Sefyllfa gwasanaethau cymdeithasol yn 'aruthrol o anodd'
- Cyhoeddwyd
Mae darogan y bydd bwlch o dros hanner biliwn o bunnau yng nghyllidebau gwasanaethau cymdeithasol Cymru.
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod y tair blynedd nesaf yn edrych yn "aruthrol o anodd".
Heb arian ychwanegol, maen nhw'n rhybuddio y bydd gwasanaethau yn cael eu torri.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn wynebu sefyllfa ariannol hynod o galed.
"Argyfwng" yw disgrifiad Llinos Medi o sefyllfa ariannol gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae arweinydd Cyngor Ynys Môn yn llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
Yn ôl y gymdeithas, mae cynghorau'n wynebu mwy o alw nag erioed o'r blaen am wasanaethau plant ac oedolion.
Mae hynny wedi golygu gwario £108.7m yn fwy na'r disgwyl eleni.
Angen £646m yn ychwanegol
Mae'r gymdeithas, a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS Cymru), yn rhybuddio y bydd bwlch sylweddol yng nghyllid gwasanaethau cymdeithasol os bydd y gwasanaethau'n aros yr un peth dros y tair blynedd nesaf.
Maen nhw'n dweud y bydd angen £646m yn ychwanegol.
Mae hyn yn achosi "pryder mawr" meddai Llinos Medi.
"Os na ddaw'r arian mi fyddwn yn gweld, efallai, marwolaethau - pobl ddim yn gallu byw eu bywydau yn llawn, pobl yn byw bywyd unig, dim cefnogaeth i ofalwyr di-dâl sy'n ein cymunedau ni, dim cefnogaeth i'n plant bach ni sy'n cael eu geni i fewn i gartrefi bregus."
Dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi cyhoeddi unrhyw gynlluniau gwario y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn ariannol 2024-25.
Mae Mike Williams, un o reolwyr Cartrefi Cymru ers 15 mlynedd, wedi gweld y pwysau'n cynyddu.
"Dros y blynyddoedd, ma' wedi bod yn mynd yn anoddach a ma' poblogaeth Cymru yn byw yn hirach," meddai.
"Ma' pobl isio byw adre felly ma'r pressure wedi buildio i fyny."
Pwysau yno 'trwy'r adeg'
Mae Cartrefi Cymru yn cynnig gofal yn ardal Bangor, fel yn fflatiau hunangynhwysol Cae Garnedd, Penrhosgarnedd.
Ychwanegodd Mr Williams: "Y challenge mwya' ydy trio cadw'r waitinglist i lawr.
"'Dan ni'n lwcus ar y funud, does gynnon ni ond un neu ddau ar y list, ond ma'r pressure yno trwy'r adeg.
"'Dan ni'n lwcus ar y funud, ma' gynno ni ddigon o staff, ond 'dan ni wedi bod mewn lle, lle 'dan ni fel rheolwyr wedi gorfod mynd allan i wneud pethau hands on a falle gweithio 50 neu 60 awr yr wythnos."
Yn ôl Dr Marlene Davies, darlithydd llywodraeth leol ym Mhrifysgol De Cymru, mae'r argyfwng costau byw wedi cyfrannu at y problemau ariannol.
"Ma' hwnna yn bendant wedi gwaethygu pethe', achos hyd yn oed os y'n nhw'n cael yr un faint o arian bob blwyddyn, bydde still prinder oblegid y ffaith bod chwyddiant 'ma.
"Ma' costau benthyg arian wedi codi, tanwydd, ma' popeth felly wedi rhoi at y costau yma, falle fydde ddim wedi digwydd yn y gorffennol."
'Allwch chi ddim cau cyngor sir'
Mae rhai arweinwyr cyngor wedi rhybuddio y gallai cynghorau fynd i'r wal.
Ond dydy hi ddim mor syml â hynny, yn ôl Dr Davies, sy'n arbenigo mewn cyllid llywodraeth leol.
"Y realiti yw, allwch chi ddim cau cyngor sir, a phawb yn colli swyddi," meddai.
"Falle fydd rhai swyddi'n gorfod mynd oblegid y swyddi sydd ar gael, ond allwch chi ddim cau nhw lawr fel busnes."
Fe fyddan nhw'n dod o hyd i ffyrdd eraill o oroesi meddai Dr Davies.
"Ma' rhai ohonyn nhw 'da arian wrth gefn… ma' rhai ohonyn nhw'n gorfod gwerthu beth sydd ganddyn nhw - falle bod tir neu adeiladau a phethe'.
"A hefyd ma'n nhw'n mynd i godi treth - 'na'r unig ffordd ma'n nhw'n gallu gweld."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n wynebu sefyllfa ariannol hynod o anodd, ac yn gwneud "penderfyniadau anodd iawn" i geisio ail-gynllunio eu cyllideb ar gyfer 2024-25.
Dywedodd llefarydd: "Ry'n ni'n gwarchod setliad craidd llywodraeth leol - sy'n ariannu gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol - gan roi'r cynnydd o 3.1% i awdurdodau lleol a addawon ni'r llynedd.
"Ry'n ni hefyd yn edrych yn fanwl a oes angen cynyddu'r tâl am rai gwasanaethau, gan gynnwys gofal yn y cartref, yn sgil y sefyllfa bresennol."
Cyflog yn rhan o'r broblem?
Mae Mike Williams o Cartrefi Cymru yn gweld recriwtio staff yn anodd, ac mae'n teimlo bod y cyflog yn rhan o'r broblem.
"Mae wedi gwella yn y flwyddyn ddiwetha' - mae wedi mynd i fyny o £8.50 i £11.05 ac mae'n mynd i fyny eto i £12. Ma' hynna'n helpu ond dwi'n teimlo'n bersonol dyw o dal ddim digon i'r gwaith 'dan ni'n 'neud.
"Mae'n lot o responsibility. 'Dan ni'n gneud bwyd, 'dan ni'n watchiad ar ôl pobl, meddyginiaeth, siopa - ond dydy'r cyflog ddim digon da, yn anffodus."
Yr ateb, meddai Llinos Medi, yw rhoi mwy o "barch" i ofal cymdeithasol ac i'r gweithwyr, ac mae'n galw ar wleidyddion i "roi gwasanaethau cymdeithasol yn flaenllaw yn rhan o'u rhaglen nhw i redeg y wlad".
Angen talu am well gwasanaeth
Cytuno mae'r Dr Marlene Davies o Brifysgol De Cymru.
"Yn anffodus beth fydd yn digwydd yw, fyddwch chi'n talu mwy o dreth cyngor ond falle fydd rhaid i chi dalu mwy o dreth incwm," meddai.
"'Na'r unig ffordd chi'n mynd i gael gwell gwasanaeth, yw os y'ch chi'n mynd i dalu mwy ato fe."
Yn ôl Llywodraeth y DU, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw ariannu cynghorau Cymru.
Dywedodd llefarydd fod Cymru yn "derbyn y setliad ariannol mwyaf gan Lywodraeth y DU yn hanes datganoli".
Ychwanegodd: "Ry'n ni'n rhoi £18bn y flwyddyn, sy'n fwy nag erioed o'r blaen, ac mae Llywodraeth Cymru'n derbyn dros 20% yn fwy o arian y person na'r gwariant cyfatebol gan Lywodraeth y DU yn Lloegr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2023
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2023