Gwobrwyo lluniau o fam sy'n 'araf farw' o dementia
- Cyhoeddwyd
Mae ffotograffydd o Lanilltud Fawr ym Mro Morgannwg wedi'i gwobrwyo am luniau o'i mam sy'n byw â dementia.
Fe adawodd Helen Rimell ei swydd fel ffotograffydd proffesiynol yn Llundain ddwy flynedd yn ôl er mwyn gofalu am ei mam, 75, yn llawn amser.
Dywed ei bod wedi bod yn galaru am ei mam, Susan, ers iddi gael diagnosis o dementia fasgwlaidd cynnar yn 2015.
"Gyda dementia mae e fel petaen nhw'n marw sawl gwaith, yn araf," meddai.
Mae Ms Rimell wedi bod yn tynnu amrywiol luniau o'i mam ers degawdau ac wedi parhau i wneud hynny gan greu prosiect personol iawn o'r enw No Longer Here.
Mae lluniau Helen Rimell yn portreadu dirywiad graddol ei mam yn ei chartref yn Llanilltud Fawr.
Mewn un llun mae gwydr wedi torri mewn pwll o hylif ac mewn llun arall mae sebon gydag ôl dannedd - darlun sy'n dangos bod Susan wedi ceisio bwyta'r sebon ac sy'n portreadu ei hanallu bellach i wybod be' sy'n fwytadwy.
Mewn un llun mae Susan yn cael ei bwydo gan ei hwyres ifanc ac mewn llun arall mae hi'n gorwedd ar y gwely wedi anghofio sut mae gwisgo.
"Ro'n i'n ceisio prosesu'r galar a'r golled wrth iddi beidio bod yn hi ei hun," meddai Helen.
"Mae hi yma, ond dyw hi ddim, ac mae hi'n hi ei hun ond dyw hi ddim."
Yn ddiweddar mae lluniau Helen Rimell wedi cael grant o gronfa Bob a Diane - grant sy'n cael ei roi yn flynyddol i'r rhai sy'n portreadu Alzheimer's a dementia yn weledol.
Mae Helen a'i mam wastad wedi bod yn hynod agos.
"Hi oedd fy ffrind gorau. Ro'n i'n dweud popeth wrthi," meddai Helen.
"Roedd hi'n hwyl, yn ddoniol, caredig, yn ofalgar ac yn llawn empathi a thosturi.
"Hi oedd yr unig berson oedd wir yn fy neall i."
Yn 2010 fe gafodd Susan waedlif ar ei hymennydd ac yn y blynyddoedd wedi hynny fe ddechreuodd hi anghofio enwau pobl a rhai geiriau.
Wedi iddi gael diagnosis o dementia yn 2015 roedd datblygiad y salwch ar y dechrau yn araf.
Mae Helen yn cofio'n annwyl am eu taith o gwmpas Ewrop yn 2018.
"Roedd Mam yn anghofus ond roedd hi'n hwyl ac yn gwmni gwych," meddai.
"Roedd hi'n dwli ar y trip a bob dydd mi fydden ni'n cael Aperol Spritz wrth iddi fachlud."
Wrth i Covid gyrraedd y DU yn 2020 doedd hi'm yn bosib i Helen dreulio cymaint o amser gyda'i mam ac fe ddechreuodd sylwi fwyfwy nad oedd hi yr hyn yr arferai fod.
Doedd ei mam bellach ddim yn adnabod llefydd, a weithiau byddai hi'n mynd ar goll a byddai plismyn yn dod â hi'n ôl adref.
Byddai Helen yn mynd â'i mam yn aml i gartref ei phlentyndod yng Ngŵyr ond yn Chwefror 2020 doedd ganddi ddim atgofion o Langland o gwbl.
"Roedd hynny'n ergyd i mi," meddai Helen.
Yn ystod y pandemig doedd hi ddim yn bosib i ofalwyr Susan ddod i'w chartref ac ym Medi 2021 fe benderfynodd Helen symud adref i ofalu am ei mam.
