Rygbi merched Cymru: "Cam i'r cyfeiriad cywir"
- Cyhoeddwyd
Daeth cyhoeddiad gan Undeb Rygbi Cymru ar 3 Tachwedd y bydd aelodau o garfan genedlaethol merched Cymru'n arwyddo cytundebau proffesiynol - y tro cyntaf i hyn ddigwydd yn hanes y gêm yng Nghymru.
Mae 2021 wedi bod yn siomedig hyd yn hyn i ferched Cymru, gan ddod yn olaf yn fformat dros dro ar gyfer y Chwe Gwlad - colli'n drwm yn erbyn Ffrainc (53-0) ac Iwerddon (45-0) cyn colli yn erbyn Yr Alban (27-20).
Ddydd Sul 7 Tachwedd bydd tîm rygbi merched Cymru'n dechrau eu hymgyrch cyfres yr Hydref, gan wynebu Japan ar Barc yr Arfau, Caerdydd, yna De Affrica a Chanada cyn diwedd y mis.
Felly beth yw sefyllfa gêm y merched yng Nghymru? A pha effaith fydd y cytundebau proffesiynol yn ei gael ar y gêm yma yn y dyfodol? Cyn-gefnwr Cymru, Dyddgu Hywel, sydd yn rhannu ei barn.
'Anghysondeb'
Gyda'r newyddion hynod gyffrous yma, mae rygbi merched yng Nghymru yn edrych ychydig yn fwy addawol i'r chwaraewyr ifanc o'r diwedd. Mae'r Undeb wedi cyhoeddi 10 cytundeb proffesiynol llawn amser, a 15 cytundeb retainer i ddechrau ar 1 Ionawr 2022. Bydd rhain yn gytundebau 12 mis.
Mae rygbi merched yng Nghymru wedi dioddef yn ddiweddar, gydag anghysondeb o fewn y timau rheoli a hyfforddi, dim rhaglenni cadarn a dim strwythur i ddatblygu chwaraewyr ar gyfer y lefel rhyngwladol. Mae'n bwysig cael cysondeb mewn sgwad yn ogystal ag awyrgylch diogel a hapus i gael y gorau allan o'r chwaraewyr.
Problem arall sydd wedi wynebu merched Cymru yn y blynyddoedd diwethaf yw'r diffyg llwybrau ar gyfer y merched ifanc sy'n chwarae rygbi. Dim clybiau cystadleuol, dim rhanbarthau a dim cyfleoedd i oedrannau dan 18 neu dan 20.
Yn ôl y cyhoeddiad gan yr Undeb, mae hyn hefyd yn cael ei ddatblygu, a bydd rhaglenni dan 18 a dan 20 ar gael ar gyfer merched Cymru yn fuan iawn i hyfforddi ac annog talent a pharatoi chwaraewyr ar gyfer y llwyfan rhyngwladol.
'Calonogol'
Mae'n gam i'r cyfeiriad cywir gyda'r cytundebau fydd yn cynnig ffioedd i'r merched am yr holl ymrwymiad - mae'n galonogol gweld yr Undeb yn buddsoddi yn gêm y merched.
Peidiwch â meddwl am eiliad y bydd cyflogau'r merched yn agos i'r dynion, neu'n agos i gyflogau timau merched Lloegr, Seland Newydd a Ffrainc.
Ond bydd cyfle yma i 10 chwaraewr ganolbwyntio ar rygbi, gyda'r gefnogaeth a'r adnoddau cywir i ddatblygu'r sgwad at Gwpan Rygbi'r Byd sydd yn Seland Newydd mewn llai na 12 mis.
'Cyfres hynod gyffrous'
Dros y tair wythnos nesaf bydd Cymru yn chwarae Japan, De Affrica a Canada yng nghyfres yr Hydref.
Mi fydd hi'n gyfres hynod gyffrous. Mae Cymru yn 11eg ar restr y Rugby World Rankings ar hyn o bryd. Mae Japan yn 12fed, De Affrica yn dilyn tu ôl yn y 13eg safle, ac mi fydd hi'n dipyn o gêm yn erbyn cewri Canada sy'n 3ydd ar restr detholion y byd.
Wrth edrych ymlaen at y gemau dwi wir yn gobeithio bydd y sgwad wedi troi cornel, yn anghofio am y gorffennol ac edrych ymlaen am y flwyddyn gyffrous o'u blaenau.
Mae'r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd iawn. Dwi'n hyderus bydd Cymru yn curo Japan, mi fydd hi'n gêm agos iawn rhwng De Affrica, ac mi fydd angen dipyn o berfformiad i drechu Canada.
O'r diwedd, mae pethau yn edrych yn well i dîm merched rygbi Cymru a gobeithio y bydd hyn hefyd yn dwyn ffrwyth yn ystod y gemau nesaf.
Hefyd o ddiddordeb: