Solfach: Poeni am ddyfodol meddygfa wledig yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Meddygfa Solfach
Disgrifiad o’r llun,

Y bwrdd iechyd sy'n rhedeg Meddygfa Solfach ers 1 Ebrill eleni

Mae 'na bryderon am ddyfodol meddygfa wledig yn Sir Benfro, gydag ymgyrchwyr yn cyhuddo'r bwrdd iechyd o fod yn araf i ddatrys y sefyllfa.

Blwyddyn ers i'r unig feddyg teulu yn Solfach gyhoeddi ei bod hi'n ymddeol, mae pobl leol yn poeni y byddan nhw'n colli eu meddygfa yn gyfan gwbl.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sydd wedi bod yn rhedeg Meddygfa Solfach ers 1 Ebrill.

Ar hyn o bryd mae 'na ddwy feddygfa yn ardal Penrhyn Tyddewi - un yn Solfach a'r llall yn Nhyddewi.

Yn ôl Gweithgor Achub Meddygfa Solfach, mae'r boblogaeth yn rhy fach i allu cynnal dwy feddygfa.

Ond mae'r gweithgor, a gafodd ei sefydlu er mwyn dod o hyd i ddatrysiad tymor hir, yn dweud taw prin iawn yw unrhyw gyfathrebu gan y bwrdd iechyd.

Mewn ymateb, fe ddywedodd y bwrdd mai'r flaenoriaeth dros y misoedd diwethaf oedd "sefydlogi'r practis" yn Solfach.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Susan Denman, Cadeirydd Gweithgor Achub Meddygfa Solfach, eu bod yn dal i aros am atebion

Mae cynlluniau posib yn cynnwys bwriad i uno'r ddwy feddygfa a chreu un ganolfan llesiant.

Cafodd grŵp rhanddeiliaid ei sefydlu gan y bwrdd iechyd i drafod unrhyw gynlluniau - gyda'r gweithgor yn rhan o hwnnw.

Ond dim ond unwaith maen nhw wedi cwrdd mewn blwyddyn.

"Ry'n ni'n poeni braidd, oherwydd bod angen sgwrs ynglŷn â'r dyfodol," meddai Susan Denman, cadeirydd y gweithgor.

"A fydd yn rhaid i'r meddygfeydd uno? A fydd 'na un yma o gwbl? Mae angen atebion i'r cwestiynau yma.

"Mewn cyfnod o flwyddyn, mae'r hyn sy'n cael ei alw yn Grŵp Rhanddeiliaid y Penrhyn, gafodd ei sefydlu gan y bwrdd iechyd, wedi cyfarfod unwaith.

"Does dim cylch gorchwyl eto. Does dim memorandwm cyd-ddealltwriaeth am yr hyn ry'n ni'n ceisio ei gyflawni."

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond dwy feddygfa sydd yn ardal Penrhyn Tyddewi - un yn Solfach a'r llall yn Nhyddewi

Mae'r tawelwch gan y bwrdd iechyd yn rhywbeth sy'n achosi gofid i'r rhai sy'n defnyddio'r feddygfa, fel Ifor Thomas.

"Dwi'n poeni fydd y surgery yn cau," meddai.

"Mae'n rhaid i ni feddwl am y dyfodol a sut mae e'n gweithio yn y dyfodol.

"Mae'r bwrdd iechyd yn 'neud popeth yn iawn gyda'r surgery, mae popeth yn iawn nawr. Ond dwi'n poeni am y dyfodol.

"Mae angen gweledigaeth glir ynglŷn â dyfodol y surgery yma yn Solfach ac yn Nhyddewi."

'Ardal wledig iawn'

Mis Ebrill eleni fe wnaeth y bwrdd iechyd gymryd rheolaeth uniongyrchol o Feddygfa Solfach, a hynny am 12 mis.

Roedd hwnnw'n cael ei weld fel cam dros dro er mwyn gallu creu cynllun hirdymor ar gyfer y dyfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cleifion fel Ifor Thomas yn hapus gyda'r ddarpariaeth bresennol ond yn poeni am ddyfodol y feddygfa

Mae 'na bryderon hefyd ynglŷn â faint mae'r cynllun dros dro hwnnw yn costio i'r bwrdd ar adeg pan mae arian yn dynn.

"Mae'n rhaid bod rheoli meddygfa fel hyn yn costi mwy i'r bwrdd nag os fydde gyda nhw feddygfa normal," medd yr Aelod Ceidwadol dros Breseli Penfro yn Senedd Cymru, Paul Davies.

"Dyna pam mae angen i bethau symud 'mlaen, ac mae angen gweld datblygiad mor fuan â phosib cyn belled ag y mae'r bwrdd iechyd yn y cwestiwn."

Mewn datganiad fe ddywedodd John Evans, Cyfarwyddwr Sir Benfro gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rydym yn parhau i weithio gyda Gweithgor Meddygfa Solfach, Meddygfa Tyddewi a chynrychiolwyr y gymuned i ddatblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer gwasanaethau i gefnogi cleifion ar draws yr ardal wledig iawn hon.

"Ein blaenoriaeth yn y misoedd diwethaf fu sefydlogi'r practis, cefnogi'r tîm a datblygu'r cymysgedd sgiliau cywir.

"Ar adeg pan fo'r ddau bractis meddygon teulu dan bwysau, mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i ganolbwyntio ar y darlun hirdymor o sut rydyn ni'n datblygu gwasanaethau cynaliadwy."

Pynciau cysylltiedig