Profiad dychrynllyd Cymraes wedi daeargryn yn Siapan

  • Cyhoeddwyd
Nerys Rees gyda'i gŵr, Yuichi Asai, a'i mab, Keita AsaiFfynhonnell y llun, Nerys Rees
Disgrifiad o’r llun,

Nerys Rees gyda'i gŵr, Yuichi Asai, a'i mab, Keita Asai

Mae Cymraes sydd allan yn Siapan wedi disgrifio'r ofn yn dilyn daeargryn yn yr ardal.

Mae difrod sylweddol ar hyd arfordir Siapan yn dilyn daeargryn maint 7.6 ar y raddfa Richter.

Hyd yma mae 60 daeargryn bach wedi taro'r wlad ac mae disgwyl mwy dros yr oriau nesaf.

Mae degau o filoedd o bobl sy'n byw yn agos at Fôr Siapan wedi cael cyfarwyddyd i symud i dir uwch.

Mae 'Rhybudd Tswnami Mawr' - y cyntaf yn Siapan er 2011 - a gafodd ei gyhoeddi ar gyfer ardal Noto bellach wedi'i israddio.

'O'dd e bach yn overwhelming'

Cafodd Nerys Rees, sy'n wreiddiol o Geredigion ond sydd wedi byw yn Tokyo er 2001, rybudd ar ei ffôn am ddaeargryn a tswnami tra ar wyliau yn ardal Toyama ar yr arfordir gyda'i gŵr a mab saith oed.

"Agoron ni ddrws y bedroom ac oedd y staff y gwesty yn dweud 'ok mae'n rhaid i chi adael. Dim iwso'r elevatros mae'n rhaid mynd lawr y staer.' Aethon ni lan y mynydd bach 'ma oedd bwys yr hotel."

Craciau yn y lon yn Wajima, IshikawaFfynhonnell y llun, KYODO Reuters

"Oedd y wybodaeth yn dda ond ar y dechrau o'n i ise gwybod mwy am daldra y tsunami. Hwnna oedd yn fy mhen trwy'r amser, fel pa mor dal ydy e'n mynd i fod? Ydyn ni'n ddigon uchel?"

"Oedd rhai yn eu 90au a'n ffili cerdded so o'dd rhai pobl yn rhoi nhw ar eu cefnau a'n mynd â nhw lawr y stâr. O'dd e bach yn overwhelming."

Mae yna adroddiadau o ddifrod sylweddol i gartrefi. Mae teulu Yuichi Asai, gŵr Nerys, yn byw ar hyd yr arfordir.

Meddai Nerys, "Ma' anti gŵr fi yn byw lan y coast bach a ma' dŵr nhw i gyd mas, so ma' nhw ffili cwcan, flushio toilet, golchi llestri neu dim byd fel ny'. Ma' tŷ mam gŵr fi, ma' part o'r tŷ wedi cwympo."

Craciau yn y ffyrdd yn Wajima, IshikawaFfynhonnell y llun, Kyodo Reuters

Yn yr oriau diwethaf mae'r 'Rhybudd Tswnami Mawr' gafodd ei gyhoeddi wedi ei israddio i 'Rhybudd Tswnami'. Ond mae'r rhybudd o ddaeargrynfeydd pellach ar draws y wlad yn parhau.

Mae Nerys wedi paratoi rhag ofn y bydd rhaid gadael ar frys.

"Fi wedi rhoi un bag yn barod gyda dŵr ynddo fe a phethe' twym. Fi 'di rhoi shoes a socks yn barod i wisgo. So fi jest wedi rhoi un bag ar bwys y drws a chotiau ni gyd achos mae'n eithaf oer 'ma ar hyn o bryd."