Ysbyty Treforys yn atal ymwelwyr yn sgil cynyndd mewn afiechydon
- Cyhoeddwyd
Mae ymwelwyr wedi eu hatal rhag mynd i Ysbyty Treforys yn Abertawe wrth i nifer yr heintiau barhau i gynyddu yno.
Mae saith ward ynghau oherwydd heintiau sydd wedi eu hachosi gan norofeirws, Covid-19, ffliw a C. diff.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe bod ymweliadau wedi'u gwahardd o 08:00 ddydd Mercher, a does dim awgrym am ba hyd y bydd y gwaharddiad mewn grym.
Dim ond gofalwyr neu'r rhai sy'n ymweld â chleifion ar ddiwedd eu hoes sy'n cael mynediad i'r ysbyty.
Mae cleifion sy'n amau bod ganddyn nhw norofeirws wedi cael cais i gadw draw o adran achosion brys yr ysbyty.
Mewn datganiad, dywedodd y bwrdd iechyd: "Bydd ymweld â'r ysbyty yn ei chael ei gyfyngu i 'ymweld â phwrpas'."
Ychwanegon nhw: "Mae hawl gan rieni i ymweld â'u plant, ond gofynnwn i hyn gael ei gyfyngu i un rhiant ar y tro."
Mae'r datganiad hefyd yn nodi y gall norofeirws "fod yn fwy difrifol" i gleifion bregus yr ysbyty.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2022