Y boddhad a'r wefr o gadw ceffylau

  • Cyhoeddwyd
Ifor Lloyd a Derwen RosindaFfynhonnell y llun, Ifor Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Ifor Lloyd a Derwen Rosinda

"Mae'r cobyn Cymreig yn geffyl allith 'neud unrhyw beth - allwch chi farchogaeth e, ei yrru fe neu dim ond edrych arno fe."

Mewn rhaglen arbennig o Troi'r Tir ar Radio Cymru mae Terwyn Davies yn rhoi sylw arbennig i'r ceffyl ac yn sgwrsio gydag amryw o bobl yng Nghymru sy'n cadw neu'n gweithio gyda cheffylau.

Un o'r rhain yw Ifor Lloyd o Fridfa Derwen ym Mhennant, Ceredigion ac mae'n sôn am gadw cobiau a merlod Cymreig trwy gydol ei oes. Mae cysylltiad Ifor â byd y ceffylau yn mynd yn ôl sawl cenhedlaeth a'i angerdd am y creaduriaid yr un mor gryf heddiw. Dyma ei stori:

Ges i 'ngeni i fyd y cobiau Cymreig yn Garth, Trefach yn ymyl Llanybydder ac oedd fy nhad yn prynu a gwerthu cobiau Cymreig i 'neud bywoliaeth oherwydd dim ond 20 acer oedd gyda fe.

Pan wnes i orffen ym myd y Volvos yn 1985 dechreuodd Myfanwy (gwraig Ifor) a fi brynu a gwerthu cobiau i 'neud bywoliaeth ac ni wedi llwyddo hyd yma.

Ffynhonnell y llun, Ifor Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Ifor Lloyd

Hanes

Mae'r cobyn Cymreig yn geffyl allith 'neud unrhyw beth - allwch chi farchogaeth e, ei yrru fe neu dim ond edrych arno fe. Yn yr hen amser roedd Sir Aberteifi yn llu o ffermydd bychan a chyn y tractor y cobyn oedd yn 'neud popeth ar y ffarm - aredig, 'neud y gwair, popeth. Ac mae dal i fod yn boblogaidd tu hwnt i eiriau.

Ni wedi allforio i 13 o wledydd ar draws y byd erbyn hyn. Prif bencampwriaeth y cobyn Cymreig yw Cwpan Siôr, Tywysog Cymru yn y Sioe Frenhinol. Mae cobiau o Derwen wedi ennill y cwpan 'na 13 o weithiau sy'n record clir i bridfeydd sy' wrth y gwaith.

Eleni oedd gwaed Derwen, Desert Express, wedi bod yn lwyddiant ysgubol oherwydd oedd ei ŵyr wedi ennill y prif bencampwriaeth yn y sioe ac hefyd cobiau eraill yn deillio ohono fe wedi bod yn lwyddiant mawr.

Ni'n enwi'r ebolau drwy ddechrau gyda llythyren y fam felly oedd Dessert Express allan o Duchess ac mae'n deillio o hynny - ni'n gwybod wedyn pa linell maen nhw allan ohoni.

Ffynhonnell y llun, Ifor Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Ifor a Derwen Groten Goch

Amgueddfa

Yn 1994 'nath Myfanwy sefydlu yr amgueddfa yn Derwen lle mae hen bethau oedd yn cael eu defnyddio ar y ffarm ac yn y sioeau wedi cael eu gosod. Mae pobl dros y byd wedi bod yn ymweld ag e. Mae'r hen offer ffarm a gambo fy nhad-cu 'na a hen luniau yn mynd nôl bron canrif.

Mae Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig wedi bod yn part pwysig o' mywyd i. Oedd Tad-cu wedi dechrau magu yn 1877 ond oherwydd oedd 'na ddim cymdeithas i gofrestru'r cobiau, ar droad y ganrif 'nath e, ei frawd a phobl eraill greu Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig yn 1901. Mae wedi bod yn llwyddiant mawr. Dwi wedi bod yn gadeirydd a'n llywydd y gymdeithas ac yn teimlo'n hapus iawn o fod yn magu cobiau Cymreig.

Mae wedi bod yn part hanfodol o fywyd Ifor Lloyd.

