Penodi Syr Dave Brailsford i fwrdd Manchester United
- Cyhoeddwyd
Mae Syr Dave Brailsford wedi'i benodi i fod yn aelod o fwrdd Manchester United.
Daeth y newyddion brynhawn Sul fod y biliwnydd o Brydain, Syr Jim Ratcliffe, wedi cytuno i brynu cyfran o 25% gwerth tua £1.25bn yn y clwb.
Fel rhan o'r cytundeb, bydd Grŵp Ineos - cwmni Syr Jim Ratcliffe - yn cymryd rheolaeth o weithrediadau pêl-droed United.
Bydd Syr Dave, a gafodd ei fagu yn ardal Deiniolen yng Ngwynedd, yn cael un o ddwy sedd Ineos ar fwrdd y clwb.
Mae Syr Dave yn arweinydd tîm yn Ineos ond mae'n adnabyddus yn bennaf am ei gampau yn y byd seiclo.
Nid yw'n glir eto beth yn union fydd rôl Syr Dave gyda thîm pêl-droed Man United o ddydd i ddydd.
Bydd Ratcliffe, 71, hefyd yn rhoi £236m ($300m) ar gyfer buddsoddiad yn stadiwm Old Trafford yn y dyfodol.
Daw'r cyhoeddiad 13 mis ar ôl i berchnogion y clwb, y teulu Glazer, ddatgan eu bod yn ystyried gwerthu.
Fe brynodd y teulu Americanaidd y clwb am £790m ($1.34bn) yn 2005.