Siart Amgen Rhys Mwyn 2023
- Cyhoeddwyd
Ers wythnosau bu gwrandawyr ffyddlon rhaglen Rhys Mwyn ar BBC Radio Cymru yn anfon eu henwebiadau a'u pleidleisiau am eu hoff draciau amgen.
Los Blancos oedd enillwyr 2022 gyda Chwaraewr Gorau'r Ail Dîm. Mae corrachod bach Radio Cymru wedi bod wrthi'n cyfri'r pleidleisiau a ddaeth i law eleni i ffurfio'r 20 uchaf.
Fel hyn bleidleisiodd y gwrandawyr:
20. Egwyl – Brân
19. Cymryd y Cyfan – Datblygu
18. Môr o Wydr – Cerys Hafana
17. Adar – Emyr Sion ac Ifan Dafydd
16. Byth Bythol – Mellt
15. Un Dau Tri Pedwar – M Digidol
14. Mr English – KIM HON
13. Gwacter – Sybs
12. Ofni Braidd – Breichiau Hir
11. Golai Gwir – Siula
10. Dyma Fi – Celavi
Ffurfiodd Celavi, band o Wynedd, yn 2018. Does dim llawer o fandiau tebyg i Celavi yn canu'n Gymraeg. Maen nhw'n disgrifioi eu hunain fel cyfuno nu-metal, roc-electro a goth anthemig.
Cafodd Dyma Fi ei rhyddhau yn gynharach yn 2023. Mae'r ddeuawd yn gweithio ar EP ar hyn o bryd a fydd yn cael ei ryddhau yn 2024.
9. I Ti – Gillie
Un o Gaerfyrddin yw Gillie, sydd wedi dweud bod cerddoriaeth yn ail natur iddi.
Symudodd i fyw i Lundain ac mae ei cherddoriaeth yn adlewyrchiad o'r heddwch gwledig Cymreig wedi'i gyfuno â'r ddinas ddiwydiannol.
Yn gynharach eleni, ymunodd â'r grŵp poblogaidd Adwaith am gyfnod.
Cafodd I Ti ei rhyddhau yn 2022 ac ers hynny mae wedi rhyddhau sawl sengl Gymraeg gan cynnwys Toddi a Llawn.
8. Balls – HMS Morris
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Daw Balls oddi ar albwm diweddaraf HMS Morris sef Dollar Lizard Money Zombie. Yn ei hanfod mae Balls yn neges i fynd amdani yn llwyr mewn byd ansefydlog ond bod ffrindiau, braint a chynefin yn flanced o sicrwydd yn enwedig o ystyried pa mor fychan ydan ni yn y bydysawd. Roedd yn un o fideos Lŵp S4C eleni.
Mae'r pedwarawd roc celfyddydol wedi cael 2023 prysur yn gigio ledled y wlad a thu hwnt. Yn ogystal â Balls mae'r albwm yn cynnwys y senglau House a Family Souls.
7. Bolmynydd – Pys Melyn
O Ben Llŷn y daw Pys Melyn. Dechreuodd Ceiri, Jac, Owain a Sion ryddhau cerddoriaeth yn 2018 ond maen nhw wedi bod yn chwarae cerddoriaeth efo'i gilydd ers pan oedden nhw'n blant.
Cafodd eu halbwm cyntaf, Bywyd Llonydd, ei enwebu am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2021. Eleni, fe ryddhaodd y band eu hail gyfanwaith sef, Bolmynydd.
6. Slofi – Talulah
Mae Talulah yn eithaf newydd i'r sîn yng Nghymru ond maen nhw wedi llwyddo i wneud cryn argraff yn yr amser byr yna.
Ym mis Hydref roedd Talulah yn un o dri artist a dderbyniodd Gwobr Triskel yn seremoni'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, gwobr sy'n cydnabod talent newydd ac yn rhoi hyd at £5,000 tuag at ddatblygu gyrfa.
Mae Slofi yn un o ddwy sengl y mae Talulah wedi'u rhyddhau.
5. Myfyrwyr Rhyngwladol – HMS Morris
Dyma ail ymddangosiad HMS Morris yn neg uchaf y Siart Amgen, y tro hwn gyda Myfyrwyr Rhyngwladol.
Cafodd Myfyrwyr Rhyngwladol ei rhyddhau mewn cyfres o senglau yn 2020. Mae'n parhau i fod yn un o draciau mwyaf poblogaidd y band, yn enwedig mewn setiau byw.
4. Gwanwyn – Me Against Misery
Fe ymddangosodd Me Against Misery yn y siart amgen y llynedd gyda'r gân Propaganda.
Cafodd y sengl Gwanwyn ei rhyddhau yn ôl ym mis Hydref eleni. Mae'r trac wedi cael cryn argraff ar wrandawyr rhaglen Rhys Mwyn gan ei henwebu'n syth mewn i'r pump uchaf!
3. Buddug – Dal Dig
Cwta fis sydd ers i Buddug ryddhau Dal Dig, ei sengl gyntaf erioed.
O Frynrefail y daw Buddug sy'n 17 mlwydd oed. Mae hi wedi cyfansoddi ers blynyddoedd ond yn ystod y cyfnod clo mi fuodd yn cael sesiynau un-i-un ar Zoom gyda'r gantores Alys Williams.
Yn sgil hynny, fe gysylltodd Alys ag Yws Gwynedd, ac yn fuan wedi hynny aeth Buddug i recordio gyda Rich Roberts yn ei stiwdio ym Mhenrhyndeudraeth. Roedd Dal Dig yn ffrwyth llafur y sesiwn honno.
Gyda chaneuon aeddfed a bachog fel hon does dim syndod ei bod hi wedi cyrraedd y tri uchaf eleni.
2. Adwaith – Addo
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'n debyg fod y triawd hwn o Gaerfyrddin yn mynd o nerth i nerth gyda phob blwyddyn. Yn barod mae ganddyn nhw ddwy Wobr Gerddoriaeth Gymreig, dros filiwn o ffrydiadau ar Spotify, perfformiadau yn Glastonbury a thomen o ffans adnabyddus. Does dim stopio ar Hollie, Heledd a Gwenllian!
Ail yn y siart oedden nhw y llynedd hefyd, gyda'u hanthem ETO yn cyrraedd rhif dau. Ond eleni, y sengl Addo oddi ar beth allwn ni ond gobeithio yw trydydd albwm, sy'n hawlio lle yn y tri uchaf i'r merched.
1. Triongl Dyfed – Rogue Jones
Dyfeisgarwch sydd wrth galon yr albwm Dos Bebés gan Rogue Jones sef yr albwm o roddodd inni Triongl Dyfed sef y gân sy'n dod i frig Siart Amgen Rhys Mwyn 2023. Cafodd Dos Bebés ei ddisgrifio fel "albwm parti i bobl fewnblyg cyntaf yn y byd."
Bu 2023 yn flwyddyn wych i Ynyr Morgan a Bethan Mai, a'r uchafbwynt siŵr fod oedd ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ym mis Hydref. Teilyngdod annisgwyl i'r pâr a dderbyniodd y wobr gyda sioc.
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Llongyfarchiadau mawr i bob un!
Gallwch wrando ar Siart Amgen 2023 yn ei gyfanrwydd ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2021