Person wedi'i arestio ar ôl marwolaeth plentyn yn Hwlffordd
- Cyhoeddwyd
Mae person wedi cael ei arestio yn dilyn marwolaeth plentyn yn Hwlffordd.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael eu galw i gyfeiriad ar Heol y Farchnad Uchaf fore Mercher.
Ychwanegodd y llu eu bod yn "ymchwilio i'r amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth plentyn".
Mae un person wedi cael ei arestio, a dywedodd yr heddlu eu bod yn "meddwl am y teulu ar yr adeg anodd hwn".
Dyw'r heddlu ddim wedi darparu mwy o wybodaeth.