Meddygon Cymru'n gwrthod cynnig cyflog llywodraeth

  • Cyhoeddwyd
Meddyg

Mae corff sy'n cynrychioli meddygon yng Nghymru wedi gwrthod cynnig cyflog diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Dywedodd BMA Cymru nad oedd cynnig o gynnydd 5% i rai meddygon yn ddigonol.

Ychwanegodd yr undeb mai'r cynnig oedd y "gwaethaf" yn y DU, a bod trafodaethau wedi eu hatal nes mis Medi.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod oedi'r trafodaethau yn "siomedig" ond eu bod yn "deall cryfder y teimladau ymysg meddygon".

Cynnig 5%

Yn ôl BMA Cymru, y cynnig diweddaraf oedd cynnydd o 5% i feddygon ymgynghorol, meddygon iau a meddygon arbenigol (SAS) sydd ar gytundebau o 2008.

Ni fyddai cynnydd ychwanegol i feddygon SAS sydd ar gytundebau o 2021.

Daw wrth i'r llywodraeth barhau i drafod cyflogau nyrsys hefyd - roedd Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN Cymru) wedi gwrthod cynnig o 5% i aelodau.

Dywedodd cadeirydd Cyngor Cymru y BMA, Dr Iona Collins, y byddai'r cynnig yn "cynyddu'r colledion mae meddygon yn eu hwynebu ar ôl dros ddegawd o gynigion sy'n llai na chwyddiant.

"Nid yw 5% yn cydfynd ag ymrwymiad ffurfiol Llywodraeth Cymru i'r egwyddor o adfer cyflog llawn.

"Mae 5% yn llai na sy'n cael ei gynnig yn Lloegr a'r Alban ac yn llai nag argymhelliad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion; dyma gynnig gwaethaf y DU."

Ychwanegodd y datganiad y byddai'r BMA yn trafod dros yr wythnosau nesaf i benderfynu a fydd yn dechrau anghydfod ffurfiol gyda'r llywodraeth allai arwain at weithredu diwydiannol.

'Uchafswm sydd ar gael'

Mae atal y trafodaethau'n "siomedig", meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, ond gan ychwanegu bod y llywodraeth yn "deall cryfder y teimladau ymysg meddygon am y cynnig cyflog a'r pwysau sydd ar bob gweithiwr sector cyhoeddus oherwydd yr argyfwng costau byw.

"Heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, mae rhwystr ar ba mor bell allwn ni fynd yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd y llefarydd: "Er ein bod eisiau delio gyda'r nod o adfer cyflogau ein staff iechyd hanfodol, mae'r cynnig yn uchafswm yn sgil y cyllid sydd ar gael i ni, ac yn cynrychioli'r sefyllfa a gytunwyd gyda'r undebau iechyd eraill ar gyfer eleni."

Dywedodd y llefarydd bod y llywodraeth yn barod i barhau trafodaethau unrhyw bryd.

'Plastar dros glwyf dwfn'

Mewn ymateb, dywedodd Mabon ap Gwynfor, llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal: "Realiti'r cynnig tâl hwn yw bod meddygon yn cael cais i dderbyn cwymp pellach mewn safonau byw.

"Mae BMA Cymru wedi gwrthod cynnig nad oedd fawr fwy na phlastar dros y clwyf dwfn sydd wedi ei achosi gan flynyddoedd o danariannu."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Iechyd, Russell George: "Rwyf wedi fy nigaoli gyda'r newyddion bod y Llywodraeth Lafur, sydd wedi rhedeg ein gwasanaeth iechyd ers 25 mlynedd, wedi methu o leiaf â chynnig cyflog Llywodraeth Geidwadol y DU i feddygon ddod â'r anghydfod hwn i ben, o ystyried am bob £1 a wariwyd ar iechyd yn Lloegr fod Cymru'n derbyn £1.20.

"Mae angen i Lafur edrych o ddifrif ar eu prosiectau costus fel anfon mwy o wleidyddion i Fae Caerdydd a blaenoriaethu ein GIG yn lle hynny."

Pynciau cysylltiedig