Meddygon iau Cymru i streicio am 72 awr dros gyflogau

  • Cyhoeddwyd
docFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd meddygon iau yng Nghymru yn streicio am 72 awr ym mis Ionawr yn dilyn anghydfod dros eu tâl.

Roedd 98% o'r 1,740 wnaeth fwrw pleidlais o blaid streicio, gyda'r streic i'w chynnal o 07:00 ar 15 Ionawr.

Yn ôl Cymdeithas Feddygol y BMA mae cyflogau meddygon iau wedi gostwng 29.6% mewn termau real ers 2008-2009.

Roedd BMA Cymru wedi cyhoeddi anghydfod ffurfiol gyda Llywodraeth Cymru ym mis Awst.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "siomedig" gyda'r penderfyniad ond "nid oedden nhw mewn sefyllfa i gynnig rhagor ar hyn o bryd".

Daeth y bleidlais wedi i BMA Cymru wrthod y cynnig diweddaraf o 5% o gynnydd i gyflogau gan y llywodraeth.

Mae meddygon wedi cael y codiad cyflog yna gan Lywodraeth Cymru, ond mae'r BMA yn dweud fod hynny wedi cael ei orfodi ar aelodau.

Mae'r codiad 1% yn is na'r 6% oedd wedi'i awgrymu gan y corff sy'n cynghori'r llywodraeth ar dâl.

Yn ôl y gymdeithas gallai'r streic olygu bod dros 3,000 o feddygon yn gweithredu.

65% o'r rheiny oedd yn gymwys wnaeth fwrw eu pleidlais.

Ffynhonnell y llun, ANDY RAIN/EPA-EFE/REX/SHUTTERSTOCK

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Dr Oba Babs-Osibodu a Dr Peter Fahey, cyd-gadeiryddion pwyllgor meddygon iau BMA Cymru: "Mae'r bleidlais hon yn amlwg yn dangos cryfder y teimlad.

"Rydym yn rhwystredig ac yn ddig ac rydym wedi pleidleisio'n glir i ddweud, 'yn enw ein proffesiwn, ni allwn ac ni fyddwn yn erydu ein cyflog ymhellach'.

"Bydd meddyg sy'n dechrau eu gyrfa yng Nghymru yn ennill cyn lleied â £13.65 yr awr, ac fe allen nhw fod yn perfformio triniaethau i achub bywydau pobl, a chael cyfrifoldebau enfawr.

"Dydyn ni ddim yn gofyn am godiad cyflog - rydyn ni'n gofyn i'n tâl ddychwelyd lefelau 2008, i gyd-fynd â chwyddiant, sef pryd y dechreuon ni weld ein cyflog yn cael ei dorri mewn termau real."

Beth yw meddyg iau?

Mae bron i 4,000 o feddygon iau yn gweithio yn ysbytai a meddygfeydd Cymru.

Maen nhw'n feddygon sydd wedi cymhwyso, ac yn cynnwys y rheiny sydd newydd adael y brifysgol hyd at y rheiny sydd wedi bod yn y swydd am flynyddoedd lawer.

Mae pob meddyg sy'n dal i hyfforddi - boed hynny'n hyfforddi i fod yn feddyg teulu neu'n ymgynghorydd mewn ysbyty - yn cael ei ystyried yn feddyg iau.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y BMA gallai'r streic olygu bod dros 3,000 o feddygon yn gweithredu

Ar hyn o bryd, tâl sylfaenol meddyg iau sydd yn eu blwyddyn gyntaf ar ôl cymhwyso fel meddyg ydy £27,115, neu tua £13 yr awr os yn gweithio wythnos 40 awr.

'Ddim mewn sefyllfa i gynnig rhagor'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n siomedig bod meddygon wedi pleidleisio dros weithredu diwydiannol ond rydym yn deall cryfder eu teimladau am y cynnig cyflog o 5%.

"Er ein bod yn dymuno mynd i'r afael â'u huchelgeisiau cyflog, mae ein cynnig ar derfyn y cyllid sydd ar gael i ni ac yn adlewyrchu'r sefyllfa a gyrhaeddwyd gydag undebau iechyd eraill ar gyfer eleni.

"Heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, nid ydym mewn sefyllfa i gynnig rhagor ar hyn o bryd.

"Byddwn yn parhau i bwyso arnynt i drosglwyddo'r cyllid sydd ei angen ar gyfer codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus.

"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth gyda'r BMA a chyflogwyr y GIG a byddwn ar y cyd yn sicrhau bod diogelwch cleifion yn cael ei ddiogelu yn ystod gweithredu diwydiannol."

Dywedodd llefarydd o Lywodraeth y DU fod "Llywodraeth Cymru wedi'i ariannu'n dda er mwyn cyflawni ar ei gyfrifoldebau datganoledig - gan gynnwys iechyd - gan ein bod ni'n rhoi £18bn y flwyddyn iddo, sef y mwyaf ers dechrau datganoli.

"Yn y pendraw rhaid iddo ateb i'r Senedd a phobl Cymru ynglŷn â sut mae'n penderfynu ariannu gwasanaethau."

Pynciau cysylltiedig