3 Llun: Lluniau pwysicaf Llinos Lee

  • Cyhoeddwyd
Llinos Lee

Os fyddai rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau bydden nhw?

Cyflwynydd Heno, Llinos Lee, sydd yn trafod rhai o'i hoff luniau gyda Cymru Fyw yr wythnos yma.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Dyma lun o fy nheulu bach i. Huw y gŵr, Guto sy'n ddeg a Gwenllian sy'n ddwy. Dyma ni yn Stadiwm y Principality ar ôl gwylio gêm Cymru yn erbyn De Affrica. Gêm gyntaf i Gwenllian oedd yn joio'r canu yn fwy na'r rygbi!

Mae Guto yn chwarae rygbi i glwb y Barri ac wrth ei fodd. Byse ei Dad wrth ei fodd yn gweld ei fab yn chwarae dros Gymru rhyw ddydd hefyd! Dwi ddim yn gwbod be fyswn i'n neud hebddyn nhw. 'Da ni o hyd yn dweud i'n gilydd 'Caru teulu bach ni'.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Merch o'r Barri ydw i ac er fy mod i wedi byw mewn sawl lle gwahanol does dim byd yn cymharu a Barrybados! Dyma un o fy hoff olygfeydd sef traeth Y Cnap. Dwi wedi treulio oriau fel plentyn ac oedolyn fan hyn, dwi'n teimlo llonyddwch yn edrych allan i'r môr.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Dwi'n teimlo'n freintiedig iawn fy mod i'n joio fy nghwaith. Ers fy nyddie cynnar yn cyflwyno Uned 5, Golffio - Ryder Cup, Y Tour De France, Giro D'Italia, Sport Wales a Heno dwi 'di cael profiadau anhygoel dros y byd i gyd.

Dwi di neud ffrindiau oes dros y blynyddoedd gan gynnwys y criw yma! 'Da ni wir yn cael laff yn gwaith bob dydd, mae nhw'n bobl sbesial iawn.

Hefyd o ddiddordeb: