'Siomedig, rhwystredig': Y farn ar ddiwedd taith Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y cyd-gapten Dewi Lake fu'n mynegi ei siom wedi'r golled, ond yn mynnu y daw Cymru nôl yn gryfach

Siomedig, rhwystredig, ofnadwy - dim ond rhai o'r geiriau gafodd eu defnyddio gan gefnogwyr i ddisgrifio'u teimladau wrth adael y Stade Velodrome ym Marseille.

Er mai Cymru oedd y ffefrynnau wrth herio'r Ariannin yn y chwarteri, daeth eu siwrne yng Nghwpan Rygbi'r Byd i ben yn dilyn colled o 17-29.

Roedd disgwyliadau rhai cefnogwyr mor uchel fel eu bod nhw eisoes wedi archebu tocynnau a gwestai ym Mharis, yn disgwyl cyrraedd y rownd gynderfynol.

Ond roedd rhai o'r cefnogwyr hefyd yn awyddus i ganmol Cymru am eu perfformiadau yn y gystadleuaeth eleni, gan ddweud eu bod nhw wedi gwneud "yn well na'r disgwyl" yn barod.

Matthew Lloyd (dde)
Disgrifiad o’r llun,

"Ges i fy synnu gyda pha mor wael oedden ni," meddai Matthew Lloyd (dde)

Dywedodd Matthew Lloyd o Gastell-nedd fod perfformiad Cymru'n "ofnadwy".

"Doedd e ddim byd fel roedden ni wedi bod drwy'r grŵp," meddai. "Ges i fy synnu gyda pha mor wael oedden ni.

"Fi'n credu oedd lot o gefnogwyr yn rhy hyderus, ac yn dechrau edrych tuag at y rownd gynderfynol yn barod."

Carly a Toby, Llantwit Major
Disgrifiad o’r llun,

Carly a Toby o Lanilltud Fawr

"Gwarthus" a "rhwystredig" oedd y geiriau gafodd eu defnyddio gan Carly o Lanilltud Fawr wrth ddisgrifio perfformiad Cymru.

"Dwi ddim yn meddwl bod nhw wedi rhoi eu troed orau 'mlaen," meddai.

"Ac roedd e'n teimlo fel bod y dorf ar ochr Yr Ariannin o'r dechrau."

Cytuno wnaeth Fiona, gan ddweud nad oedd yr awyrgylch gystal ymhlith cefnogwyr Cymru o'i gymharu gyda'r gwrthwynebwyr.

Fiona (left) welsh who lives in france
Disgrifiad o’r llun,

Mae Fiona (chwith) yn Gymraes sy'n byw yn Ffrainc

"Chwarae teg, Ariannin oedd y tîm gorau ac roedden nhw'n haeddu ennill," meddai.

"Ond doedd 'na ddim cymaint o gefnogaeth i Gymru i'w glywed - roedd Archentwyr o gwmpas ni yn bobman.

"Naeth Cymru ei chael hi'n anodd yn yr ail hanner. Felly siomedig iawn bod y siwrne ar ben, ond da iawn i'r Ariannin."

Ffion (canol)
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ffion (canol) ei bod hi'n "credu eu bod nhw yn gwerthfawrogi'r fuddugoliaeth yn fwy na ni"

Roedd Ffion o Sir Benfro hefyd yn credu mai Ariannin oedd yn haeddu'r fuddugoliaeth.

"Roedd e'n gêm grêt a bod yn onest, a fi'n hapus iawn dros yr Archentwyr," meddai.

"Fi'n credu eu bod nhw yn gwerthfawrogi'r fuddugoliaeth yn fwy na ni, ac fe chwaraeon nhw'n dda.

"Rwy'n falch o'r bechgyn am gael mor bell â hyn - mae hynny'n gyflawniad ynddo'i hyn."

Alison (ail o'r chwith)
Disgrifiad o’r llun,

"Do'n i ddim eisiau mynd i Baris beth bynnag!" meddai Alison (ail o'r chwith)

Ychwanegodd Alison, hefyd o Sir Benfro, ei bod hi'n "siomedig ar ran tîm Cymru".

