Y Bencampwriaeth: y ddau dîm o Gymru yn colli

  • Cyhoeddwyd
Aaron Connolly yn dathlu ei golFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Connolly yn dathlu ei gôl i Hull yn erbyn Caerdydd

Colli fu hanes y ddau dîm o Gymru yn y Bencampwriaeth, gyda thîm y brif-ddinas yn colli'n drwm oddi cartref yn Hull a'r Elyrch yn colli gartref yn erbyn Middlesbrough.

Roedd Caerdydd wedi gobeithio atal eu cwymp diweddar ond colli unwaith eto fu eu hanes a hynny o 3-0.

Sgoriodd y tîm cartref ddwy gôl o fewn pum munud i'w gilydd yn yr ail hanner gan sicrhau eu bod yn codi i'r pumed safle yn y Bencampwriaeth.

Mae Caerdydd wedi disgyn i ganol y tabl yn sgil y golled.

Cafodd Abertawe ganlyniad siomedig arall gan golli o 1-2 ynerbyn Middlesborough.

Er i Lowe sgorio i'r Elyrch ar gychwyn yr ail hanner i union i'r sgôr, roedd gôl Silvera wedi 78 munud yn ddigon i roi'r fuddugoliaeth i'r tîm o ogledd ddwyrain Lloegr.