Y caneuon Cymraeg sydd wedi eu ffrydio filiwn o weithiau
- Cyhoeddwyd
Bum mlynedd yn ôl roedd y grŵp Alffa yn y penawdau ar ôl i'w cân Gwenwyn gael ei ffrydio dros filiwn o weithiau ar Spotify - y trac gyntaf Cymraeg i wneud hynny.
Ond faint mwy sydd wedi cael yr un llwyddiant erbyn heddiw?
1. Gwenwyn - Alffa (3,655,031 o ffrydiadau)
Dyma'r gân dorrodd y record.
Yn 2017 roedd Siôn Land a Dion Wyn Jones yn dathlu ennill Brwydr y Bandiau, cystadleuaeth wedi ei drefnu gan Maes B a Radio Cymru i wobrwyo grwpiau newydd. Yn 2018 roedd yr hogia o Lanrug yn dathlu miliwn o ffrydiadau o Gwenwyn, yn rhannol ar ôl i ffans roc trwm o ogledd America, Brasil, y Deyrnas Unedig a'r Almaen ddod ar draws y gân ar y platfform ffrydio Spotify.
Fe ddefnyddiodd y band yr elw i recordio albym newydd, ac mae Gwenwyn rŵan ar y ffordd i gyrraedd pedwar miliwn.
2. Patio Song - Gorky's Zygotic Mynci (3,636,854)
Cân ddwyieithog am fod mewn cariad yn yr haf gan y band o Gaerfyrddin. Mae Patio Song ar Barafundle, pedwerydd albwm y band ond y cyntaf ar recordiau Mercury, ar ôl iddyn nhw symyd atyn nhw o gwmni Ankst.
3. Yma o Hyd - Dafydd Iwan ac Ar Log (2,587,037)
Prin fod angen cyflwyniad i'r gân yma. Er ei bod yn hen ffefryn gan y Cymry Cymraeg ers iddi gael ei rhyddhau yn 1983, mae wedi cael gymaint o wrandawyr newydd ers cael ei mabwysiadu gan gefnogwyr a thîm pêl-droed Cymru yn ddiweddar.
Ar un cyfnod yn 2022, roedd hi ar frig siart i-Tunes - roedd Kate Bush, Harry Styles, Lady Gaga, a Lizzo tu ôl i Dafydd Iwan yn y siart. Ar Spotify, Hawl i Fyw ydi ail gân fwyaf poblogaidd Dafydd Iwan, ac wedi cael ei ffrydio dros chwarter miliwn o weithiau.
4. Dan y dŵr - Enya (2,448,120)
Dydi'r Wyddeles Enya ddim yn cael ei chysylltu efo canu Cymraeg, ond mae hi yn gwneud ar y gân yma (mae hi hefyd wedi canu mewn Japanaeg, Lladin, Gwyddeleg a Saesneg).
Mae'r trac yma'n sôn am Tryweryn gyda'r geiriau agoriadol 'Dan y Dŵr tawelwch sydd/Dan y Dŵr, galwaf i'. Mae'r gân ar albym The Celts gafodd ei rhyddhau gan Enya yn 1987, cyn ei ail-gymysgu a'i rhyddhau eto yn 2009.
5. Pla - Alffa (1,449,222)
Ail gân y grŵp i gyrraedd y filiwn, ac un o'r traciau ar y record hir Rhyddid o'r Cysgodion gafodd ei ariannu efo'r elw o lwyddiant Gwenwyn.
6. Sbia ar y Seren - Gorky's Zygotic Mynci (1,087,417)
Dyma'r ail drac gan y Gorky's hefyd i gyrraedd y miliwn, ac fel Patio Song mae'n anodd gwrando ar Sbia ar y Seren heb deimlo wedi ymlacio'n llwyr. Fe gafodd hon ei rhyddhau yn 2000, yr unig drac Cymraeg ar yr albwm The Blue Tree, a'r un sydd wedi cael ei ffrydio fwyaf o'r holl ganeuon arni.
7. Sebona Fi - Yws Gwynedd (1,087,068)
Dim syndod mai Sebona Fi, sydd ar yr albwm Codi /\ Cysgu o 2014, ydi cân fwyaf poblogaidd Yws Gwynedd.
Er mai dyma unig gân y cerddor ar y rhestr, dyma'r drydedd sy'n gysylltiedig ag o - gan fod hon a dwy gan Alffa wedi eu rhyddhau ar ei label Côsh.
Mae Yws Gwynedd wedi creu rhestr playlist Spotify o'r holl ganeuon Cymraeg sy'n cyrraedd y miliwn a'r 100,000, sef Clwb1M a'r Clwb Can Mil.
8. Fel i Fod - Adwaith (1,070,719)
Mae'r triawd o Gaerfyrddin wedi cyrraedd cynulleidfa tu hwnt i'r Cymry Cymraeg yn y ddwy flynedd diwethaf drwy chwarae yn Glastonbury ddwy flynedd yn olynol a chefnogi IDLES. Daw'r gân yma oddi ar eu halbwm cyntaf Melyn, gafodd ei rhyddhau gan Libertino yn 2018.
Felly dyna'r wyth sydd wedi cyrraedd y Clwb 1 Miliwn - ond cadwch olwg ar y rhai yma, sy'n siŵr o ymuno efo nhw yn y dyfodol agos: Bae Bae Bae (Muzi Remix) - Gruff Rhys (906,317), International Velvet - Catatonia (889,705), Fratolish Hiang Perpeshki - Gwenno (821,002), Dacw Nghariad - Eve Goodman (790, 263), Duwies y Dre - Carwyn Elis a Rio 18 (745,043).
(Niferoedd ffrydiadau ar 1/12/23)