Machynlleth: Taith 10 munud i gymryd awr wrth i ffordd gau

  • Cyhoeddwyd
Gwenan Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwenan Roberts yn feichiog ac mae'n poeni y gallai'r daith i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth fod yn hir iawn

Mae pobl sy'n byw yn ne Gwynedd yn poeni y bydd cau ffordd boblogaidd am fis yn cael effaith fawr ar yr ardal.

Fe allai teithiau sydd fel arfer yn cymryd 10 munud bara hyd at awr a hanner ar y llwybr gwyriad swyddogol pan fydd yn rhaid cau'r ffordd rhwng Machynlleth a phentref Pennal.

Mae disgwyl i bont newydd yr afon Dyfi, sydd wedi costio £46m, agor i draffig ddechrau mis Chwefror.

Ond ar ôl i'r bont newydd agor bydd rhannau o'r A493 a'r A487 yn cau am fis o 10 Chwefror ar gyfer gwaith draenio ac i osod mesurau tawelu traffig.

Mae pryder am oblygiadau hyn i blant ysgol, pobl sydd angen ymweld â'r meddyg teulu neu'r ysbyty ac ambiwlansys sy'n ymateb i argyfyngau.

Dywed Llywodraeth Cymru nad oes dewis arall ond "cau'r A493 er mwyn codi pont a fydd yn cynnig llwybr mwy diogel a gwydn drwy'r ardal".

Dywedodd llefarydd y bydd dargyfeiriad yn ei le ac "rydym yn gweithio gyda'r contractwr i darfu cyn lleied â phosibl".

Disgrifiad o’r llun,

Gallai'r daith rhwng Machynlleth a Phennal gymryd dros awr ym mis Chwefror

Mae trigolion Pennal yn dweud y bydd y dargyfeiriad swyddogol yn ychwanegu mwy na 40 milltir at eu teithiau, er bod llwybr arall ar hyd ffordd B a fyddai'n lleihau'r dargyfeiriad i 30 milltir.

Mae Gwenan Roberts, sy'n byw ym Mhennal, yn disgwyl babi ym mis Mawrth.

Mae'r dyddiad sydd wedi'i roi ar gyfer yr enedigaeth ar ôl y dyddiad y mae disgwyl i'r A493 ailagor.

Ond mae Ms Roberts yn poeni os nad yw pethau'n mynd yn ôl y cynllun, y gallai hi wynebu taith hirach i'r uned famolaeth yn Aberystwyth.

"Dwi jyst yn bryderus," meddai. "Dwi yn poeni os yw'r babi yn dod yn gynnar, tair wythnos yn gynnar, mae'n mynd i fod yn premature fel y mae ac os dwi'n gorfod mynd dwy awr mewn ambiwlans, neu ddwy awr o siwrne… achos dyw'r gwasanaethau brys ddim yn gallu dod yn gyflym chwaith pan fydd y ffordd ar gau, sy'n bryder mawr dim jyst i fi ond i unrhyw un yn y pentre."

Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad arlunydd o'r bont newydd

Mae Aelod o'r Senedd Dwyfor Meirionydd, Mabon ap Gwynfor, wedi codi pryderon trigolion lleol yn y siambr.

Dywedodd: "Mae gen i bryderon dybryd am fod y ffordd yn cau ac am yr amser mae'n mynd i fod ar gau.

"Mae'n mynd i gael effaith andwyol ar gymunedau o amgylch yr ardal yma yn bennaf Pennal ac Aberdyfi, a'r bobl sy'n byw yno ac yn gorfod teithio ar draws y Ddyfi. 

"Mae trigolion yr ardal yn pryderu'n arw am hyd y daith o Bennal yr holl ffordd fyny heibio Cross Foxes ac yna lawr i Fachynlleth - pobl sydd fel arfer yn cymryd 10 munud, chwarter awr i fynd i'r feddygfa, bydd yn cymryd dros awr iddyn nhw.

