Cyhuddo dau mewn cysylltiad â marwolaethau babanod

  • Cyhoeddwyd
Fan heddlu a swyddogion tu ôl tŷ ar stad Y Felin-wyllt
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyrff dau fabi eu canfod mewn tŷ ar stad Y Felin-wyllt fis Tachwedd 2022

Mae dau berson wedi cael eu cyhuddo yn dilyn ymchwiliad i farwolaethau dau fabi ym Mhen-y-bont.

Cafodd Heddlu'r De eu galw i dŷ yn ardal Y Felin-wyllt yn y dref ym mis Tachwedd 2022 ble cafwyd hyd i gyrff y babanod.

Mae Egle Zilinskaite, 30, a Zilvinas Ledovskis, 48, yn wynebu dau gyhuddiad yr un o gelu genedigaeth plentyn a dau gyhuddiad yr un o atal claddedigaeth gyfreithiol.

Bydd y ddau yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar 20 Chwefror.