Tîm Achub Mynydd Llanberis 'mewn peryg o orlwytho'
- Cyhoeddwyd

Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis wedi derbyn 301 o alwadau hyd yma eleni
Mae cynnydd o 300% wedi bod yn nifer y galwadau i Dîm Achub Mynydd Llanberis dros y 15 mlynedd diwethaf, gyda'r elusen yn rhybuddio fod gwirfoddolwyr mewn peryg o'u gorweithio.
Mewn datganiad dywedodd y tîm eu bod nhw wedi derbyn dros 300 o alwadau brys nodedig eleni.
Ond mae'r cynnydd mewn galwadau yn golygu bod y tîm bellach dan bwysau sylweddol, gydag aelodau yn aml yn cael eu galw i sawl achos y dydd.
Dywedodd Dr Richard Griffiths, Cadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis, mai 2023 oedd y "flwyddyn fwyaf heriol fyth" i'r elusen.
Gyda thros 500,000 o bobl yn ymweld â'r Wyddfa bob blwyddyn, dyma bellach y mynydd prysuraf yn y Deyrnas Unedig.
Oherwydd poblogrwydd Eryri ymhlith twristiaid a cherddwyr, mae Tîm Achub Mynydd Llanberis yn cael ei adnabod fel y tîm achub mynydd prysuraf ym Mhrydain.
Ers ymateb i 100 o achosion yn 2008 mae cynnydd o 300% wedi bod mewn galwadau, cynnydd sydd yn ôl yr elusen, yn "gynyddol anghynaladwy".

Mae natur rhai o'r achosion yn gallu effeithio ar lesiant gwirfoddolwyr, yn ôl yr elusen
Ychwanegodd Dr Richard Griffiths: "Ar gyfartaledd, mae bob aelod yn ymateb i oddeutu 40 galwad y flwyddyn. Ni ellir diystyru'r effaith amser arnynt hwy a bywydau eu teuluoedd.
"Hon fu ein blwyddyn fwyaf heriol fyth, ac wrth i ni fynd yn fwy prysur mae perygl gwirioneddol i'r gwasanaeth orlwytho ac i ni fethu ag ymateb yn gyflym i'r rhai mewn angen."
Mae'r elusen yn dweud bod pob un o'r 56 aelod o'r tîm gweithredol wedi cyflawni dros 8,000 awr o waith achub hyd yma yn 2023.
Yn ogystal, mae disgwyl i wirfoddolwyr fynychu sesiynau hyfforddi rheolaidd, cynnal offer a helpu gyda'r gwaith o godi cyllid.
'Perygl i'r gwasanaeth orlwytho'
Mae delio gyda'r pwysau cynyddol yma yn anodd iawn i elusen fechan, yn ôl Dr Griffiths.
"Hon fu ein blwyddyn fwyaf heriol fyth, ac wrth i ni fynd yn fwy prysur mae perygl gwirioneddol i'r gwasanaeth orlwytho," meddai.
"Fel grŵp o wirfoddolwyr, nid ydym ymhell o ddod i derfyn ein gallu i gefnogi'r rhai mewn angen ar y mynyddoedd.
"Yn y blynyddoedd i ddod, rydym yn bwriadu parhau â'n gwaith gyda rhanddeiliaid eraill er mwyn lleihau'r nifer o achosion mynydd ar yr Wyddfa ac i ehangu ein gallu i ymateb i'r galw cynyddol hwn.
"Yn y cyfamser, rydym yn parhau i annog cerddwyr a dringwyr i baratoi'n ddigonol er mwyn eu galluogi i fwynhau eu hamser yn y mynyddoedd drwy ddilyn y negeseuon allweddol gan Adventure Smart UK."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2021