Cau dwy ysgol ar Ynys Môn ar ôl canfod concrit RAAC
- Cyhoeddwyd
![Ysgol David Hughes](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/0404/production/_130982010_f3b6237a-f8f6-4184-89a9-d17d23119050.jpg)
Ysgol David Hughes ydy un o'r rheiny sydd wedi'u heffeithio
Mae math diffygiol o goncrit wedi cael ei ddarganfod mewn dwy ysgol uwchradd ar Ynys Môn yn dilyn arolwg, meddai Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y gweinidog addysg, Jeremy Miles mai Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy ac Ysgol Uwchradd Caergybi yw'r ysgolion dan sylw.
Bydd yr ysgolion yn cau i ddisgyblion dros dro fel y gellir cynnal adolygiad diogelwch pellach o'r deunydd - a elwir yn RAAC ac sy'n gallu dymchwel yn ddirybudd.
Yn y cyfamser mae'r concrit hefyd wedi ei ganfod mewn un adeilad ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dywedodd y brifysgol eu bod wedi cau'r ardal nes bod "gwaith adfer priodol wedi ei gwblhau" ac y bydd arolygon yn digwydd mewn adeiladau eraill o'r wythnos nesaf.
Mae pob un o 22 awdurdod lleol Cymru yn asesu RAAC mewn ysgolion yn dilyn gwybodaeth newydd ddaeth i law dros y penwythnos, meddai'r llywodraeth.
Mae Llywodraeth y DU wedi adnabod dros 150 o ysgolion, colegau a meithrinfeydd yn Lloegr sy'n cynnwys y deunydd, gan gau llawer ar unwaith oherwydd pryder am ddiogelwch.
Mewn llythyr at rieni dywedodd pennaeth Ysgol David Hughes, Emyr Williams, mai'r gobaith yw y bydd modd i'r ysgol ailagor - yn rhannol neu'n llawn - erbyn dydd Iau, tra bo'r adolygiadau pellach yn cael eu cynnal.
"Mae persenoldeb RAAC wedi ei gadarnhau yn Ysgol David Hughes," dywedodd yn y llythyr.
"Gan ystyried y cyngor a roddwyd i leoliadau addysg Lloegr gan Lywodraeth y DU at 31 Awst, ac yn dilyn trafodaethau brys â'r Cyngor Sir sydd hefyd wedi bod mewn cyswllt a Llywodraeth Cymru, mae wedi ei gytuno i gau Ysgol David Hughes dros dro, am ddau ddiwrnod yn y lle cyntaf, fel y gellir cynnal archwiliadau diogelwch pellach a bod cynllunio amgen yn gallu digwydd.
"Bydd y newyddion yma yn sicr yn siom ac yn cael effaith ar deuluoedd.
"Fodd bynnag, gallwch fod yn dawel eich meddwl ein bod yn gweithio i leihau afionyddwch i ddysgwyr a staff gymaint a phosibl. Diogelwch dysgwyr a staff yw blaenoriaeth pawb o hyd."
Dywedodd y gweinidog addysg, Jeremy Miles fod ysgolion Cymru "yn ddiogel"
Roedd disgyblion i fod i ddychwelyd i'r ysgolion dan sylw ddydd Mawrth, ond yn y cyfamser daeth gwybodaeth newydd i law gan Lywodraeth y DU, a chafodd Llywodraeth Cymru ddim gwybod amdano tan nos Sul, yn ôl Mr Miles.
Dywedodd Mr Miles fod swyddogion technegol Cyngor Ynys Môn wedi cyfarfod am 08:00 fore Llun i asesu'r sefyllfa, a bod y penderfyniad i gau dros dro wedi ei wneud yn dilyn hynny.
"Mae'r awdurdod lleol yn cydweithio gyda phenaethiaid y ddwy ysgol, i hysbysu rhieni a gofalwyr y bydd y ddwy ysgol ar gau dros dro fel bod modd cynnal archwiliadau pellach, ac er mwyn rhoi cynlluniau amgen mewn lle," meddai.
"Tra bydd hyn yn hynod o anodd i rieni a gofalwyr ar fyr rybudd fel hyn, diogelwch dysgwyr, athrawon, staff, a rhieni a gofalwyr yw'r flaenoriaeth.
'Rhannu rhwystredigaeth'
"Yn wir rydym yn rhannu'r rhwystredigaeth ynglŷn â'r sefyllfa anffodus hon a wynebwyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Ynys Môn yn sgil y ffaith na chawsom yr wybodaeth newydd gan yr Adran Addysg (DfE) tan nos Sul."
Ychwanegodd y bydd rhagor o waith i gadarnhau'r sefyllfa ar draws Cymru yn mynd yn ei flaen ac y bydd adolygiad o'r wybodaeth ddiweddaraf.
