Port Talbot: Pam bod miloedd yn wynebu colli swyddi dur?
- Cyhoeddwyd
Mae'r BBC ar ddeall y bydd y cwmni dur Tata yn symud ymlaen gyda chynllun i gau ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot - cam a allai arwain at golli hyd at 3,000 o swyddi.
Daw'r penderfyniad wedi cyfarfod rhwng Tata a chynrychiolwyr undeb ddydd Iau, ac mae disgwyl cyhoeddiad swyddogol ddydd Gwener.
Datgarboneiddio'r safle yw'r nod er mwyn cynhyrchu dur mewn ffordd sy'n llai niweidiol i'r amgylchedd.
Ond mae'r cwmni hefyd wedi dweud eu bod yn gweld colledion gwerth £1m y dydd o'u gwaith drwy Brydain ar hyn o bryd, a bod rhaid ailstrwythuro.
Sut mae cynlluniau Tata'n effeithio ôl troed carbon y DU?
Targedau newid hinsawdd yn ogystal â phwysau ariannol sydd wedi arwain at newidiadau sylweddol i waith dur mwya'r Deyrnas Unedig.
Does unman arall yn y wlad sy'n cynhyrchu mwy o nwyon carbon deuocsid ar un safle.
Gallai cynlluniau'r cwmni i gau ei ffwrneisi traddodiadol arwain at oddeutu 20% o gwymp yn allyriadau carbon Cymru.
Ond mae rhai sy'n feirniadol o'r sefyllfa'n dweud mai'r gymuned leol sy'n talu'r pris gyda miloedd o swyddi'n cael eu colli.
Yn ôl un felin drafod mae'n dangos bod llywodraethau Prydain a Chymru'n methu yn eu huchelgais i symud at ddyfodol gwyrddach mewn ffordd cyfiawn a theg.
Beth yw'r broblem gyda ffwrneisi chwyth traddodiadol?
Mae creu dur o'r newydd mewn ffwrnais chwyth yn cynhyrchu llawer o allyriadau.
Mae carbon ar ffurf glo yn elfen allweddol yn y broses gemegol - mae ei angen i dynnu ocsigen o fwyn haearn, sy'n gadael haearn pur i'w droi'n ddur.
Ond mae'r ocsigen a'r carbon yn cyfuno i ffurfio... carbon deuocsid.
Yn ogystal, mae'r angen cyson, enfawr am bŵer ar y safle - sy'n gweithredu 24 awr y dydd drwy'r flwyddyn - yn ychwanegu at ei ôl troed carbon.
Mae Cymru a'r DU ymhlith nifer o wledydd sydd wedi gosod targedau sero net cyfreithiol i beidio ychwanegu mwy o garbon deuocsid i'r atmosffer erbyn 2050.
Beth yw ffwrnais arch drydan?
Byddai gosod ffwrnais arch drydan ym Mhort Talbot yn golygu bod y gweithfeydd yn newid cyfeiriad.
Yn hytrach na chreu dur newydd gan ddefnyddio deunyddiau crai, byddai'n troi at doddi metel sgrap, gan roi bywyd newydd i hen gynnyrch.
Dur yw'r deunydd sy'n cael ei ailgylchu fwyaf yn y byd ac mae'r DU yn cynhyrchu 10m tunnell o sgrap y flwyddyn, gyda llawer ohono'n cael ei allforio i weithfeydd dur dramor.
Fel mae'r enw'n awgrymu, byddai'r ffwrnais newydd yn rhedeg ar drydan a'r syniad dros amser yw y byddai hynny'n dod o ffynonellau gwyrdd fel gwynt a solar.
Beth mae hynny'n ei olygu i allyriadau'r safle?
Yn ôl Tata, gallai'r newid arwain at dorri tua 85% o allyriadau'r safle.
Mae hyn yn cyfateb i allyriadau bron i ddwy filiwn o gartrefi'n flynyddol.
Er y bydd dal angen rhywfaint o lo, nod y cwmni yw cyrraedd sero net erbyn 2045 drwy ddulliau allai gynnwys technoleg dal carbon a thanwydd hydrogen gwyrdd yn y dyfodol.
Yn y cyfamser, mae'r effaith ar allyriadau cyffredinol Cymru yn drawiadol, byddai'n doriad o 15-20%, tra byddai allyriadau'r DU yn gostwng 1.5%.
Ond... pan gaiff ystadegau allyriadau swyddogol y DU eu cyfri' dyw ôl troed carbon y nwyddau ry'n ni'n eu mewnforio ddim yn cael ei ystyried.
Mae'r undebau'n dweud bod yr hyn sy'n digwydd ym Mhort Talbot yn mynd i orfodi'r DU i fod yn ddibynnol ar brynu dur o wledydd sy'n symud yn arafach at ddulliau gwyrdd o'i gynhyrchu - yn y tymor byr o leiaf.
Bydd yn bedair neu bum mlynedd cyn bod y ffwrnais drydan newydd yn cael ei hadeiladu.
Hefyd mae'n rhaid ystyried yr allyriadau carbon deuocsid sy'n gysylltiedig â chludo dur ar gwch i'r DU.
Beth yw barn amgylcheddwyr?
Mae Kathy Oakwood, cydlynydd Cyfeillion y Ddaear yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn dweud ei bod am weld dulliau cynhyrchu dur mwy gwyrdd er lles y blaned.
Ond mae'n dadlau bod y cynllunio ar gyfer y newid wedi ei adael "i'r unfed awr ar ddeg", gan ddweud bod angen bod yn ofalus wrth geisio amddiffyn swyddi yn y gymuned.
Mae Kathy, fel yr undebau dur, yn ffafrio cadw un ffwrnais draddodiadol tra bod yr un drydan newydd yn cael ei hadeiladu.
"Mae'n bwysig iawn fod y gweithwyr yn cael eu trin yn deg - 'dyn ni ddim isie yng nghyfnod yr argyfwng costau byw bod lot o bobl yn colli swyddi. Nid dyma'r trawsnewidiad da ni angen."
Yn ogystal mae'r Sefydliad Materion Cymreig yn dweud dylai llywodraethau Cymru a'r DU fod wedi gwneud mwy i helpu i baratoi gweithwyr a sicrhau bod swyddi gwyrdd ar gael iddyn nhw o fewn yr ardal.
"Mae'r newid i sero net yn mynd i ddechrau teimlo fel cost a baich a rhywbeth sy'n peryglu eu swyddi - yn hytrach na gweledigaeth gadarnhaol o ddyfodol gwyrdd," rhybuddiodd y rheolwr polisi a materion allanol Joe Rossiter.
Mae'r ddwy lywodraeth wedi dweud eu bod yn rhan o gynllun bwrdd trawsnewid gwerth £100m, fydd yn helpu gweithwyr sydd wedi'u heffeithio i ail-hyfforddi a dod o hyd i waith newydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr
- Cyhoeddwyd17 Ionawr