3 Llun: Lluniau pwysicaf Non Williams
- Cyhoeddwyd

Non Williams
Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sy'n cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?
Y gantores bop ac un traean o'r grŵp Eden, Non Williams, sydd yn trafod rhai o'i hoff luniau gyda Cymru Fyw yr wythnos yma.


'Da ni'n lwcus iawn i gael lot o lunie o Eden yn perfformio ond dwi wastad wrth fy modd hefo llunie o'r ongl yma. O'r gynulleidfa. 'Drychwch lwcus 'dan ni i gael rhannu dyddie hapus fel yma! Jysd pawb hefo'i gilydd yn bloeddio canu, dawnsio, neidio o gwmpas, breichie'n yr awyr! Mae pawb yn yr un 'lle'. Dyma un o'r llefydd dwi fwyaf hapus a chyfforddus a mwyaf 'Non'.

A mewn cyferbyniad, dyma'r lle arall dwi'n teimlo'r mwyaf 'Non'! Ar ben fy hun mewn tawelwch tu allan gyda natur! Popeth yn y canol sy'n stressio fi! Mae 'di cymryd sbel i mi dderbyn dwi jysd ddim yn un o'r pobol 'na sy'n licio cymdeithasu lot! O'n i wastad yn meddwl bo' fi'n berson gwyllt a dwi yn, ond y math yma o gwyllt. Blêr, cyfnewidiol a syml!

Mae'n merch ni Kitty yn dysgu gwersi i mi sut i 'fod' yn y byd pob dydd. Dyma hi pan 'nath hi wisgo fel môr-leidr a lliwio craith sydd ganddi o dan ei llygad i 'neud o'n fwy amlwg. Yn hytrach na chuddio beth sy'n ei gwneud hi'n unigryw mae hi'n 'neud nhw'n fwy heb unrhyw gywilydd. Mae gan y ddwy ohonon ni awtistiaeth… sydd yn ein gwneud ni'n wahanol i rai. Ond tydi 'gwahanol' neu anarferol ddim yn meddwl wrong. Mewn byd sydd yn aml yn dathlu 'perffeithrwydd' mae'r llun yma'n rili sticio dau fys i fyny at y syniad stiwpid yna. Da iawn Kit.