"Mae'n anodd ymhob ffordd - yn feddyliol, yn emosiynol ac yn gorfforol," meddai Helen.
Ar un adeg roedd Susan yn cael cyfnodau o fod yn gas ac ymosodol.
"Roedd yn gas ganddi gael bath. Fe fyddai hi'n fy nghrafu, plygu fy mysedd ac yn fy nharo," meddai Helen.
"Ar y dechrau byddai hi'n aflonydd iawn - yn codi, eistedd, cerdded o gwmpas, symud dodrefn am oriau bob nos... roedd hi'n gwrthwynebu unrhyw ofal personol ac yn torri pethau. Petai'r drws ar agor fe fyddai hi'n crwydro ac felly roedd yn rhaid ei chloi hi mewn."
Dyw Susan bellach ddim yn gallu cynnal sgwrs, defnyddio cyllell a fforc a dyw hi methu mynd i'r toiled.
Ond mae yna eiliadau o hapusrwydd weithiau.
"Roedd Mam wrth ei bodd yn dawnsio. Ond i chi chwarae Elvis fe fyddai hi'n dawnsio ar draws yr ystafell fyw - nawr mae hi'n tapio ei throed," medd Helen.
Beth fyddai Susan, tybed, yn ei feddwl o'r lluniau?
"Fe wnaethon ni drafod cofnodi'r afiechyd, cofnodi ein perthynas - roedd e wastad yn rhywbeth ro'n i'n bwriadu ei wneud ac roedd Mam yn credu bod hynny'n bwysig," meddai Helen.
"Dwi wedi bod yn cofnodi be' mae wedi bod yn ei wneud, fwy neu lai, ers fy nyddiau prifysgol. Roedd hi wastad yn caniatáu i fi wneud hynny ac yn gefnogol i fy ngyrfa."
'Anodd cadw ffrindiau'
Pan roedd Helen yn fyfyrwraig fe wnaeth hi brosiect am gyflwr OCD ei mam, ac fe wnaeth hi ganiatáu i Helen dynnu llun ohoni yn noeth yn y bath.
"Rydyn ni wastad wedi cael y math yna o berthynas - ry'n ni'n dwy yn ymddiried yn ein gilydd," eglurodd Helen.
Mae'r blynyddoedd olaf wedi bod yn anodd i Helen wrth iddi ofalu am ei mam a chadw ei busnes i fynd.
Mae ei chartref yn Llundain dal ganddi ond mae'n teimlo ei bod yn byw mewn byd arall bellach.
"Roeddwn i'n arfer mynd i ddawnsio bedair gwaith yr wythnos ond nawr mae hi'n anodd cadw ffrindiau. Dwi ddim yn teimlo'n rhan o Lundain mwyach," meddai Helen.
"Does gen i ddim pwrpas i fywyd rywsut. Dwi mewn limbo tra bod pawb arall yn symud ymlaen."
Dywed bod dementia yn gwbl wahanol i'r hyn yr oedd hi'n ei gredu cyn iddi ddod yn ofalwr.
"Mewn ffilmiau ry'ch yn gweld hen bobl ddigon annwyl yn anghofio'ch enw ond ar y funud olaf maen nhw'n cofio sut mae dawnsio gyda chi a'u hoff gân.
"Ond nid fel'na mae. Mae eu personoliaeth gyfan yn newid - heb sôn am y dirywiad corfforol a'r ymddygiad ymosodol a phob dim arall sy'n dod gyda'r afiechyd."
Ond er y galar dyddiol a gorfod rhoi'r gorau i'w bywyd personol, dywed Helen ei bod yn falch ei bod wedi dewis gofalu am ei mam.
"Fe fyddwn yn gwneud hynny eto - fe wnaeth hi hynny i fi ac rwy' am roi'n ôl y cariad a roddodd i fi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd21 Medi 2020