Chwilio am ddyn sydd ar goll ers deuddydd yn y Carneddau
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaethau brys yn chwilio am ddyn sydd wedi mynd ar goll yn y Carneddau yn Eryri.
Mae Heddlu'r Gogledd yn gofyn am gymorth y cyhoedd i ddod o hyd i'r dyn o'r enw David.
Fe gafodd ei weld ddiwethaf yn yr ardal rhwng Llyn Ogwen a Charnedd Llywelyn ddydd Mawrth 9 Ionawr.
Maen nhw'n credu ei fod yn gwisgo siaced ddal dŵr las llachar a throwsus du, gyda bag mawr ar ei gefn ac offer cerdded.
Fe wnaeth hofrennydd Gwylwyr y Glannau o Faes Awyr Caernarfon ymuno â'r chwilio amdano ddydd Iau.