"Maen nhw wedi gwneud mor dda hyd yma - roedd e bron fel un gêm yn ormod.

"Do'n i ddim eisiau mynd i Baris beth bynnag!" meddai gyda'i thafod yn ei boch.

"Rwy'n credu roedd Dan Biggar yn stryglan, roedd Liam Williams yn stryglan, roedd camgymeriadau handling, ond fel'na mae pethau'n mynd."

Steve a Stewart
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Stewart Herbert (dde) - yma gyda'i frawd Steve - y dylai'r Archentwyr fod wedi cael cerdyn melyn

Dywedodd Stewart Herbert o Gwaun-cae-gurwen yng Nghastell-nedd Port Talbot y dylai Cymru fod wedi sicrhau mwy o bwyntiau tra'n rheoli yn yr hanner cyntaf.

Ond roedd hefyd yn grediniol y dylai'r Ariannin fod wedi cael cerdyn melyn hefyd, a hynny am yr ergyd ddadleuol i ben canolwr Cymru Nick Tompkins ar adeg hollbwysig yn yr ail hanner.

"Roedden ni'n rhy gyfforddus," meddai. "Oedd e'n mynd i gymryd mwy i ennill y gêm.

"Ond dim yellow card am yr hit am Tompkins, a fe'n gorfod mynd bant am HIA - ridiculous. Dim penalty hyd yn oed!"

Ian Morgan a'i ferch Lois
Disgrifiad o’r llun,

Fe deithiodd Ian Morgan (chwith) i Marseille gyda'i ferch Lois i wylio'r gêm

Roedd Ian Morgan o Dredegar yn gwylio'r gêm gyda'i ferch Lois, a hefyd yn cytuno y dylai Cymru fod wedi manteisio ar eu goruchafiaeth yn yr hanner cyntaf.

"Naethon ni jyst mynd i gysgu yn yr ail hanner, ddim dod mas," meddai.

"Roedd e'n siomedig iawn ond doedden ni ddim yn haeddu e."

Ychwanegodd Lois: "O'n i'n meddwl bod pethau'n edrych yn dda i ni ar ôl yr hanner cyntaf, ond doedden nhw jyst ddim lan i'r dasg.

"O'n i wir yn meddwl bod ni'n mynd i fynd drwyddo - o'n i'n gobeithio dod i'r ffeinal!"

Mel Jones (dde) a Jack Hudson
Disgrifiad o’r llun,

Er y wên fawr dros beint ar y diwedd, doedd Jack na Mel yn hapus gyda sut aeth y gêm ei hun

Dywedodd Jack Hudson, o Benyffordd ger Wrecsam, ei fod yn teimlo'n "devastated" gyda'r canlyniad.

"Ddaru ni golli yn y line outs, doeddan ni ddim yn gryf yn y forwards, a doedd y backs ddim yn chwarae heddiw," meddai.

"O'n i'n disgwyl i Gymru gyrraedd y semis, a dyna pam dwi mor devastated."

Ychwanegodd ei ffrind Mel Jones o Lanelwy: "Roedd y pressure oedd Ariannin yn rhoi ar y defence, oeddan nhw mor gyflym a mor gryf, a nhw oedd yn cymryd y gêm i Gymru - doedd 'na ddim llawer o ateb yn ôl."

Nia a Matthew Jones, Pontarddulais
Disgrifiad o’r llun,

Nia a Matthew Jones o Bontarddulais

Yn y bôn, fe wnaeth Matthew Jones o Bontarddulais grynhoi i'r dim sut roedd cefnogwyr Cymru'n teimlo ar y cyfan.

"Siomedig iawn, really flat, fel lot o gefnogwyr Cymru," meddai.

"Ond chwarae teg i'r Ariannin, nhw oedd y tîm gorau ar y dydd, a phob clod iddyn nhw."