Ysgol Uwchradd Caergybi: Concrit RAAC yn 'fwy o her na Covid'

  • Cyhoeddwyd
Stafell Caergybi

Mae addysgu disgyblion mewn ysgol llawn concrit diffygiol sy'n gallu dymchwel yn ddirybudd wedi bod yn "fwy o her nag ymdopi â Covid", meddai pennaeth ysgol uwchradd ym Môn.

Cafodd tua 60% o Ysgol Uwchradd Caergybi ei chau fis Medi diwethaf, oherwydd pryderon am goncrit RAAC o fewn adeiladau'r ysgol.

Ers hynny, dywedodd y pennaeth Adam Williams fod prif neuadd yr ysgol wedi'i defnyddio fel "canolfan alw" ar gyfer dysgu ar-lein, mae gwersi mathemateg wedi'u cynnal yn y gegin, a disgyblion y chweched dosbarth yn dysgu yn llyfrgell y dref.

Misoedd yn ddiweddarach mae'r ysgol wedi croesawu pob disgybl yn ôl i'r safle, er bod 40% o'r adeilad yn dal ar gau.

Colli 44 dosbarth

Mae RAAC yn fath o goncrit ysgafn oedd yn cael ei ddefnyddio'n aml rhwng y 1950au a'r 1990au. 

Haf diwethaf, yn dilyn adolygiad o rai o adeiladau cyhoeddus Lloegr penderfynodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch bod y concrit bellach wedi pasio ei gyfnod diogel, ac yn "dueddol o ddymchwel heb rybudd".

Disgrifiad,

Beth yw concrit RAAC a pham ei fod yn beryglus?

Pump o ysgolion Cymru gafodd eu heffeithio, ac Ysgol Uwchradd Caergybi oedd yr unig ysgol yng Nghymru y bu'n rhaid cau'n rhannol am gyfnod estynedig.

Collodd yr ysgol 44 ystafell dosbarth, 18 swyddfa ac wyth toiled, gan adael staff yr ysgol gyda dau ddiwrnod yn unig i ddod o hyd i ateb i'r trafferthion oedd yn wynebu dros 800 o ddisgyblion.

Yn ôl y pennaeth Mr Williams, "roedd y cyfnod yma yn fwy heriol na chyfnod Covid".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd pennaeth yr ysgol, Adam Williams fod y sefyllfa yn parhau yn "anodd"

"Dwi'n hynod o ddiolchgar i'r staff am y ffordd maen nhw 'di ymdopi gyda'r sefyllfa a'u gwaith caled wnaethon nhw i sicrhau bod y plant yn cael yr addysg gorau posib dan yr amgylchiadau anodd.

"Mae'r ffordd maen nhw wedi gorfod addasu wedi bod yn heriol tu hwnt. 

"Mae'n arbennig bod pawb 'nôl yn yr ysgol erbyn hyn, ond mae'r sefyllfa dal i fod yn anodd gyda thua 40% o'r safle allan o ddefnydd o hyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Effie wedi bod yn cael gwersi mewn ystafelloedd heb nenfwd, gan allu clywed y wers drws nesaf hefyd

Er yn falch i ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb, dywedodd Effie, 14, fod y misoedd diwethaf wedi amharu ar ei haddysg.

"Mae'r cyfnod ers i'r ysgol gau oherwydd y concrit wedi bod yn anodd iawn, ac mae dal yn anodd oherwydd bod rhai rhannau o'r ysgol dal i fod ar gau.

"Felly dwi'n cael gwersi Addysg Grefyddol yn y bloc technoleg ac mae rhai gwersi mewn ystafelloedd sydd heb nenfwd felly chi'n gallu clywed gwers drws nesaf.

"Mae'r athrawon yn gweithio'n galed iawn i gefnogi ni gorau posib ond 'di o ddim yr un peth. Mae'n sefyllfa rwystredig iawn."

Dywedodd ei ffrind, Cleo, 15, bod Covid ac yna'r concrit yn golygu ei bod yn "teimlo fel fy mod ar goll".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cleo wedi teimlo "ar goll" gyda'r holl amharu ar ei haddysg

"Doeddwn i heb gael gwers wyneb yn wyneb yn rhai o fy mhynciau TGAU tan yr wythnos hon a dwi'n pryderu ychydig am yr effaith hir dymor ar fy addysg."

Wrth ddisgrifio'r misoedd diwethaf, dywedodd Logan Jones, 15, ei fod yn "anodd gweithio heb unrhyw un i helpu ni yn y tŷ. O leiaf yn ystod Covid roedd rhywun arall adref hefyd."

Roedd Rhys, 17, ym Mlwyddyn 13, y chweched dosbarth, ac yn astudio mathemateg, ffiseg a dylunio, ond penderfynodd symud yn ôl i flwyddyn 12, oherwydd effaith y misoedd diwethaf ar ei astudiaethau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhys ei fod "100% yn poeni" am yr effaith ar ei raddau

Dywedodd: "Yn ffodus iawn rydw i wedi bod yn y chweched dosbarth felly rydw i wedi cael blaenoriaeth i ddod i mewn bob dydd.

"Ond dwi heb fod yn yr ysgol, dwi wedi bod yn y llyfrgell leol, sydd wedi achosi mwy o ddrwg na lles… lle nad oes gan yr athrawon fynediad i'r holl adnoddau.

"Dwi 100% yn poeni am yr effaith hirdymor ar fy ngraddau," meddai.

Mae Ysgol Uwchradd Caergybi mewn trafodaethau gyda CBAC, y bwrdd arholi yng Nghymru, i weld a oes modd ystyried yr effaith ar addysg y disgyblion. 

Mewn datganiad dywedodd y bwrdd arholi eu bod wedi ymweld â'r ysgol i weld effaith RAAC ar ddisgyblion.

"O ganlyniad, fe wnaethom gymryd camau gweithredol, yn unol â chanllawiau'r CGC, i leihau'r effaith, a oedd yn cynnwys ymestyn y dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno gwaith cwrs myfyrwyr. Rydym yn parhau i weithio gyda'r ysgol i reoli unrhyw effaith ehangach."

Erbyn hyn mae sawl rhan o'r ysgol wedi ail-agor, ond mae'r gwaith atgyweirio'n parhau gyda degau o ddosbarthiadau dal ddim ar gael. 

Dywedodd Aaron Evans, Uwch Reolwr Gwasanaeth Dysgu, Cyngor Sir Ynys Môn: "'Dan ni wedi bod yn agored 'efo Llywodraeth Cymru o'r cychwyn pan ddaeth y sefyllfa RAAC yma i'r amlwg.

"Maen nhw'n ymwybodol o'r costau tebygol a 'dan ni'n obeithiol wrth symud ymlaen bydd y llywodraeth yn gallu cefnogi yn ariannol. Dwi'n siŵr bydd y llywodraeth yn gwneud bod dim posib i gadarnhau hynny mor fuan â phosib 'efo ni."

Mewn ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae trafodaethau'n parhau gyda'r holl awdurdodau lleol sydd wedi cael eu heffeithio i ddeall y costau tymor byr a thymor hir sy'n gysylltiedig ag adfer RAAC."

Pynciau cysylltiedig