Ffynhonnell y llun, Janet Davies
Disgrifiad o’r llun,

Janet Davies gyda'r joci Adam Wedge a Evan Williams, yr hyfforddwr

Mae Janet Davies o'r Bontfaen yn magu ceffylau rasio ac wedi profi cryn lwyddiant yn y diwydiant. Dyma ei stori:

Dwi'n gyfieithydd wrth fy ngalwedigaeth ond fy mhrif ddiddordeb i yw magu ceffylau rasio. Mae diddordeb wedi bod gyda fi erioed mewn ceffylau o'r adeg pan o'n i'n blentyn yn gweld ceffylau yn y pentref ac yn gwylio rasys ceffylau gyda Mam-gu ar y teledu.

'Nath e ddatblygu i fynd i rasys ceffylau, mynd i ŵyl Aintree gyda ffrindiau ac hefyd mynd i wahanol gyfarfodydd pwynt i bwynt. Benderfynais i rhyw 15 mlynedd yn ôl bydden i'n hoffi cael ceffyl rasio a trio'n lwc i weld sut bydden i'n dod 'mlaen.

Felly ar ôl prynu'r ceffyl cynta' 'ma a mynd i stablau Efan Williams penderfynais i ar geffyl oedd ddim wedi ei enwi a'i alw'n Megabill ar ôl fy nhad a mam; Megan a Bill.

Dwi ddim yn gwybod os 'na'r peth gorau neu gwaethaf ddigwyddod i ni erioed gyda cheffylau ond enillodd y ceffyl bach ar y tro cyntaf aeth e mas i redeg a jockey o'r enw Christian Williams oedd yn marchogaeth y ceffyl. Wedyn mynd o fan 'na a falle mynd dros ben llestri a phrynu mwy o geffylau ond hefyd dechrau magu ceffylau.

Ffynhonnell y llun, Janet Davies
Disgrifiad o’r llun,

Ceffyl Janet, Minęła Missile, a enillodd 100fed buddugoliaeth iddi yn Cheltenham ar 17 Tachwedd

'Bywyd bonheddig'

Nid fi sy'n gofalu am y ceffylau 'ma ond yr hyfforddwr sef Evan Williams yn Llancarfan. Fe gyda'i dîm o weithwyr ymroddedig tu hwnt sy'n 'neud yn siŵr fod y ceffylau 'ma'n cael bywyd bonheddig iawn.

Mae'r diwydiant yn cyflogi llwythi o bobl - nid yn unig yn uniongyrchol yn y stablau ond yn anuniongyrchol. Mae milfeddygon yn dod, maen nhw'n cael eu pedoli ac ati felly mae yn ddiwydiant reit fawr.

Ar hyn o bryd mae gen i saith ceffyl - dau fach ifanc iawn sy' mas yn y cae achos bod nhw ddim yn ddigon hen i ddechrau ar eu gyrfa. Ni 'nath eu magu nhw felly maen nhw'n werthfawr iawn i ni. Mae pump arall yn cael eu hyfforddi - ceffylau newydd ar ôl cael llwyddiant eitha' da gyda'r rhai sy wedi ymddeol.

Ni wedi bod yn lwcus iawn i gael buddugoliaethau mawr - ennill dwy ras fawr, y Silver Trophy yng Nghasgwent gyda ceffyl o'r enw Court Minstrel. Fe hefyd yn ennill dwy ras yn Cheltenham - mae ennill y rasys mawr 'ma yn erbyn ceffylau y boneddigion sy' 'di costio degau o filoedd yn rhoi boddhad mawr bod eich ceffyl bach chi yn gallu cystadlu gyda rheiny a jest yn rhoi gwefr i chi o fwynhau y llwyddiant hynny.

Dwi ddim wir yn gwybod pam 'nath y diddordeb yn y ceffylau 'ma ddechrau ond dwi'n meddwl fod fy hen dad-cu i yn arfer gofalu am geffylau i'r meistr ar stâd Glancych a falle fod hwnna yn y gwaed. Mae yn rhoi boddhad ond mae mynd a cwrdd â gwahanol bobl a dod i 'nabod nhw a'u harferion a'u ffordd nhw o fyw yn ychwanegu at y diddordeb yn y ceffylau.

Pynciau cysylltiedig