Daniel Rae: Cyhuddo pedwar o bobl ar ôl llofruddiaeth 'tad cariadus'
- Cyhoeddwyd

Dywedodd teulu Daniel Rae ei fod yn "caru ei deulu a'i ffrindiau [a] bob amser yn eu rhoi nhw'n gyntaf"
Mae pedwar o bobl wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn 30 oed a fu farw wythnos yn ôl.
Cafodd corff Daniel Rae ei ganfod mewn eiddo ar Stryd y Dywysoges, Trefforest, nos Sul, 17 Rhagfyr.
Mae Kieran Ashton Carter, 22, o Birmingham, a dau ddyn ifanc 17 oed o Bontypridd - sydd ddim yn cael eu henwi am resymau cyfreithiol - bellach wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth.
Cadarnhaodd Heddlu'r De hefyd fod Grace Ellen Dresser, 21, o Drefforest, wedi'i chyhuddo o gynorthwyo troseddwr a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae'r tri wedi'u cadw yn y ddalfa a byddan nhw'n ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar Ŵyl San Steffan.
Mae dyn 33 oed a menyw 36 oed, y ddau o ardal Glyncoch, a gafodd eu harestio fel rhan o'r ymchwiliad, wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau barhau.
'Angen amser i ddod dros y sioc'
Yn y cyfamser, mae teulu Daniel wedi rhoi teyrnged i "fab, brawd a thad cariadus [sydd] wedi cael ei gymryd oddi wrthym yn llawer rhy fuan".
"Roedd ganddo galon enfawr, a chynhesaf, gyda phersonoliaeth mor ofalgar, doniol, a chariadus," meddai'r datganiad.
"Roedd yn caru ei deulu a'i ffrindiau, bob amser yn eu rhoi nhw'n gyntaf.
"Byddwn yn gweld dy eisiau yn ddiamod ac roeddem mor ffodus i dy gael yn ein bywydau, rydym bob amser yn trysori'r atgofion a wnaethom gyda'n gilydd.
"Fe fyddwn ni bob amser yn dy garu di, ac mae angen amser i alaru a dod dros y sioc o golli Daniel yn y ffordd erchyll yma."

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig ar Stryd y Dywysoges, Trefforest
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2023