Abertawe'n penodi Luke Williams yn rheolwr newydd
- Cyhoeddwyd

Bydd George Lawtey (chwith) a Ryan Harley (dde) hefyd yn symud gyda Luke Williams (canol) o Notts County i Abertawe
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi penodi Luke Williams yn rheolwr newydd.
Mae Williams yn ymuno â'r Elyrch o Notts County yn Adran Dau, a bydd yn olynu Michael Duff a gafodd ei ddiswyddo ar 4 Rhagfyr.
Dyma fydd yr eildro iddo weithio i'r clwb, wedi iddo dreulio cyfnod fel rhan o dîm hyfforddi Russell Martin yn nhymor 2021-22.
Dywedodd cadeirydd Abertawe, Andy Coleman bod y clwb wedi "dilyn prosesau manwl" wrth chwilio am hyfforddwr newydd, a bod Williams yn "arweinydd sy'n rhannu gweledigaeth y bwrdd ar gyfer dyfodol y clwb".

Roedd Luke Williams yn rhan o dîm rheoli Russell Martin yn Abertawe ac MK Dons
Williams oedd hyfforddwr Notts County pan enillodd y clwb ddyrchafiad o Gynghrair Genedlaethol Lloegr y llynedd, ac mae'n gadael y clwb yn y pumed safle yn Adran Dau.
Bydd Ryan Harley a George Lawtey hefyd yn symud o Notts County i Abertawe, ac wedi eu penodi yn is-reolwr a hyfforddwr.
Daeth cadarnhad bod Alan Sheehan, a gafodd ei benodi yn rheolwr dros dro, yn dychwelyd i'w rôl fel hyfforddwr, tra bod disgwyl i Kristian O'Leary a Martyn Margetson barhau yn eu swyddi hefyd.
Bydd gêm gyntaf Williams wrth y llyw yn erbyn Morecambe yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr ddydd Sadwrn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2023