Dyn mewn cyflwr difrifol ar ôl ymosodiad ddydd Nadolig
- Cyhoeddwyd

Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn dilyn ymosodiad ar Ddydd Nadolig, yn ôl yr heddlu.
Mae'r dyn 54 oed, o Bonymaen, Abertawe, yn yr ysbyty ar ôl iddo gael ei ddarganfod wedi'i anafu mewn gardd ar Heol Tegeirian tua 14:00 ddydd Llun.
Mae dynes 49 oed o Benlan, Abertawe, wedi ei harestio ar amheuaeth o ymosod ac yn parhau yn y ddalfa.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth ynghylch y digwyddiad i gysylltu â'r llu.