'Bychanu' ffoadur wrth geisio teithio ar fysus am ddim

  • Cyhoeddwyd
Joseff Gnagbo
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Joseff Gnagbo bod gyrwyr wedi gwrthod gadael iddo deithio ar fws heb dalu, er ei fod yn gymwys, ar sawl achlysur, yng Nghaerdydd a thu hwnt

Mae ffoadur yn dweud ei fod wedi ei "fychanu" ar ôl cael ei wrthod rhag teithio am ddim ar fysiau, er ei fod yn gymwys.

Yn ôl Joseff Gnagbo, sy'n byw yng Nghaerdydd, mae hynny wedi digwydd yn y brifddinas a thu hwnt sawl gwaith mewn blwyddyn.

Mae un elusen ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn dweud bod hynny'n broblem gyffredin ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

Dywedodd Bws Caerdydd eu bod wedi ymchwilio i gwynion Mr Gnagbo.

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod "problemau" wrth weithredu'r cynllun.

Fe wnaethon nhw sefydlu'r cynllun teithio am ddim i ffoaduriaid ym mis Mawrth 2022, fel rhan o ymrwymiad Cymru i fod yn wlad noddfa ar ôl i Rwsia oresgyn Wcráin.

'Mae gyrwyr yn gweiddi arnoch chi'

Mae'r Tocyn Croeso yn caniatáu teithio diderfyn i bob ffoadur a rheiny sy'n ceisio amddiffyniad rhyngwladol, dolen allanol ar wasanaethau bws a threnau Trafnidiaeth Cymru yng Nghymru.

I brofi bod rhywun yn gymwys, mae'n rhaid dangos dogfen berthnasol, fel Trwydded Breswylio Fiometrig (BRP) sy'n nodi statws ffoadur.

Fe symudodd Mr Gnagbo, sy'n ffoadur o'r Traeth Ifori yng ngorllewin Affrica, i Gaerdydd yn 2018 ac mae'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Ers dysgu siarad Cymraeg ei hun, mae Joseff Gnagbo wedi rhoi gwersi i geiswyr lloches ac mewn ysgolion yn ardaloedd Caerdydd a Chasnewydd

Mae'n dweud ei fod wedi cael ei wrthod rhag mynd ar fysus Caerdydd a thu hwnt tua 10 o weithiau dros y flwyddyn ddiwethaf a'i fod wedi ei "fychanu".

"Weithia' maen nhw'n gweiddi arnoch chi," meddai, gan gyfeirio at yrwyr bws, "gan ddweud 'na, na, na... dere allan' o'r bws. Mae'n sefyllfa warthus iawn.

"Mae'n siomedig iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn dod â scheme gwerthfawr iawn... ac mae yna gyfle i wahaniaethu yn erbyn ffoaduriaid."

Problem eang

Dywedodd Kirran Lochhead Strang o elusen Oasis Cardiff, sy'n helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches, bod hon yn broblem eang.

"Mae gan bob ffoadur hawl i wneud hynny [teithio am ddim], ond dyw'r neges honno heb fynd lawr i'r bobl sy'n gweithio ar y bysus neu yn yr orsaf drên, felly dyw pobl ddim yn ymwybodol o beth ydi natur y prosiect."

Disgrifiad o’r llun,

Dydy hanfod y cynllun heb gael ei gyfathrebu i yrwyr, meddai Kirran Lochhead Strang

Yn ôl cwmni Bws Caerdydd, fe dderbynion nhw ddau gŵyn gan Mr Gnagbo, ym mis Chwefror a mis Mai eleni.

"Cafodd ymchwiliad ei gynnal i'r ddau gŵyn ac fe gafodd ateb ei ddarparu drwy'r tîm gwasanaethau cwsmeriaid yn unol â'n trefn arferol y cafon nhw eu derbyn yn gynharach yn y flwyddyn," dywedodd.

"Ar y cyd â chwmnïau bysys eraill yng Nghymru, ry'n ni'n rhan o gynllun Tocyn Croeso Llywodraeth Cymru ac yn falch o ddarparu trafnidiaeth saff a dibynadwy ar draws ein rhwydwaith i bawb."

'Cydnabod problemau'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein cynllun Tocyn Croeso wedi bod yn hanfodol wrth helpu'r rhai sy'n ceisio noddfa i integreiddio i gymdeithas Cymru.

"Rydym yn cydnabod y bu problemau wrth weinyddu'r cynllun ac rydym wedi cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru i weithredwyr yn ddiweddar.

"Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn Genedl Noddfa rydym yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys ceiswyr lloches, i archwilio opsiynau ar gyfer model cynaliadwy o'r Tocyn Croeso yng Nghymru."

Pynciau cysylltiedig