Yws Gwynedd: Cerddoriaeth, pêl-droed a galar

  • Cyhoeddwyd
ywain gwynedd a beti
Disgrifiad o’r llun,

Ywain gyda Beti George, cyflwynydd Beti a'i Phobol ar Radio Cymru

Mewn rhifyn estynedig o Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru ar Noswyl Nadolig mae Ywain Gwynedd yn siarad am ei yrfa gerddorol, ei ddyddiau'n chwarae pêl-droed, a'i fywyd personol.

Yn wreiddiol o Lan Ffestiniog, mae'r canwr bellach yn byw ym Methel gyda'i wraig Gwennan a tri o blant, ac yn mwynhau treulio amser yn garddio ac adeiladu siediau, ymysg pethau eraill.

"Dwi'n licio Llan [Ffestiniog], ond o'n i ddim yn teimlo'n gartrefol yn Blaenau. Tair milltir sydd rhwng y ddau le, ac i Ysgol Uwchradd Blaenau es i. Dwi ddim yn berson tref, hyd yn oed ar y lefel yna mae'n amherthnasol i fi.

"Dwi'n licio Caerdydd am fod o'n ddinas llai, er bod o'n tyfu'n gyflym. Dwi'n licio Bethel a teimlo'n fwy cartrefol yn fanno ger Caernarfon na dwi 'di gwneud yn nunlle arall."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ywain yn ddisgybl yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog

Gyrfa bêl-droed

Yn ystod ei blentyndod yn Ffestiniog roedd Ywain yn treulio llawer o'i amser ar y caeau pêl-droed.

"Nes i fethu bron 50% o ysgol un flwyddyn oherwydd ges i fy newis i chwarae i Crewe Alexandra pan o'n i'n 13.

"Oedd ymarfer Crewe ar nos Lun ac ymarfer Blaenau ar nos Fercher - do'n i ddim yn fod i chwarae i Blaenau gan Crewe ond doedd 'na'm gobaith bo' fi ddim yn mynd i weld fy mêts ar nos Fercher.

"O'n i nôl yn Crewe nos Iau, o'n i'n chwarae i Blaenau dydd Sadwrn, a chwarae i Crewe ar y dydd Sul. Felly'n mai i oedd o mod i wedi llosgi allan ar y pryd.

"Oedd genna ni ysgrythur dwbl ar y dydd Gwener, a ysgrythur ben bora dydd Llun, felly 'nes i ddim mynd i'r gwersi yna am flwyddyn gyfan dwi'm yn meddwl!

"O'n i'n meddwl mod i am fod yn chwaraewr proffesiynol, bod yn big fish in a small pond, a meddwl bo gennai'r ddawn i neud hyn os o'n i isio.

"O'n i'n meddwl i fi'n hun sut ma' nhw am ddweud fy enw i pan dwi'n chwarae yn y Premiership?! Ond pan es i i Crewe 'nes i sylweddoli bod 'na lot o big fishes eraill mewn dŵr gwahanol!"

Fe chwaraeodd Ywain dan hyfforddiant Osian Roberts ym Mhorthmadog, ond mae'n dweud falle nad oedd at ddant y rheolwr sydd newydd gael ei benodi gan glwb Como 1907 yn yr Eidal.

"Mae Osian yn licio'r chwaraewyr wybod ble maen nhw fod. I fod yn deg i Osian dydi o ddim yn meindio chwaraewyr rhydd cyn belled a bo'r dewisiadau'n gywir, a drwy fy ngyrfa i o'n i'n cael fy ngalw'n headless chicken, achos o'n i'n rhedeg i le bynnag o'n i isio - fel arfer tuag at y bêl.

"Dim bod Osian ddim yn licio chwaraewyr rhydd - fi oedd ddim yn licio chwarae'n gaeth!"

Disgrifiad o’r llun,

Bu Ywain yn gapten ar Glwb Pêl-droed Caernarfon

"Dwi ddim yn ffan o'r gêm erioed. Dwi'n licio'r elfen gymdeithasol, licio bod efo ffrindiau'n ei chwarae hi, a pan o'n i'n tyfu'n hŷn o'n i fwyfwy licio bobl oedd yn ymwneud â chlwb - fel arfer y gwirfoddolwyr sy'n cadw'r clwb mewn bodolaeth, a dwi 'di dod yn ffrindiau mawr efo nhw."

Cerddoriaeth

Roedd Ywain yn gweithio ar Uned 5 am gyfnod, cyn hyfforddi i fod yn saer. Ond yn ei arddegau fe dyfodd a datblygodd ei gariad at gerddoriaeth.

"O'n i ddim fewn i gerddoriaeth Cymraeg pan o'n i'n tyfu fyny i ddweud gwir, er mi fysa Dad yn dangos petha' i fi, ond odd'na rywbeth stiff am yr arlwy oedd gan Radio Cymru ar y pryd.

"Dwi'n trio peidio sgwennu caneuon lle fyswn i ddim yn dweud y geiriau ar lafar. Dwi'n gweld lot o bethau creadigol bron fel sefyll ar ben bwrdd a gofyn i bobl wrando arno chi'n siarad.

"Ond 'sa chi ddim yn mynd ar ben bwrdd a dweud rhywbeth hollol annaturiol jest achos bod o'n gywir.

Disgrifiad o’r llun,

Ffurfiodd Ywain y band Frizbee gyda ffrindiau yn Ysgol y Moelwyn

"Dwi'n trio peidio defnyddio 'ch' a 'll' pan dwi'n sgwennu caneuon. Mae bobl fel Bryn Fôn sy'n cael get away efo fo achos bod o'n deud nhw'n ysgafnach.

"Dwi'n cofio clywed Topper ar y radio a meddwl 'aaa OK, mae hwn yn wahanol' - pop, roc, ac efo bach o fynd iddo, ar yr un pryd roedd y Gorky's [Zygotic Mynci] yn canu Patio Song yn y ddwy iaith."

Mae Ywain yn llawn balchder wrth edrych yn ôl ar un gig yn benodol pan wnaeth y diweddar Dyfrig Evans ymuno â'r band i ganu 'Hapus' yng Nghaernarfon, rhwng y Nadolig a flwyddyn newydd rhyw flwyddyn.

"Ges i alwad ffôn gan Dyfrig a 'nath o ofyn 'da chi'n neud cyfyr o Hapus yn Neuadd y Farchnad heno?'... Yndan, ydy hynny'n ok Dyfs? 'nes i ofyn. 'Yndi siŵr, na.i ganu o efo chi'.

"O'dd o 'di bod yn gymaint o wefr, a cyn fo adael y llwyfan dwi'n cofio Dyfs yn gafael yn fy ngwyneb i a rhoi snog mawr i fi - jest fela oedd o! Atgofion melys."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr albwm Codi / \ Cysgu ei ryddhau yn 2014, a oedd yn cynnwys y caneuon Neb ar Ôl a Sebona Fi

Sebona fi

Ond wrth gwrs mae un gân gan Ywain sydd 'di denu sylw enfawr; Sebona Fi.

"Ma'n rhyfeddol sut ma hi 'di dal, achos pan 'nathon ni ryddhau'r albwm 'nath neb gymryd sylw arni o gwbl. Ac wedyn 'nathon ni ryddhau'r fideo ac mi ro'dd o fel 'sa hwnna 'di tiwnio mewn i rhyw algorhithm ar YouTube neu rwbath.

"Yr haf yna wedi'r fideo ddod allan 'nathon ni weld y bobl yn dechrau dod i'r blaen i wrando arno ni yn hytrach na sefyll yn y cefn.

"Mae 'na bobl 'di chwarae'r gân mewn cynhebryngau, a mewn partïau pen-blwydd a phriodasau, ac mae'n neis gweld hynna.

"Un o fy mhroblemau i efo caneuon fel Yma o Hyd - sy'n amazing o gân ac ma'n lyfli bod pawb yn teimlo'n un pan 'da ni'n ei chanu hi - ydy bod o dipyn bach fel 'o da ni dal yma'.

"Fyswn i'n licio gweld yr iaith yn ffynnu, ac bo ni'n meddwl 'ma hi'n iaith fyw efo lot o bobl yn ei siarad hi'.

"Un o'r stats boring ydy i bob un person sy'n siarad Cymraeg, mae 'na 130 yn siarad Saesneg yn y Deyrnas Unedig, ac fedri di fynd â hwnna'n fwy rownd y byd.

"Ond mae un miliwn o ffrydiadau i gân Gymraeg yn gyfystyr â 130 miliwn yn Saesneg, ac mae 'na lot o ganeuon Cymraeg rŵan yn gwneud."

Ffynhonnell y llun, Yws Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Band Yws Gwynedd o'r chwith i'r dde: Ifan Sion Davies, Ywain Gwynedd, Rich Roberts a Emyr Prys Davies

Bywyd teuluol a delio â cholled

"'Nes i dyfu fyny'n meddwl bo ni'n deulu hollol normal. A wedyn pan o'n i tua 13 'nath rhai o'n ffrindiau i ddweud 'ti'n gwybod bod dad dy frodyr a dy chwaer ddim yr un un â ti?' 'Nathon ni ddim siarad am y peth, doedd ddim angen, Dad oedd tad pawb."

Roedd gan Ywain ddau hanner brawd hŷn, ac un hanner chwaer. Ond yn anffodus bu farw ei ddau frawd.

"'Nes i golli'r cynta', Anthony, mewn damwain car pan o'n i'n 18 oed, chwe diwrnod cyn troi'n 19. 26 oed oedd o ar y pryd, yn trio mynd rownd rhyw anifail ar y ffordd ma' nhw'n meddwl a wedyn mynd mewn i fws. Roedd hwnna'n adeg anodd, ac yn un o'r digwyddiadau sy'n newid chi am byth.

"Mae 'na ffyrdd gwahanol all o effeithio arno chi, ac o'n i'n lwcus iawn bod o 'di rhoi persbectif gwahanol yn hollol ar fywyd i fi - pa mor lwcus 'da ni i fod yma... dydi colli goriadau neu tolcio dy gar ddim yn ddiwedd y byd!"

Ffynhonnell y llun, Ywain Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Ywain gyda'i blant

Collodd Ywain ei frawd arall, Cai, a'i dad yn yr un flwyddyn.

"Nath Dad farw yn Rhagfyr, a bu farw Cai o ganser y bowel ym mis Mawrth. O'dd Cai 'di bod yn sâl ers tri mis, ac oedd o'n anodd gweld o'n dirywio.

"Pan nath o farw, er bod o'n swnio'n horrible o beth i ddweud, o'dd o bron yn teimlo fel rhyddhad achos o'dd o ddim mewn poen ddim mwy.

"Ychydig wedyn ti'n edrych yn ôl a meddwl doedd pethau ddim yn iawn, ond oeddan ni gyd yn ymddwyn fel bod pethau'n iawn.

"Efo Cai, Anthony, Dad, neiniau, teidiau... 'di nhw ddim isio pawb alaru am byth ar eu hola nhw - maen nhw isio bobl ddathlu eu bywydau nhw a ma' isio ni feddwl pa mor lwcus oeddan ni o gael nhw. Mae colled yn rhan o fywyd, ac os dyna 'di'r agwedd 'sgen ti, dwi'n meddwl bod gen ti well chance o ddod drosto fo.

"Be 'nathon ni sylweddoli o fynd drwy hynna efo Cai oedd cyn lleiad o amser 'sgen pawb, a bod neb yn cymryd gafael o'r peth. Os 'da chi'n ffindio allan bo genna chi canser, 'da chi isio rhywun afael yn llaw chi a mynd 'reit, 'da ni am wneud bob dim 'da ni'n gallu'."

Naw mis ar ôl colli Cai bu farw Dafydd Wyn Jones, tad Ywain.

"Yn Rhagfyr oedd hi, rhyw dri diwrnod cyn Dolig, a dwi'n grediniol mai Covid oedd o.

"Oedd o 'di bod yn sâl am rhyw dair wythnos efo rhywbeth tebyg i ffliw, ac mi dd'wedodd y doctor ar ôl iddo farw a nhw'n gwneud y profion bod ei wythiennau fel fysa ganddo fo fraster uchel neu rhywbeth fel'na, ond doedd o ddim yn sâl tan rhyw fis cynt."

