Eisteddfodau, o bosib, ar gofrestr treftadaeth UNESCO

  • Cyhoeddwyd
Tlysau eisteddfodau lleol

Gallai eisteddfodau a thraddodiadau Cymreig eraill fod yn cael eu hystyried ar gyfer cofrestr treftadaeth ddiwylliannol newydd y DU.

Mae Llywodraeth y DU yn cymeradwyo bwriad Confensiwn UNESCO i gofnodi nifer o draddodiadau er mwyn diogelu'r hyn "sy'n rhoi hunaniaeth i gymunedau".

Gallai hynny gynnwys gweithgareddau tymhorol fel y pantomeim, canu carolau, gweithgareddau dyddiau nawddsant, Hogmanay a dydd Mawrth Ynyd.

Mae'r cyfan, meddir, yn rhan o dapestri cyfoethog y DU ac fe allai traddodiadau eraill sydd wedi'u mewnfudo i'r DU hefyd gael eu cynnwys - er enghraifft y drymio yng ngharnifal Notting Hill.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru David TC Davies: "Mae gennym nifer fawr o draddodiadau ac arferion bendigedig yng Nghymru sydd yn ein gwneud yn genedl unigryw ac mae'n wych bod rhain yn mynd i gael eu cofnodi a'u cydnabod yn swyddogol.

"Mae'n bwysig cadw a diogelu etifeddiaeth fyw - ynghyd â safleoedd treftadaeth - a'u diogelu i'r genhedlaeth nesaf."

Dywedodd Gweinidog Celfyddydau a Threftadaeth San Steffan, yr Arglwydd Parkinson o Fae Whitley: "Mae gan y DU gyfoeth o draddodiadau sy'n cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

"Mae'r crefftau, yr arferion a'r gweithgareddau dathlu yma wedi helpu i ffurfio ein cymunedau gan ddod â phobl at ei gilydd - ac yn eu tro mae'r cyfan yn siapio pobl.

"Drwy gynnwys amrywiol draddodiadau bydd modd dathlu arferion gwerthfawr ar draws y DU a chefnogi'r bobl sy'n eu cynnal - bydd modd sicrhau hefyd bod arferion yn cael eu trosglwyddo i'r cenedlaethau sydd i ddod.

"Fe fyddan nhw yn cael yr un statws â mannau trefatadeth o bwys - llefydd fel Tŵr Llundain."

Yn y cyfamser mae modd i bobl leisio eu barn ar y bwriad mewn ymgynghoriad cyhoeddus - bydd yr ymgynghoriad yn ystyried sut mae enwebu traddodiad a pha nodweddion y dylid eu hystyried.

Pynciau cysylltiedig