'Diolch Anti Gwen am ysbrydoli cenedlaethau o gantorion'
- Cyhoeddwyd
Ddechrau Rhagfyr, bu farw Gwen Parry Jones. Yn wraig i'r diweddar gerddor Rhys Jones, ac yn fam i'r gantores a chyflwynydd Caryl Parry Jones, bu'n athrawes, arweinydd a hyfforddwraig ar gannoedd o gantorion yng nghyffiniau Clwyd am flynyddoedd lawer.
Yma mae Non Parry, ar ran aelodau'r band Eden, a gafodd eu hyfforddi gan 'Anti Gwen', yn rhannu ei hatgofion a maint ei dylanwad arnynt.
Pob tro mae Eden yn cael eu cyfweld mae'r cwestiwn yn codi "pwy ffurfiodd Eden?", a'r gwirionedd yw Gwen Parry Jones.
Yn ystod ein cyfnod yn canu gyda Chôr y Glannau, roedd gan Gwen y clustiau cerddorol arbennigol a hudol yna i wybod lleisiau pwy fyddai'n asio'n dda gyda'i gilydd ac yn aml bysa Rachael, Emma a finne yn canu gyda'n gilydd o fewn grwpiau bach yn ein cyngherddau mewn eglwysi, ysbytai, cartrefi gofal a phob math o ddigwyddiadau bach a mawr.
'Da ni mor lwcus o fod wedi cael y cyfleoedd a'r atgofion sbesial yna o dan ei harweiniad a'i gofal arbennig hi. Doedd dim un perfformiad neu gyngerdd yn bwysicach na'r llall i Gwen, doedd dim ots pwy oedd yn gwylio, roedd rhaid rhoi'n gore glas i'r gynulleidfa ar bob achlysur, a 'da ni'n dal i drio cadw at yr ethos yna blannodd Gwen ynddon ni.
Canu A dawnsio...
Rachael odd y fferfyn dwi'n amau, yn canu a dawnsio'n frwdfrydig gyda gwên fawr… roedd Gwen yn aml bron â thynnu'i gwallt yn trio annog Emma a fi i wenu tra'n canu: "For crying out loud, gwenwch genod! Meddyliwch am eich boyfriends neu rywbeth!" Felly i Gwen mae'r diolch ein bod ni erbyn hyn yn hapus ar lwyfan!
Iddi hi hefyd mae'r diolch bod Eden yn canu A dawnsio! Hi oedd ein coreograffydd cyntaf yn ystod ein dyddiau ysgol, yn aml yn practisio 'moves Gwen' yn y drive!
Sut mae diolch am yr oriau diddiwedd rhoddodd Gwen yn ei hamser sbâr prin i feithrin yr hyder, disgyblaeth a hunan-werth yno' ni? Gwen roddod 'sain' Eden i Eden.
Does dim ymarfer Eden yn mynd heibio heb un ohonon ni'n dyfynnu Gwen: "eyes and teeth genod!". A does dim sioe Eden heb hoel polish Mrs Gwen… gobeithio! Roedd hi'n mynnu perffeithrwydd ond yn y ffordd mwyaf doniol a chariadus.
Mae gan pob un o'i disgyblion hoff 'lein' gan Mrs Gwen fydd yn aros yn eu cof am oes, a chenhedlaeth ohonon ni, bellach yn ein 50au ac hŷn sydd gyda 'sol-ffa' yn styc yn ein 'filing cabinet' (term arall gan Gwen!)
'Dylanwad anferthol'
Mae dylanwad anferthol Gwen i'w gweld ym mherfformiadau rhestr fawr o'r cantorion sy'n serennu ar lwyfannau heddiw; Steffan Rhys Hughes, Tara Bandito, Rebecca Trehearn, Amber a Jade Davies… mae'r rhestr yn hirfaith. Pob un wedi treulio nosweithie yng nghartref Rhys a Gwen, yn cael gwersi llawn laffs ac 'unwaith etos'. Ac enw'r cartref? Llawenydd, sydd yn deud y cyfan.
A nid dim ond 'perfformwyr' oedd yn cael sylw ganddi. Roedd pawb yn Ysgol Dewi Sant Y Rhyl, ble bu Gwen yn dysgu am dros bedair blynedd ar bymtheg yn cael eu pum munud sbesial 'yn y ffrynt' i ddisgleirio. Cannoedd ohonon ni dal i gofio pob llinell o'r cân actol, parti deulais, parti hyn, llall ac arall!
Roedd hi'n barti diddiwedd yn dy gwmni Gwen… ac ymarferion diddiwedd weithie! Ond 'RARGIAN gatho ni hwyl yn 'neud!
I'r nifer fawr fawr ohonon ni ga'th y fraint o gael ein dysgu gan Gwen Parry Jones, mae'n colled ni'n fawr a'n dyled ni'n fwy.
Diolch Anti Gwen, ti oedd Y GORE yn y busnes.
Non, Rachael ac Emma xxx
Hefyd o ddiddordeb: