Emma Finucane yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2023

  • Cyhoeddwyd
Emma Finucane
Disgrifiad o’r llun,

Emma Finucane yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru ar gyfer 2023

Mae'r seiclwr trac Emma Finucane wedi cael ei henwi'n Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru ar gyfer 2023.

Ym mis Awst enillodd Emma ei theitl byd cyntaf ym Mhencampwriaethau Seiclo'r Byd - dim ond y drydedd fenyw o Brydain i gipio'r teitl, ac y ieuengaf a hithau ond yn 20 oed.

"Mae hyn yn swrreal! Rydw i'n gwerthfawrogi bod pobl wedi gwerthfawrogi'r hyn rydw i wedi'i wneud," meddai, wrth dderbyn y wobr.

"Mae'n braf cael y wlad tu ôl i mi, yn fy nghefnogi.

"Rydyn ni'n wlad eithaf bach ond mae cael yr angerdd tu ôl i ni, ac i'w chael ar fy llawes hefyd, yn bwysig iawn."

Mae 2023 wedi bod yn flwyddyn fawr i Finucane, wrth iddi gipio'r pedwar teitl sbrintio merched yn y Pencampwriaethau Trac Cenedlaethol, ennill dwy fedal arian ym Mhencampwriaethau Ewrop ac yna ei buddugoliaeth unigol gyntaf yng Nghwpan Trac y Cenhedloedd.

Hynny oll cyn iddi ennill ei theitl byd cyntaf ym Mhencampwriaethau Seiclo'r Byd.

'Perfformiadau anhygoel eleni'

Dechreuodd Emma Finucane, o Gaerfyrddin, reidio pan oedd hi'n wyth oed, gyda'i chwaer iau Rosie yn y Towy Riders.

Cafodd ei dewis i ymuno â rhaglen yr academi gan Dîm Seiclo Prydain yn 2018, ac aeth ymlaen i ddod yn bencampwraig iau Ewrop flwyddyn yn ddiweddarach.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Emma Finucane yw'r fenyw ieuengaf o Brydain i gipio'r teitl ym Mhencampwriaethau Seiclo'r Byd

Penderfynwyd ar yr enillydd gan banel o feirniaid dan gadeiryddiaeth y pencampwr Paralympaidd y Farwnes Tanni Grey-Thompson, sydd wedi ennill y wobr ei hun deirgwaith.

Roedd y beirniaid hefyd yn cynnwys prif swyddog gweithredol Criced Cymru Leshia Hawkins, cyfarwyddwr Chwaraeon Cymru Owen Lewis, yr Athro Katie Thirlaway a chwaraewr pêl-droed a phêl-rwyd ryngwladol Cymru Nia Jones.

Enwau eraill a gafodd eu crybwyll ar gyfer y wobr oedd y bocswyr Lauren Price a Joe Cordina, y chwaraewr dartiau Gerwyn Price, y para-athletwr Aled Sion Davies, y nofiwr Matt Richards a chapten tîm pêl-droed Cymru Sophie Ingle.

Dywedodd Tanni Grey-Thompson - cadeirydd y panel a benderfynodd ar yr enillydd - am Finucane: "Mae hi wedi cael perfformiadau anhygoel eleni, yn enwedig i rywun mor ifanc.

"Mae ei pherfformiadau unigol yn anhygoel, ac o edrych yn ôl ar hanes seiclo menywod yn y DU, mae ganddi lawer iawn i'w edmygu.

"O edrych ar y dylanwad y mae gwlad fach fel Cymru wedi'i gael ar y gamp hon, mae'n wych."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn 20 oed daeth Finucane yn bencampwr sbrint y byd - yr ieuengaf ers bron i hanner canrif.

Hi yw enillydd cyntaf Prydain yn y ddisgyblaeth ers buddugoliaeth Cymraes arall - Becky James - yn 2013.

"Dwi 'di bod eisiau bod yn bencampwr byd ers i mi fod yn 10 oed," meddai Finucane.

"Yn amlwg dwi'n edrych lan at Becky James. Mae hi'n ysbrydoliaeth enfawr i fi achos mae hi'n Gymraes."

Mae Emma Finucane nawr yn ymuno â rhestr hir o enwogion sydd wedi ennill y wobr - gan gynnwys un arall o'i harwyr, Geraint Thomas, sydd wedi ennill y wobr dwywaith.

Mae'r enillwyr blaenorol yn cynnwys y para-athletwr Olivia Breen, capten rygbi Cymru Alun Wyn Jones, y bocsiwr Joe Calzaghe a'r pêl-droediwr Gareth Bale.