Dafydd Jenkins, 21, yn gapten Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad 2024
- Cyhoeddwyd
Mae Warren Gatland wedi enwi pum chwaraewr heb gap yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad sy'n dechrau fis nesaf.
Dafydd Jenkins, yn 21 oed, sydd wedi ei ddewis yn gapten yn sgil anaf i Jac Morgan.
Mae Cameron Winnett, Evan Lloyd, Alex Mann a Mackenzie Martin - oll o Rygbi Caerdydd - ynghyd â phrop Caerfaddon, Archie Griffin i gyd wedi eu cynnwys.
Nid yw Louis Rees-Zammit wedi'i gynnwys yn dilyn y cyhoeddiad annisgwyl ddydd Mawrth ei fod yn gadael rygbi yn gyfan gwbl er mwyn dilyn gyrfa Bêl-droed Americanaidd.
Dau enw mawr arall sydd ddim wedi eu cynnwys yw Dan Biggar a Leigh Halfpenny, wedi i'r ddau ymddeol o rygbi rhyngwladol wedi Cwpan Rygbi'r Byd y llynedd.
Dyw'r cefnwr Liam Williams ddim ar gael chwaith gan ei fod bellach yn chwarae yn Japan, tra bod Taulupe Faletau, Christ Tshiunza a Dewi Lake am fethu'r bencampwriaeth oherwydd anaf.
Bydd Cymru yn croesawu'r Alban i Stadiwm Principality yn eu gêm gyntaf yn y gystadleuaeth ar 3 Chwefror.
Carfan Cymru yn llawn
Blaenwyr: Corey Domachowski, Kemsley Mathias, Gareth Thomas, Elliot Dee, Ryan Elias, Evan Lloyd*, Keiron Assiratti, Leon Brown, Archie Griffin*, Adam Beard, Dafydd Jenkins (capten), Will Rowlands, Teddy Williams, Taine Basham, James Botham, Alex Mann*, Mackenzie Martin*, Tommy Reffell, Aaron Wainwright.
Olwyr: Gareth Davies, Kieran Hardy, Tomos Williams, Sam Costelow, Cai Evans, Ioan Lloyd, Mason Grady, George North, Joe Roberts, Nick Tompkins, Owen Watkin, Josh Adams, Rio Dyer, Tom Rogers, Cameron Winnett*.
*heb gap rhyngwladol
Ar unrhyw ddiwrnod arall mi fyddai'r newyddion am y capten newydd Dafydd Jenkins a'r pump sydd eto i ennill capiau rhyngwladol yn dipyn o stori ynddo'i hun, ond mae'r cyfan wrth reswm wedi llithro i'r cefndir yn sgil cyhoeddiad Louis Rees-Zammit.
Yr hyn sy'n amlwg ynglŷn â rygbi Cymru ar hyn o bryd yw'r naratif o ail-adeiladu ac edrych at y genhedlaeth nesa'.
Y gwir yw does fawr o opsiynau gan Warren Gatland yn sgil anafiadau a rhai'n ymddeol, mewn sefyllfa 'arferol' heb y wasgfa ariannol mae'n bosib na fyddai'r chwaraewyr yma wedi bwrw eu swildod ar y lefel rhanbarthol.
Mae hynny i gyd yn wir wrth gwrs ond mae'n gam anferthol i'r chwaraewyr hynny sy' mor ifanc ac mor ddibrofiad.
Dydd Sadwrn, 3 Chwefror - Cymru v Yr Alban
Dydd Sadwrn, 10 Chwefror - Lloegr v Cymru
Dydd Sadwrn, 24 Chwefror - Iwerddon v Cymru
Dydd Sul, 10 Mawrth - Cymru v Ffrainc
Dydd Sadwrn, 16 Mawrth - Cymru v Yr Eidal
Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap BBC Cymru Fyw ar Google Play, dolen allanol neu App Store, dolen allanol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2023