Ymchwiliad i farwolaeth dyn 30 oed tu allan i ysbyty
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i Ysbyty Cwm Rhondda yn gynnar ddydd Llun
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal yn dilyn marwolaeth dyn 30 oed yn Rhondda Cynon Taf.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig wedi 05:15 ddydd Llun yn dilyn adroddiadau bod dyn ag anafiadau difrifol tu allan i faes parcio Ysbyty Cwm Rhondda, yn ardal Llwynypia, Tonypandy.
Dywed Heddlu De Cymru bod dyn 30 oed wedi marw o ganlyniad i'w anafiadau ac mae ei deulu wedi cael gwybod.
Ychwanegodd llefarydd bod dyn 30 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac yn y ddalfa.

Swyddogion fforensig yn ymchwilio ar safle'r ysbyty
Mae'r llu'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn ardal Pen Dinas o gwmpas 05:00 fore Llun 1 Ionawr a allai fod wedi gweld neu clywed rhywbeth.
Mae rhan o'r A4058, rhwng Porth a Thonypandy yn ardal Pen Dinas ar gau dros dro ac mae'r heddlu wedi diolch i'r cyhoedd am fod yn amyneddgar tra bo'r ymchwiliad yn mynd rhagddo.