Diwedd cyfnod i siop Gymraeg 'Pethe Powys'

  • Cyhoeddwyd
Siop pethe pywys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y siop ei hagor ar ddechrau'r 1980au

Mae'n ddiwedd cyfnod yn y Trallwng wrth i siop Gymraeg 'Pethe Powys' gau ei drysau am y tro olaf ddydd Sadwrn, ar ôl bod ar agor ers 40 mlynedd.

Cafodd y siop ei hagor ar ddechrau'r 1980au ar ôl i griw o bobl leol ddod at ei gilydd i fod yn gyfranddalwyr ar gwmni Pethe Powys Cyf.

Yn ôl erthygl yn Plu'r Gweunydd, papur bro'r ardal, gweledigaeth Arfon Gwilym oedd sefydlu siop Gymraeg yn y Trallwng ac fe gafodd y cwmni ei ffurfio fis Tachwedd 1983.

R.O. Hughes oedd y cadeirydd cyntaf ac roedd pwyllgor o bobl leol yn gyfrifol am y stoc o nwyddau gwahanol a fyddai'n cael eu gwerthu yn y siop gan gynnwys llyfrau, cardiau a chryno-ddisgiau.

Gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn gweithio yn y siop ers blynyddoedd erbyn hyn.

Penderfyniad 'anodd a thrist' i gau'r siop

Mae erthygl Plu'r Gweunydd yn dyfynnu'r cyfranddalwyr sy'n dweud bod y "penderfyniad unfrydol... i gau'r siop wedi bod yn anodd a thrist, ond ymfalchïwn ein bod wedi gallu cadw'r siop i fynd am dros 40 o flynyddoedd".

"Diolchwn i bawb sydd wedi cynnal y cwmni dros y blynyddoedd a diolch arbennig i'r holl gwsmeriaid a'i cefnogodd."

Ymhlith y cwsmeriaid mae pobl o bob oed o'r dref a'r ardal gyfagos, ymwelwyr ac Ysgol Gymraeg y Trallwng a oedd yn archebu eu llyfrau trwy Pethe Powys.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Libby, Gwen, Caelan a Seren o Ysgol Gymraeg y Trallwng yn mwynhau dewis llyfrau yn y siop

Dywedodd rhai o blant Blwyddyn 6 y byddan nhw'n gweld eisiau mynd i'r siop.

Dywedodd Libby: "Mae e dipyn bach yn drist oherwydd mae popeth Cymraeg yna."

"Da ni'n gwneud grwpiau darllen a 'da ni'n archebu llyfrau i ddarllen fel dosbarth, ac maen nhw i gyd yn dod o Pethe Powys," meddai Gwen.

Dywedodd disgybl arall, Caelan: "Dydy pobl ddim wir yn prynu llyfrau rŵan, maen nhw'n cael fel audiobooks neu Kindles ar gyfer darllen."

Ychwanegodd Seren: "Dwi'n meddwl y bydd yn siom i'n teulu ni achos mae Dad yn dysgu Cymraeg ac mae e'n cael subscription i'r cylchgrawn Lingo. Da' ni'n mynd unwaith y mis ac mae Dad yn hoffi edrych rownd y siop."

Cyfle i bobl ifanc i barhau â'r fenter

Mae'r bardd a'r amaethwr Arwyn 'Groe' Davies o Ddyffryn Banw wedi bod yn gwsmer ers blynyddoedd.

Siop Pethe Powys yw'r lle i fynd "ar gyfer llyfr neu gardiau Cymraeg" meddai.

"Mae'r criw sy' wedi bod ynghlwm â Pethe Powys wedi bod ynghlwm â'r busnes ers y cychwyn cyntaf, ac felly mae'r criw - fel ydan ni i gyd - yn mynd yn hŷn ac wedi penderfynu camu 'nôl."

"A, phwy a ŵyr, falle bod hyn yn gyfle i rywun ifanc, os oes yna rywun â thân yn ei bol, falle bod yna gyfle i symud ymlaen gyda chynlluniau felly."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Arwyn 'Groe' Davies wedi bod yn gwsmer Pethe Powys ers blynyddoedd

Yn debyg i sawl tref ar draws Cymru, mae sawl siop wag bellach yn y Trallwng wrth i lai o bobl siopa ar y stryd fawr.

Mae'r cynnydd yn yr arfer o brynu llyfrau ar-lein hefyd wedi effeithio ar fusnes siopau lleol fel Pethe Powys.

Gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn gweithio yn y siop ers blynyddoedd ac mae'n debyg y bydd sawl un yn gweld eisiau'r cyswllt wythnosol gyda'r cwsmeriaid, fel mae'r cwsmeriaid yn mynd i golli'r siop.

Ers clywed y bydd yn cau mae sawl un wedi galw mewn i ddiolch i'r gwirfoddolwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sharon Closs, sy'n gweithio yng nghaffi Coco yn y dref, yn dweud ei bod yn "drist" i weld y siop yn cau

Dywedodd Sharon Closs, sy'n gweithio yng nghaffi Coco ar y stryd fawr: "Mae'n drist iawn yndydy gweld siop yn cau a busnes Cymraeg hefyd. Mae'n boblogaidd iawn efo pobl, visitors yn mynd yna i nôl pethau Cymreig.

"Mae 'na ychydig o lefydd wedi cau yn y dref, mae rhai wedi agor ond mae lot wedi mynd hefyd. Mae'n anodd."

Pynciau cysylltiedig