Cyhuddo menyw o lofruddio plentyn yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi cael ei chyhuddo o lofruddiaeth wedi marwolaeth bachgen saith oed yn Sir Benfro.
Cafodd yr heddlu eu galw i Heol y Farchnad Uchaf yn Hwlffordd am 10:45 fore Mercher 10 Ionawr ac yn fuan wedyn cafwyd cadarnhad bod bachgen saith oed wedi marw.
Cafodd Papaipit Linse, 42, ei harestio ddydd Mercher.
Mae hi wedi'i chadw yn y ddalfa a bydd yn mynd ger bron llys fore Sadwrn.
Yn gynharach dywedodd yr heddlu eu bod yn "meddwl am y teulu ar yr adeg anodd hon".
Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.