'Storm berffaith' yn wynebu gwasanaethau plant
- Cyhoeddwyd
Mae 'na "storm berffaith" ar y ffordd gyda rhybudd nad oes gan wasanaethau plant ddigon o arian i ymdopi gyda’r galw cynyddol.
Yn ôl y corff sy'n cynrychioli arweinwyr gwasanaethau cymdeithasol (ADSS Cymru), mae pryderon hefyd am y dyfodol.
Mae ymchwil BBC Cymru yn dangos cynnydd yn nifer y cysylltiadau gyda gwasanaethau plant, gyda thua chwarter miliwn yn cael eu cofnodi rhwng 2022-23.
Dywed Llywodraeth Cymru bod yn rhaid i gynghorau wneud dewis anodd wrth osod eu cyllidebau a bod angen iddyn nhw adlewyrchu gofynion eu cymunedau wrth flaenoriaethu.
Yn ôl Alwyn Jones, llywydd ADSS Cymru sydd hefyd yn brif swyddog gwasanaethau cymdeithasol Wrecsam, mae cyfuniad o rwystrau’n wynebu cynghorau.
"Mae pob peth wedi dod at ei gilydd ar yr un pryd, mae cyllidebau o dan bwysau, ac mae'r gofyn am wasanaethau'n cynyddu. Ydy felly mae o'n teimlo fel storm berffaith," meddai.
"Mae’n bryder i ni ac mae’n rhan o’n rôl statudol ni ein bod ni'n cwrdd â gofynion statudol.
"Mae’r sefyllfa bresennol yn galed o ran bod ni’n gallu sicrhau bod gyda ni ddigon o staff a digon o adnodde - mae'n sialens i ni."
Gweithwyr 'wedi cael digon'
Yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth (FOI) gan BBC Cymru cafwyd ymateb gan 20 o’r 22 cyngor.
Ers 2021-22 mae nifer y cysylltiadau â gwasanaethau plant ym mhob un ond tri chyngor wnaeth ymateb wedi cynyddu.
Roedd y nifer uchaf yn Sir Ddinbych, gyda 8,202 o gysylltiadau, sy’n gynnydd o 59% ers 2021-22.
Ar gyfartaledd roedd y niferoedd wedi gostwng yn ystod y pandemig ond cododd yn gyflym ar ddiwedd y cyfnod clo.
Yn ôl Alwyn Jones mae sawl rheswm wedi cyfrannu i'r sefyllfa.
"Mae gynnon ni gynnydd mewn costau byw a'r effaith mae hynna'n cael ar bocedi teuluoedd ac unigolion.
"Sgil-effeithiau'r pandemig, y sialensiau ma' pobl ifanc yn dod allan o’r pandemig efo o ran problemau iechyd meddwl ac ymddygiad ac hefyd 'da ni'n gweld mwy o blant sy ddim yn mynd i'r ysgol," meddai.
Yn unol â’r heriau ariannol mae’n gallu bod yn anodd recriwtio gweithwyr cymdeithasol gyda chyfradd uchel o swyddi gwag yn y gwasanaethau plant ledled Cymru.
Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi gweithio ym maes amddiffyn plant.
Yn gadeirydd grŵp trawsbleidiol plant a theuluoedd yn y Senedd, mae’n bryderus am ddyfodol y gweithlu.
"Dwi’n poeni'n fawr fod bobl yn gadael y gwasanaethau gofal plant – maen nhw wedi cael digon," meddai.
"Mae 'na bwysau ofnadwy, mae pobl yn meddwl am eu hiechyd meddwl, er enghraifft.
"'Da ni'n gweld bod y cyllidebau mewn awdurdodau lleol ar draws Cymru mewn sefyllfa ofnadwy ond rhaid i ni sicrhau bod y gwasanaethau'n cario ymlaen."
Mae nifer yr ymchwiliadau amddiffyn plant, sy'n cael eu galw'n ymchwiliad Adran 47, hefyd wedi cynyddu, gyda 13 o'r 19 cyngor ymatebodd i gwestiynau BBC Cymru yn nodi hyn.
Mae ymchwiliad Adran 47 yn cael ei gynnal os oes risg o niwed sylweddol i blentyn.
Roedd cynnydd o 678% ym Mlaenau Gwent o gymharu â 2018/19, tra bod dros ddwywaith yn fwy o ymchwiliadau yng nghynghorau Caerffili a Chasnewydd o gymharu â phedair blynedd yn ôl.
Mae Delyth Lloyd Griffiths wedi bod yn weithiwr cymdeithasol ym maes diogelu plant ers dros 30 mlynedd.
Mae hi yn poeni bod llai o arian yn cael ei wario ar adnoddau ac ymyrraeth gynnar a bod yna gwtogi ar adnoddau elusennau.
"Ma' ishe i ni fynd nol i sefyllfa lle oedden ni rhyw 15 mlynedd yn ôl lle o'n i'n gwario ar wasanaethau'r NSPCC, er enghraifft – ma' rheini bron iawn wedi diflannu yng Nghymru," meddai.
Mwy am wasanaethau plant
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2023
"Ron i'n gwario ar wasanaethau Barnados, oedden nhw'n gwneud gwaith arbennig efo plant, yn unigol hefo plant, gwaith therapiwtig efo plant.
"'Da ni wedi gwario llai a llai ar y gwasanaethau yna yn y 15 mlynedd diwetha'.
"Dyna'r broblem sydd gyda ni nawr yw 'da ni yn asesu, 'dan ni'n gorfod asesu – ond beth sy gynnon ni i deuluoedd ar ôl g'neud yr asesiad yna? Hwnna yw'r cwestiwn hollol amlwg yng Nghymru rŵan."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y dirprwy weinidog dros wasanaethau cymdeithasol, Julie Morgan, wedi cwrdd ag arweinwyr Cymdeithasol Llywodraeth Leol Cymru sy’n gyfrifol am ofal cymdeithasol i glywed eu pryderon.
"Byddwn yn parhau i weithio'n agos drwy ein partneriaethau ar yr heriau sy'n wynebu gwasanaethau ledled Cymru," ychwanegodd.