Teyrnged i ddyn 'cariadus a doniol' fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ger Llangollen wedi dweud ei fod yn "fab, brawd, ewythr a ffrind arbennig" ac y bydd "colled enfawr ar ei ôl".
Roedd John Michael Thomas, oedd yn cael ei adnabod fel Mike, yn 29 oed ac yn byw yn ardal Corwen.
Bu farw mewn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char ar ffordd yr A539 ger pentref Trefor.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad toc wedi 18:30 ar nos Sadwrn 2 Rhagfyr, ond bu farw Mr Thomas yn y fan a'r lle.
Dyn 'cariadus a doniol'
Dywedodd ei deulu mewn datganiad bod "colli Mike wedi gadael bwlch enfawr yng nghalonnau pawb - ei deulu, y gymuned a'i grŵp o ffrindiau".
"Wnawn ni fyth anghofio pa mor gariadus a doniol oedd Mike. Roedd ganddo'r ddawn i allu gwneud i bawb wenu a chwerthin ar ddiwrnod gwael.
"Fe wnaeth Mike fwynhau ei fywyd drwy wneud yr hyn yr oedd yn ei garu - mynd allan ar ei feic gyda'i ffrindiau a threulio amser gyda'i deulu."
Fe gadarnhaodd yr heddlu nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ond maen nhw'n dal i apelio ar unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â lluniau dashcam all fod o ddefnydd i gysylltu â nhw ar unwaith.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2023