Ateb y Galw: Ifan Huw Dafydd
- Cyhoeddwyd

Yr actor, Ifan Huw Dafydd sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.
Mae'n adnabyddus i gynulleidfa'r sgrîn fach yng Nghymru a thu hwnt am chwarae rhan cymeriadau fel 'Dic Deryn' ar Pobol y Cwm a Jac yn y ffilm Martha Jac a Sianco.
Mae hefyd wedi troedio llwyfannau ar draws y wlad, ond yn fwy diweddar, fe ymddangosodd yn nrama Mr Bates v The Post Office ar ITV yn chwarae rhan Noel Thomas yn y ddrama. Roedd Mr Thomas o Ynys Môn ymhlith rhai o'r cyn-bosfeistri gafodd eu cyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Y cof cynta' sy' 'da fi yw, a ma' raid mod i abyti dwy falle, yw haid o gywion hwyaden mewn adfail o sied ar waelod yr ardd yn Llangeler. Cofio 'u gweld nhw yn martsio mewn llinell tu ol i'r fam ar hyd llwybr yr ardd.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Sdim dwywaith amdani, Sir Benfro. Sdim tebyg i watsho'r haul yn machlud yn goch ar noson o haf ym Mhorthgain.

Perfformiad llwyfan o The Drawer Boy yn Theatr Clwyd
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Y nosweth ore o'dd, pan ges i wbod bod y ferch, o'dd wedi ca'l 'i geni wythnos cynt, yn mynd i fod yn iawn.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Tew, hen, diamynedd.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Tri ohonnon ni o flaen y prifathro, y gansen eisioes mas ar y bwrdd. Y prifathro - Jimi Hendrics fel o'dd e'n ca'l 'i alw - yn bytheirio a bwgwth fel arfer, pan darodd DJ y gnec fwya' swnllyd erio'd. Cwpwl o eiliade wedyn fe 'nath y drewdod fwrw ni. O'dd hi'n amhosib i beidio gigglo yn afreolus. Fe gethon ni'n hala o'r 'stafell gyda'r addewid y bydden yn ca'l ein cosbi 'fory! 'Na'r d'wetha glywon ni - diolch DJ.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Colli refferendwm 1979.

Ifan Huw Dafydd yn serenu yn y ffilm Martha, Jac a Sianco
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Mae wedi bod yn flwyddyn ofnadw i ni fel teulu, fe gollon ni aelod annwyl iawn.' Dyw'r dagre byth ymhell o dan yr wyneb ar hyn o bryd.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Wy'n dala i gnoi 'y ngwine bob hyn a hyn - yn enwedig os odw i yn nerfus.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
'The Grapes of Wrath' gan John Steinbeck. Llyfr 'nath fy argyhoeddi yn ifanc iawn fod pob person yn haeddu ca'l 'i drin ag urddas a taw rhyw fath o sosialaeth yw'r unig ffordd o wneud hynny.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Stewart Jones. Cwmnïwr a storïwr gwych, actor anhygoel. Fe licen i ga'l awr fach o'r sbort 'na unwaith 'to.

Stewart Jones a fu farw yn 2011 yn actio yn rhaglen 'Glas y Dorlan'
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n un o fois y Sosban.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Bod gyda fy annwyliaid, a photel o Penderyn falle.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Dwi'n ffindio unrhyw lun gan Van Gogh yn hudolus.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Dwi'n joio teithio, gweld y byd. Amal iawn fe fyddai edrych ar rhyw adfail yn rhywle a meddwl y buse'n wrth 'y modd yn deithiwr yn y Canol Oesoedd, gweld yr hen adfeilion ar eu hanterth. Ond dim ond am ddiwrnod - fusen i ise hedfan adre!