakeford i'r pandemig gan roi buddugoliaeth i Lafur yn etholiad 2021

Dwy wnaeth elwa yn yr etholiad oedd aelodau senedd newydd dros Lafur, Buffy Williams a Sarah Murphy

Cyfarfod arweinydd un o'r gwledydd eraill datganoledig - Prif Weinidog Yr Alban Nicola Sturgeon

Cael ei urddo yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yn 2022. Wrth gymryd yr enw barddol 'Mark Pengwern', a hynny i gymeradwyaeth hiraf y dydd, derbyniodd y Prif Weinidog ganmoliaeth gan yr Archdderwydd am ei "arweiniad urddasol drwy gyfnod Covid a'r cyfnodau clo"

Cyfarfod y Brenin Charles yng Nghastell Caerdydd ar ei ymweliad cyntaf i Gymru ers dod yn frenin, fis Medi 2022

Yng Nghaergybi fis Mawrth 2023 gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru David TC Davies, Ian Hampton o Stena Line a Phrif Weinidog Prydain Rishi Sunak er mwyn cyhoeddi buddsoddiad i'r porthladd