Arestio menyw 74 oed yn dilyn gwrthdrawiad angheuol

  • Cyhoeddwyd
Rhan o'r A48 ar gyrion Casnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A48, rhwng Casnewydd a phentref Maerun, tua 17:20 ddydd Mawrth 26 Rhagfyr

Mae menyw 74 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A48, rhwng Casnewydd a phentref Maerun, tua 17:20 ddydd Mawrth 26 Rhagfyr ble bu gwrthdrawiad yn cynnwys car Mini Cooper a beic.

Cafodd y seiclwr, dyn 51 oed o ardal Caerdydd, ei gludo i'r ysbyty ond bu farw yno yn ddiweddarach.

Mae gyrrwr y car, menyw 74 oed o ardal Caerdydd, yn cael ei holi yn y ddalfa ar ôl cael ei harestio.

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth neu luniau dash cam all fod o fudd i'w hymchwiliad i'r gwrthdrawiad.

Pynciau cysylltiedig