Wrecsam drwodd i bedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam drwodd i bedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr yn dilyn buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Shrewsbury Town.
Er i'r Amwythig fwynhau'r gorau o'r meddiant a'r cyfleon - yn enwedig yn yr hanner cyntaf - daeth y gôl hollbwysig diolch i Tom O'Connor gydag 18 munud yn weddill.
Gwnaeth ergyd y chwaraewr ganol cae gymryd gwyriad cyn curo Marko Maroši yng ngôl y tîm cartref - er mawr foddhad y cefnogwyr oedd wedi teithio dros y ffin.
Bydd y tîm cartref yn siomedig o fethu â chymryd eu cyfleoedd ar ôl gorfodi sawl arbediad gan Arthur Okonkwo, yn ogystal â tharo'r trawst a methu cyfleon euraidd yn yr eiliadau olaf.
Ond tîm Phil Parkinson sy'n dathlu nos Sul gyda'r gobaith o wynebu un o'r mawrion yn y rownd nesaf.
Mae Abertawe hefyd yn y bedwaredd rownd wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Morecambe, ac fe allai Casnewydd ymuno â nhw yn yr het os maen nhw'n llwyddo i drechu Eastleigh pan fydd y ddau dîm yn chwarae eto wedi gêm gyfartal.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2024