"Rydym yn gobeithio cael y canlyniadau o fewn y pythefnos nesaf," meddai.
Yna bydd peiriannwyr arbenigol yn cydweithio gyda'r awdurdodau lleol a cholegau i gynnal adolygiad brys o unrhyw achosion newydd lle mae RAAC wedi'i ddarganfod.
"Rydym yn rhagweld y bydd y gwaith hwn wedi'i gwblhau erbyn diwedd Rhagfyr," meddai.
Mae undeb arweinwyr ysgolion ASCL wedi galw ar Lywodraeth Cymru i "ddarparu eglurder ar frys" ar ba mor eang yw'r defnydd o RAAC mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru.
![Ysgol Uwchradd Caergybi](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/A044/production/_130982014_0cf44b02-1cd2-4181-91cb-69fe1d97397c.jpg)
Bydd Ysgol Uwchradd Caergybi yn cau i ddisgyblion dros dro
Dywedodd arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Llinos Medi: "Rydym yn gwerthfawrogi y bydd hyn yn siomedig i'r holl staff a disgyblion.
"Fodd bynnag, eu diogelwch nhw yw ein prif flaenoriaeth.
"Rydym wrthi'n rhoi cynlluniau yn eu lle ar gyfer Ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi er mwyn lleihau'r aflonyddwch i addysg y plant.
"Bydd yr ysgolion yn darparu diweddariadau pellach i rieni/gwarcheidwaid pobl ifanc."
'Pryderus'
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru ac Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn fod y "sefyllfa'n un bryderus".
"Rydw i'n ddiolchgar i Gyngor Sir Ynys Môn am ymateb mor brydlon ac effeithiol.
"Y flaenoriaeth rŵan yw sicrhau bod yr asesiadau diogelwch angenrheidiol pellach sydd eu hangen yn digwydd mor fuan â phosibl, a byddaf yn sicrhau fy mod yn cael fy niweddaru'n gyson gan Gyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.
"Bydd wedyn angen canfod pam a sut na chafodd gwybodaeth ei rannu ynghynt gan Lywodraeth y DU."
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.
![Rhun ap Iorwerth](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/467A/production/_130124081_df551ac3-67d9-47b7-94d9-2fff22445900.jpg)
Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod angen gofyn "pam a sut na chafodd gwybodaeth ei rannu ynghynt gan Lywodraeth y DU"
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies: "Ni all gweinidogion Llafur yn y Senedd drosglwyddo'r baich.
"Nhw sydd yn gyfrifol am ysgolion yng Nghymru, felly eu cyfrifoldeb nhw yw diogelwch adeiladau.
"Yn wahanol i Loegr, lle y cymerwyd camau pendant gan y llywodraeth Geidwadol, mae Llafur wedi llaesu dwylo yng Nghymru a rhoi diogelwch disgyblion yn y fantol."
![Presentational grey line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/F31E/production/_130983226_5462e11c-08ad-4bc3-91c5-a2715f81a64c.gif)
Beth yw RAAC?
Yn ddiweddar, cafodd cleifion eu symud o Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, Sir Benfro, ar ôl i'r deunydd gael ei ganfod yno.
Mae hefyd wedi ei ganfod yn Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni, ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Yn dilyn hynny, cafodd arolwg ei gynnal ar ran Llywodraeth Cymru i weld a oedd unrhyw adeiladau eraill wedi'u hadeiladu gyda'r deunydd.
![RAAC](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1136F/production/_130511507_concrete.jpg)
Roedd concrit RAAC yn rhad ac yn cael ei ddefnyddio'n aml rhwng y 1960au a'r 1990au
Cafodd y concrit ysgafn - reinforced autoclaved aerated concrete (RAAC) - ei ddefnyddio'n aml rhwng y 1960au a'r 1990au.
Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi dweud bod RAAC bellach wedi pasio ei gyfnod diogel, ac yn "dueddol i ddymchwel heb rybudd".
Mewn cyfweliad ar Dros Frecwast ddydd Gwener, eglurodd y pensaer Alan Davies mai'r broblem gyda choncrit o'r fath oedd lleithder yn mynd i mewn ac yn achosi i'r deunydd fynd yn frau dros gyfnod, a hefyd yn rhydu'r bariau dur oedd i fod i gryfhau'r strwythur.
"Yn hytrach na dirywio ychydig dros amser ac efallai yn sigo ychydig, y gofid erbyn hyn yw eu bod nhw yn gallu methu yn gatastroffig ac felly torri yn hytrach na dim ond sigo ychydig," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2023
- Cyhoeddwyd1 Medi 2023
- Cyhoeddwyd15 Awst 2023