"A phan mae rhywun yn ystyried efallai bydd angen cael ambiwlans mae hynny yn destun pryder aruthrol."   

Y cwmni adeiladu Alun Griffiths enillodd gytundeb Llywodraeth Cymru i godi'r bont newydd.

Gwnaeth y cwmni gais i Gyngor Gwynedd i gau'r ffyrdd. Mae'r hysbysiad am y cau yn dweud ei fod yn angenrheidiol "ar sail iechyd a diogelwch… yn ystod gwaith gosod draeniau a thawelu traffig."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Llywodraeth Cymru nad oes dewis arall ond "cau'r A493 er mwyn codi pont a fydd yn cynnig llwybr mwy diogel a gwydn drwy'r ardal"

Mae'r hysbysiad yn cynnwys manylion am y dargyfeiriad swyddogol - ar gyfer pobl sydd eisiau teithio o Bennal i Fachynlleth, y dargyfeiriad sy'n cael ei argymell yw trwy Aberdyfi, Tywyn a Dolgellau.

Mae'r gwyriad tua 46 milltir o hyd a byddai'n cymryd awr a hanner. Mae dargyfeiriad byrrach - tua 29 milltir o hyd - ar hyd y B4405 drwy Dal-y-Llyn.

Pan mae'r ffyrdd ar agor, mae pedair milltir rhwng Pennal a Machynlleth, taith o 10 munud.

Taith hir i'r ysbyty yn Aberystwyth

Mae Aled Rees, aelod o Gyngor Cymuned Pennal, yn dweud ei fod yn poeni fwyaf am y risg i bobl mewn argyfwng.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled Rees, aelod o Gyngor Cymuned Pennal wedi cynnig bod gwaith yn cael ei wneud dros nos

"Beth sy'n digwydd os oes rhywun yn cael trawiad ar y galon, strôc, beth bynnag? Mi ydan ni awr o Aberystwyth fel ydan ni heb sôn am y dargyfeiriad. Allwch chi roi tri chwarter awr arall ymlaen ar yr amser yna a 'dach chi'n mynd i fod bron i ddwy awr.

"'Dan ni fod o fewn yr awr euraidd i gyrraedd ysbyty - wel, fyddwn ni ddim.

"Dwi wedi argymell [wrth y contractwyr] y dylai bod nhw'n gweithio nos, gweithio 24 awr y dydd [er mwyn gorffen y gwaith yn gynt].

"Ond beth maen nhw wedi dweud yw nad ydyn nhw eisiau creu disturbance i'r bobl sy'n byw wrth y bont."

'Tarfu cyn lleied â phosibl'

Dywed Mabon ap Gwynfor AS ei fod e hefyd wedi awgrymu syniadau i leihau'r aflonyddwch.

"Dwi wedi galw ar y llywodraeth i gydweithio efo'r contractwyr i edrych ar weithio yn y nos, ond wedi siarad â'r contractwyr mae'n debyg nad ydy hynny yn bosib oherwydd natur y gwaith.

"Mae rhai wedi sôn am falle cyflwyno pont beili dros y Ddyfi ond eto mae hynny'n amhosib. Mae rhai wedi edrych ar agor ffyrdd cefn yn yr ardal, ond mae hynny wedi profi'n amhosib. Felly mae'n ymddangos nad oes unrhyw ddewis arall."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd y bont newydd yn cynnig llwybr mwy diogel a gwydn drwy'r ardal gan sicrhau nad yw'r ffordd bellach yn cael ei heffeithio gan lifogydd. 

"Bydd y gwaith yn cael ei wneud trwy gydol mis Chwefror a bydd yn cynnwys gwaith gwella draenio a fydd hefyd yn diogelu rhes o eiddo rhestredig Gradd 2 ar yr A493. 

"Bydd angen cau'r A493 ond bydd dargyfeiriad yn ei le ac rydym yn gweithio gyda'r contractwr i darfu cyn lleied â phosibl."