Ffynhonnell y llun, Mabon ap Gwynfor
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Wyn Jones gyda'r AS Liz Saville Roberts ar Y Traeth - cartref CPD Porthmadog

"Ond doedd o ddim yn sâl achos rhyw fis ynghynt dwi'n cofio fo'n cerdded i'r stadiwm o Canton i weld Cymru yn erbyn Hwngari, ac oedd o'n gyflymach na fi, dim allan o wynt na dim.

"Odd 'na gyfnod ar ôl hynny lle o'n i'n trio dweud wrth fy hun fysa fo heb 'di mwynhau cyfnod Covid - ddim yn gallu mynd i weld Porthmadog yn chwarae pêl-droed!"

Roedd Dafydd Wyn Jones yn un o sylfaenwyr Cob Records, ac yn cael ei adnabod fel Stan coes glec gan lawer.

"Collodd o ei goes yn 21 mewn damwain car ar y ffordd lawr i Llundain. O'dd lot ddim yn gwybod mai ond un goes odd ganddo fo, ond mi ro'dd o'n gloff.

"'Nath o ddim claimio dim disability tan 5-10 mlynedd ola' ei fywyd, doedd o ddim isio gweld o fel anabledd. Oedden ni'n cael hwyl efo'r goes!"

Dyfodol cerddoriaeth Cymraeg

O edrych ar sefyllfa bresennol cerddoriaeth Cymraeg mae Ywain yn hynod bositif, ac yn rhagweld dyfodol hynod ddisglair.

"Mae 'na lot o gerddoriaeth gwych Cymraeg yn dod allan - ma' 'na rhwng dwy a 20 cân Gymraeg newydd yn dod allan bob wythnos, felly allen ni fod 'chydig bach mwy picky.

"Gen ti rhai pobl yn deud 'dwi'm yn licio miwsig Cymraeg' - er bod o ddim yn genre, nei di ffeindio mai'r 'run un pobl sy'n gwrando ar Gwilym sy'n gwrando ar Kim Hon, sy'n gwrando ar Mared Williams.

Ffynhonnell y llun, Yws Gwynedd

"Mae PYST wedi cael ei sefydlu yn ddiweddar ar gyfer distribution - cael y gerddoriaeth allan i bob man, ac yn hyrwyddo hefyd, y syniad 'ma o broffesiynoli, a neud siŵr bo ni'n neud o'n iawn - dyna'r sylfaen.

"Da ni'n edrych ar un miliwn o siaradwyr Cymraeg yn y 10, 20 mlynedd nesa, ac wedyn mae pethau'n newid chydig bach, efo cwmnïau mawr fydd eisiau ella buddsoddi mewn hysbysebu tuag at miliwn o bobl, felly 'sa hwnna'n gallu bod yn blatfform sy'n edrych ar ôl bobl yn ariannol yn y dyfodol.

"Mae rhai o'r gigs mwyaf Cymraeg, dwi ddim am eu henwi nhw, yn dal i dalu yr un ffi ag oedden nhw 20 os nad 30 mlynedd yn ôl. Yn y gorffennol fysa rhai 'di cael eu subsidisio neu be bynnag, ond rŵan mae cerddoriaeth Cymraeg yn un o'r pethau sy'n sefyll fyny ar ben ei hun. Os ti'n cael 1,000 o bobl yn dod i gig, mae 'na bres yna.

"Mae gigs yn dod yn boblogaidd eto, a ti'n gweld miloedd o bobl yn canu'r geiriau. I fi, dwi'n meddwl bod o'n un o'r pethau pwysicaf i'r iaith Gymraeg, achos mae'n dangos pa mor fyw ydy'r Gymraeg a bod o'n gyfredol ac sut mae'n bosib mwynhau ein diwylliant."

Bydd Beti a'i Phobol gydag Yws Gwynedd ar Radio Cymru am 18:00 ddydd Sul ac ar gael ar BBC Sounds ar ôl hynny