3 llun: Lluniau pwysicaf Catrin Mara
- Cyhoeddwyd
Yr actores Catrin Mara, panelydd ar y gyfres newydd o Chwalu Pen ar BBC Sounds, sy'n dewis tri llun sy'n agos at ei chalon.
Dyma lun gafodd y teitl answyddogol 'ffrindia penna'' oherwydd dyna fuon ni erioed. Nain 'Talgoed' sydd yma efo fi. Dynes oedd a syniadaeth bell o flaen ei hamser. Roedd hi hefyd yn andros o hwyl a mor ifanc ei ffordd. Dwi'n credu ein bod yn gweld y byd trwy lens debyg iawn.
Yma gwelwn Cynog Dafis,Dafydd Wigley, Dad a Ieuan Wyn Jones yn cerdded i'r Senedd yn bedwar dros Blaid Cymru yn 1992.
Roedd hi'n foment arwyddocaol am sawl rheswm. Be' sydd yn aros yn y cof i mi ydy Mam yn sibrwd yn fy nghlust 'Dychmyga sut oedd teulu Gwynfor (Evans) yn teimlo yn ei weld o'n cerdded i mewn ar ei ben ei hun.'"
Rhwng Dad a Ieuan gallwch weld fy mrawd Rhods yn photobombio. Aeth o ymlaen i astudio gwleidyddiaeth.
Dwi'n caru'r llun yma o Mam. Mae hi'n adnabyddus yn Nghymru fel cantores ond yn y Bala fel cyn bennaeth Saesneg Ysgol y Berwyn.
Roedd hi hefyd yn cadw popeth i fynd tra roedd Dad yn gweithio yn Llundain. Tipyn o job efo dau teenager direidus a llond cwt o golomennod (nad ydy hi'n cîn arnynt) i'w tendio. Santes.
Hefyd o ddiddordeb: