Cwpan FA Lloegr: Abertawe drwodd i'r rownd nesaf

  • Cyhoeddwyd
Cwpan FAFfynhonnell y llun, Getty Images

Abertawe yw'r unig dîm o Gymru sydd yn bendant yn rownd nesaf Cwpan FA Lloegr wedi iddyn nhw drechu Morecambe yn y drydedd rownd.

Fe allai Casnewydd ymuno â nhw yn yr het os wnawn nhw lwyddo i drechu Eastleigh wrth iddyn nhw gwrdd am yr eildro, ar ôl ildio gôl hwyr a ddaeth â'u gwrthwynebwyr, oedd i lawr i 10 dyn, yn gyfartal.

Ond mae Caerdydd allan o'r gystadleuaeth ar ôl colli'n drwm oddi cartref yn erbyn Sheffield Wednesday.

Abertawe 2-0 Morecambe

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Charlie Patino'n dathlu sgorio gôl gyntaf Abertawe yn erbyn Morecambe

Roedd rhaid aros tan yr ail hanner am gôl yn Stadiwm Swansea.com yng ngêm gyntaf yr Elyrch dan eu hyfforddwr newydd, Luke Williams.

Fe gysylltodd Charlie Patino â chroesiad Sam Parker gan daro'r bêl gyda'i droed chwith i gornel y rhwyd.

Yr Adar Gleision gafodd y rhan fwyaf o'r bêl gydol y gêm yn erbyn y tîm o'r Ail Adran.

Gyda llai na phum munud i fynd o'r 90 fe rwydodd Jerry Yates i ddyblu'r fantais a sicrhau bod enw Abertawe yn yr het ar gyfer pedwaredd rownd y gystadleuaeth.

Sheffield Wednesday 4-0 Caerdydd

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Callum Robinson wedi sgorio wyth gôl mewn 10 gêm yng Nghwpan FA Lloegr ond cafodd ei ymgais o'r smotyn yn erbyn Morecambe ei arbed nos Sadwrn

Roedd y 10 munud agoriadol yn rhai dramatig, ond siomedig i'r Adar Gleision. Fe sgoriodd Josh Windass (2) i roi'r tîm cartref ar y blaen cyn i Gaerdydd gael dau gic o'r smotyn ben arall y cae - a methu â rhwydo y naill tro na'r llall.

Cafodd ymdrechion Ryan Wintle a Callum Robinson, wedi pedair a saith o funudau, eu harbed gan y golwr.

Aeth pethau o ddrwg i waeth pan rwydodd Romaine Sawyers (38) y bêl i'w rwyd ei hun, a diolch i ergyd Liam Palmer (40) roedd hi'n 3-0 i Sheffield United ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Gyda'r fath fantais roedden nhw'n fodlon i adael i Gaerdydd gael y rhan fwyaf o'r meddiant wedi'r egwyl, ac fe roedd yna 21 o ergydion at y gôl gan yr Adar Gleision.

Ond y tîm cartref gafodd y gair olaf, pan sgoriodd Mallik Wilks i wneud hi'n 4-0.

Casnewydd 1-1 Eastleigh

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chris Maguire yn sgorio o'r smotyn i sicrhau gêm gyfartal

Gyda llai na 10 munud ar y cloc roedd Casnewydd gôl ar y blaen ac Eastleigh, sy'n chwarae yn y Gynghrair Genedlaethol, i lawr i 10 dyn ers cyn diwedd hanner cyntaf di-sgôr.

Ond fe sgoriodd Chris Maguire (82) o'r smotyn i sicrhau gêm gyfartal yn Rodney Parade.

Mae'n eironig mai'r amddiffynnwr James Clarke oedd yn gyfrifol am y drosedd, yn erbyn Paul McCallum, a arweiniodd at y gic gosb.

Clarke oedd wedi rhoi'r Alltudion ar y blaen, wedi 56 o funudau, gydag ergyd droed dde o ganol y cwrt i gornel y rhwyd.

Bydd Eastleigh â'r fantais o chwarae ar eu tomen eu hunain pan fydd y ddau dîm yn cwrdd eto yn Stadiwm Silverlake cyn diwedd y mis.