'Her, ond mor bwysig, ailgydio mewn eisteddfodau lleol'
- Cyhoeddwyd
Mae'n her, ond yn galonogol fod nifer helaeth o eisteddfodau lleol Cymru wedi ailgydio eleni, yn ôl Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.
Dywedodd swyddog datblygu'r gymdeithas fod bron i 90% o eisteddfodau wedi ailsefydlu ers y pandemig.
Ond, fe ddywedodd Aled Wyn Phillips fod heriau ariannol yn wynebu pwyllgorau a bod rhai pryderon am nifer cystadleuwyr.
Un ardal sy'n falch, ond yn cydnabod bod heriau wrth ailgydio yn y traddodiad ers cyn y pandemig yw'r Hendy yn Sir Gaerfyrddin.
Mae plant yr ysgol leol wedi bod yn paratoi i groesawu'r eisteddfod yn ôl i'r pentref wedi pedair blynedd.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 13 Mai yn neuadd yr ysgol.
"Pan dw i'n eisteddfod yr Hendy dw i'n teimlo'n gyffrous a tipyn bach yn nerfus achos ma' lot o bobl yn gwylio ti," dywedodd Hannah, 9.
"Ond mae'n rili gyffrous i allu canu ac actio o flaen lot o bobl eraill."
Ychwanegodd Lily, 11 oed: "Dw i mor gyffrous achos mae'n ysgol ni a fi'n dwlu 'neud y llefaru hefyd."
"Dw i'n canu ben fy hunan, dw i'n llefaru a dw i'n canu yn grŵp parti unsain... dwi'n dwlu ymarfer," dywedodd Beca, 10.
Ac i Ebony, 10, sy'n rhan o ffrwd Saesneg yr ysgol: "Mae'n anhygoel cael cystadlu oherwydd ry'n ni'n cael canu yn Gymraeg."
Mae'r pennaeth, Mrs Rhian Kenny, yn falch fod gan y plant gyfle i arddangos eu doniau ar lwyfan lleol.
"Ma' nhw mor lwcus - achos maen nhw'n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd - ond i gystadlu yn eu milltir sgwâr, mae'n rhywbeth sbesial iawn.
"Mae'n dod â'r ysgol, mae'n dod â'r gymuned gyda'n gilydd a bydd hi'n hyfryd i weld cyn-ddisgyblion, bydd hi'n neis agor yr ysgol lan i'r gymuned unwaith eto.
"Ma' pawb yn cael cyfle, a jyst i ymfalchïo yn y Gymraeg unwaith eto."
'Her'
Ond er mor falch yw un o'r ysgrifenyddion hefyd, dywedodd Delyth Mai Nicholas fod y gwaith paratoi - yn ariannol ac wrth ddenu cystadleuwyr - wedi bod yn her ar ôl y seibiant.
"Ni wedi bod yn apelio at fusnesau a siopau lleol - 'wi wedi bod rownd y siopau a'r busnesau a nhwythau hefyd wedi bod yn gefnogol iawn i ni.
"O'dd rhaid, os o'n ni am i'r 'steddfod lwyddo 'leni, o ran cael gwobrau ac yn y blaen, o'dd rhaid mynd ar ôl bobl fel hyn i'n cefnogi ni.
"Mi roedd ein coffrau ni wedi mynd lawr ers 2019 - dim byd wedi digwydd wrth gwrs."
Ychwanegodd: "O'n ni yn sylweddoli wrth fynd at ambell i fusnes, bo' nhw'n dweud 'o, gallwn ni byth rhoi llawer i chi', o'n i yn sylweddoli ei bod hi'n galed iawn ar fusnesau hefyd wrth ein bod ni'n mynd atyn nhw.
"Wi'n credu ei bod hi'n her, nid yn unig i 'steddfod yr Hendy, mae'n her i steddfodau'n gyffredinol."
'Calonogol ond rhai'n bryderus'
Mae Aled Wyn Phillips, swyddog datblygu Cymdeithas Eisteddfodau Cymru'n cytuno, er bod nifer helaeth wedi llwyddo i ailsefydlu.
"Ar y naill law mae 'na newyddion calonogol iawn lle ni'n gweld rhywbeth fel 80 i bron i 90% o eisteddfodau wedi ailffurfio.
"O'dd na un 'steddfod bythefnos nol yn y Ffôr, y neges ges i o fanno oedd bod hi'n chaos wrth y drws achos o'dd na gyment wedi troi lan.
"Mae 'na bobl eraill falle wedi mynegi siom [gyda nifer y cystadleuwyr]."
Dywedodd bod costau'n "fwrn ychwanegol" wrth fynd ati i drefnu eto.
"Mae rhai 'steddfodau yn ffynnu'n ariannol, dw i'm yn gweud bod llwythi o arian ar gael achos mae'n costio arian i gynnal eisteddfod - o logi'r adeilad, talu beirniaid, cyfeilyddion, tystysgrifau, gwobrwyon ac yn y blaen.
"Ond y nod ydy cael pobl i gystadlu, cynnig y llwyfan 'na, fel bod gynnon ni dalentau cenedlaethol a rhyngwladol i'r dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd2 Awst 2022
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2021